6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:26, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r blaid Geidwadol am gyflwyno’r ddadl hon; mae'n amserol iawn, wrth gwrs, oherwydd yr wythnos nesaf, byddwn yn nodi blwyddyn ers cychwyn yr ymosodiad hwn. Ar adeg pan fo pobl yn ceisio creu rhaniadau mewn gwleidyddiaeth, credaf ei bod yn dda cael cyfle i ddod at ein gilydd hefyd. Roeddwn yn gwrando ar Mark Isherwood yn agor y ddadl, a sylwais fod dau air a ddefnyddiodd yn britho fy araith innau hefyd, yn fy nodiadau yma: y cyntaf yw ‘creulondeb’ a’r ail yw ‘haelioni’.

Pan welwch ddigwyddiad rhyngwladol fel yr ymosodiad ar Wcráin, rydych yn gweld creulondeb ar ei ffurf fwyaf amrwd, a'r adeg hon y llynedd, gwelsom y lluoedd yn cronni o amgylch Wcráin a chelwyddau Putin wrth iddo honni nad oeddent yn cynllunio i ymosod ar y wlad honno. Ers hynny, rydym yn sicr wedi gweld Vladimir Putin yn comisiynu troseddau rhyfel, ac mae angen iddo gael ei ddwyn i gyfrif am weithredoedd ei filwyr dros y flwyddyn ddiwethaf hon.

Ond rydym hefyd wedi'i weld ei ormes creulon ar ei wlad ei hun, yn Rwsia. Darllenais ddoe am stori myfyriwr a oedd wedi sôn ar ei chyfrif Instagram ei bod yn gwrthwynebu'r rhyfel yn Wcráin. Mae hi’n gwisgo tag electronig ac yn wynebu blynyddoedd o garchar, dim ond am ddweud ei bod yn gwrthwynebu’r Llywodraeth ar Instagram. Mae'n greulondeb tuag at Wcráin, ond mae hefyd yn greulondeb tuag at bobl Rwsia. Mae angen inni allu dweud gyda’n gilydd fel Senedd y byddwn yn sefyll yn erbyn y creulondeb hwn, ac y byddwn yn cydsefyll gyda haelioni pobl ledled Cymru ac ar draws y gymuned ryngwladol sydd wedi cefnogi pobl Wcráin, ac sydd wedi estyn llaw i bobl Wcráin.

Fe fu’r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, sydd wedi arwain ymateb yng Nghymru i’r ymosodiad hwn mewn ffordd anhygoel ac emosiynol, a minnau'n sefyll ar y ffin ar y ffordd i Lviv ym mis Rhagfyr, ac fe wnaethom sefyll yno am dair awr ymhlith cerbydau eraill yn llawn o gymorth a roddwyd gan bobl o wledydd eraill i bobl Wcráin. Gwelsom haelioni dynol, ymrwymiad dynol ac undod dynol yn y tryciau a'r faniau a'r ceir hynny, yn yr eira, yn aros i groesi'r ffin i roi popeth roeddent wedi gallu ei gasglu yn eu gwledydd eu hunain i bobl Wcráin—haelioni gweithredol, haelioni o ran ysbryd a haelioni o ran ymrwymiad ac undod.

Rydym yn meddwl nawr am yr wythnos nesaf, sy'n nodi blwyddyn ers cychwyn yr ymosodiad, a gwelwn unwaith eto y milwyr yn cael eu cynnull ar ffiniau Wcráin, a gwelwn eto fod Putin yn benderfynol o chwalu ysbryd pobl Wcráin. Felly, fe ddywedwn eto y byddwn yn cydsefyll gyda phobl Wcráin, a dywedwn eto y byddwn yn parhau i weithredu mewn ysbryd o undod i sicrhau bod pobl Wcráin yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, nid yn unig i wrthsefyll yr ymosodiad a'r creulondeb, ond hefyd i ailadeiladu eu gwlad wedyn.

