Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 15 Chwefror 2023.
Bydd y DU yn darparu £2.3 biliwn neu fwy o gymorth milwrol i ymgyrch Wcráin yn erbyn ymosodiadau Rwsia eleni, cymaint â'r llynedd neu fwy, pan anfonodd y DU fwy na 10,800 o daflegrau gwrth-danc, pum system amddiffyn awyr, 120 o gerbydau arfog, bwledi, dronau a mwy.
Mae sancsiynau wedi'u gosod ar dros 1,320 o unigolion ac endidau, a gwerth £275 biliwn o asedau wedi’u rhewi, gan daro economi Rwsia, cloffi strwythur milwrol ddiwydiannol Rwsia, a chosbi Putin a'i gynghreiriaid, gan gynnwys 120 o oligarchiaid sydd gyda'i gilydd yn werth dros £140 biliwn.
Mae 217,900 o fisâu wedi'u rhoi i helpu pobl o Wcráin ddod i'r DU. Ar 7 Chwefror, roedd hyn yn cynnwys 152,100 fisa a roddwyd fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, a 65,800 a gyhoeddwyd drwy'r cynllun teuluoedd o Wcráin. Mae’r DU hefyd wedi darparu £1.5 biliwn o gymorth economaidd a dyngarol i helpu pobl Wcráin, gyda £1.3 biliwn i helpu i gynnal gwasanaethau cyhoeddus Wcráin, ac oddeutu £220 miliwn mewn cymorth dyngarol ar gyfer angenrheidiau sylfaenol.
Roedd ffigurau diweddaraf Llywodraeth y DU ar 7 Chwefror yn dangos bod 8,762 o fisâu wedi’u rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwyr yng Nghymru, a bod 6,437 o bobl Wcráin wedi cyrraedd Cymru, 53 y cant wedi’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru a’r gweddill gan aelwydydd yng Nghymru. Mae rhagor o bobl wedi cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin. Sefydlodd Llywodraeth Cymru ei chynllun uwch-noddwyr i ddarparu cymorth llety a gofal yng Nghymru i 1,000 o bobl o Wcráin. Cafodd wared ar yr angen hefyd i ymgeiswyr gael eu paru ag unigolyn penodol cyn iddynt gael caniatâd i deithio i'r DU drwy'r system fisâu. Fodd bynnag, cafodd y cynllun ei oedi dros dro i geisiadau newydd ar 10 Mehefin y llynedd. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn rhoi amser i wneud trefniadau ar gyfer cam nesaf y llety, ac y byddai pob cais a wnaed cyn 10 Mehefin 2022 yn cael ei brosesu. Mae’n dal yn aneglur felly faint o’r 4,614 o fisâu a noddwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â cheisiadau a wnaed cyn 10 Mehefin 2022, a faint sy'n gysylltiedig â chynllun uwch-noddwyr a ailagorwyd ar ôl i Lywodraeth Cymru ystyried ei bod wedi gwneud trefniadau ar gyfer cam nesaf y llety.
Yn ei datganiad ar yr ymateb dyngarol ddoe, dywedodd y Gweinidog cyfiawnder cymdeithasol fod dros 1,300 o’r rheini y mae Llywodraeth Cymru wedi’u noddi bellach wedi symud i lety mwy hirdymor. Yn y cyd-destun hwn, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ymateb i ddatganiad y Gweinidog ddoe:
'Adroddir bod nifer o ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru wedi siarad â'r cyfryngau am yr anawsterau y mae nifer ohonyn nhw'n eu cael yn dod o hyd i lety a'i gadw. Er enghraifft, dywedwyd wrth ffoaduriaid o Wcráin y bu'n rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi nawdd nad yw canolfannau croeso yn opsiwn ar gyfer llety diogel, ac mae'n ymddangos bod landlordiaid yn amharod i dderbyn tenantiaid sy'n ffoaduriaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol.'
Wrth ymateb i’r Gweinidog dair wythnos yn ôl, cyfeiriais hefyd at achos y fam a’r ferch a ffodd rhag yr ymladd yn Wcráin ond sydd bellach yn wynebu digartrefedd wrth i’w noddwr yng Nghymru dynnu’n ôl, ac nad ydynt yn gallu fforddio rhent preifat a'u bod yn ofni y gallai fod rhaid iddynt fyw ar y stryd. Sylwais ymhellach fod Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y byddai’n darparu 700 o gartrefi modiwlar ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin eleni, gan gynnwys 200 ohonynt i letya 800 o ffoaduriaid o Wcráin, i'w hadeiladu erbyn y Pasg.
Ers 2003, rwyf wedi bod yn ymgyrchu gyda’r sector tai, gan rybuddio Llywodraeth Cymru fod Cymru’n wynebu argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd. Yn anffodus, fe wnaethant ein hanwybyddu, gan achosi’r argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru heddiw. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr opsiwn hwn felly, sef opsiwn tai modiwlar, pan fydd yn cael ei chyfran o gronfa newydd Llywodraeth y DU o £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i bobl Wcráin. Yn y cyd-destun hwn, mae gwaith canolfan gymorth integreiddio Pwylaidd Wrecsam ar goridor dyngarol, yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, yn cynnwys cynigion ar gyfer adeiladu tai dros dro. Ymhellach, mae ffocws carchar Berwyn yn Wrecsam ar adsefydlu drwy waith yn cynnwys cynhyrchu tai modiwlar ecogyfeillgar.
Mae ymateb dyngarol Llywodraeth Cymru i'r sefyllfa yn Wcráin wedi dibynnu i raddau helaeth ar ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys Link International, sy'n dod â grwpiau cymunedol a ffydd a sefydliadau'r trydydd sector ynghyd, gan weithio gydag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, mewn cydweithrediad ag asiantaethau statudol eraill a Llywodraeth Cymru; canolfan gymorth integreiddio Pwylaidd Wrecsam, sy'n cefnogi plant o Wcráin, pobl hŷn, pobl anabl a milwyr; y Groes Goch, sy'n cefnogi ac yn rhoi cartrefi i deuluoedd y disgyblion y cyfarfu Laura Anne Jones a minnau â hwy yn sir Ddinbych ddydd Gwener diwethaf; clybiau Rotari sydd wedi rhoi dros £6 miliwn mewn arian parod ac mewn nwyddau ac wedi rhoi mwy na 100,000 o oriau gwirfoddol i gefnogi Wcráin a’i phobl dros y 12 mis diwethaf; yr ymateb i'r ymosodiad ar Wcráin gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr; a llawer iawn mwy.
Mae'n rhaid inni ddiolch ar y cyd i bobl Cymru am eu caredigrwydd, eu haelioni a’u penderfynoldeb i gefnogi ein ffrindiau yn Wcráin. Mae’r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a ddarparwyd i Wcráin gan Lywodraethau’r DU a Chymru wedi bod yn hanfodol i gefnogi’r frwydr yn erbyn gormes. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon nawr. Galwaf felly ar bob Aelod i gefnogi’r cynnig hwn, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun hirdymor i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru, i sicrhau y gall Cymru fod yn genedl noddfa go iawn. Diolch yn fawr.