Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 15 Chwefror 2023.
Felly, yn amlwg, mae CNC yn dod o dan bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n cael cyngor gan CNC ynghylch y cynnydd yn y trwyddedau rheoleiddiol y cyfeirioch chi atynt. Rwyf wedi gwneud ychydig o ymchwil i hyn ar ôl cael gwybod mai dim ond 37 o drwyddedau a roddwyd, ac mae hynny'n gywir. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod nad yw CNC yn ceisio gwneud elw o hyn. Yr hyn y maent yn ceisio ei sicrhau yw bod costau'n cael eu talu, ac nid oes cynnydd wedi bod ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n derbyn ei fod yn gynnydd sylweddol ar un tro. Ond fel rwy'n dweud, mae'r Gweinidog yn dal i ddisgwyl cyngor arno.