Rydym wedi gweld, yn fy amser i yma yn ceisio helpu i gefnogi pobl Wcráin—. Gwelsom beth oedd hynny'n ei olygu i bobl yn Lviv ym mis Rhagfyr. Yfory, byddwn yn gadael eto i deithio i Kyiv yr wythnos nesaf gyda mwy o gymorth, mwy o gefnogaeth. Mae Aelodau ar bob ochr i’r Siambr hon, o bob plaid a gynrychiolir yn y Senedd hon, wedi gweithio gyda’i gilydd er mwyn darparu’r cymorth sydd ei angen i ddarparu’r gefnogaeth honno a’r ymrwymiad hwnnw i bobl Wcráin. Ac mae hynny'n dyst, yn fy marn i, i rym democratiaeth seneddol.

Rydym hefyd wedi gweld pwysigrwydd ein strwythurau diogelwch, ein strwythurau amddiffyn a’n ffyniant economaidd yn y gorllewin yn cael eu profi fel erioed o’r blaen. Yr wythnos hon, roedd yn bwysig gweld arweinwyr NATO yn cyfarfod ac yn ailymrwymo i sicrhau bod gan fyddin Wcráin yr arfau rhyfel sydd eu hangen arnynt i amddiffyn eu tiriogaeth. Ac mae angen inni ddweud yn y cynllun—ac rwy'n derbyn bod y Ceidwadwyr wedi gofyn amdano, a hoffwn innau ei weld hefyd—y byddwn yn cefnogi diwydiant amddiffyn Cymru i gynnal y gwaith o gynhyrchu'r arfau rhyfel y mae gofyn amdanynt er mwyn amddiffyn pobl Wcráin. Byddwn yn parhau i ddadlau dros y cerbydau, y tanciau a’r arfau sydd eu hangen i amddiffyn pobl Wcráin. Nid yw geiriau cynnes yn dda i ddim pan fyddwch yn ymladd yn erbyn unben. Yr hyn sydd angen inni allu ei wneud yw sicrhau bod gan Wcráin y bwledi a'r ffrwydron a'r arfau rhyfel i amddiffyn eu tiriogaeth hefyd.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae rhyfel yn effeithio ar bobl. Mae'n effeithio ar fodau dynol. Mae’r lluniau a welsom dros y flwyddyn ddiwethaf ar ein sgriniau teledu wedi bod yn wirioneddol dorcalonnus. Mamau a thadau'n crio dros eu plant. Plant yn crio dros eu tadau a'u mamau. Fis Rhagfyr diwethaf, gwelais i a’r Cwnsler Cyffredinol blentyn yn ffarwelio â thad mewn iwnifform, yn sefyll wrth y safle bws yn Lviv yn nhywyllwch ben bore, mewn dagrau, yn ffarwelio. Lluniau rydym wedi’u gweld o’r blaen, ond lluniau a welsom mewn du a gwyn, ac nid lluniau roeddem yn disgwyl eu gweld yn lliwiau llachar yr unfed ganrif ar hugain.

Mae llawer ohonom wedi treulio oes yn ymgyrchu dros heddwch ar y cyfandir hwn, ac wedi bod yn dyst i realiti hil-laddiad ar y cyfandir hwn yn ystod ein hoes. Y wers y mae'n rhaid inni ei dysgu o Wcráin yw ein bod yn darparu'r holl gymorth sy'n angenrheidiol i amddiffyn Wcráin, ei phobl, ei phoblogaeth. Rydym yn helpu ac yn gweithio gyda Wcráin i ailadeiladu'r wlad wedyn. Ac yna, rydym yn dwyn i gyfrif, mewn tribiwnlysoedd rhyngwladol, y bobl sydd wedi creu'r creulondeb a'r rhyfel hwn. Yna, mae'n rhaid iddynt dderbyn cyfrifoldeb am y bywydau y maent wedi'u chwalu a'r difrod y maent wedi'i wneud i Wcráin a'n Hewrop ni. Diolch.