Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 15 Chwefror 2023.
Rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig hon heddiw ar y cynnig ar yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Hoffwn atgoffa Aelodau o fy nghofrestr buddiannau mewn perthynas ag ymddiriedolwyr elusennau.
Yn gyntaf, rwyf am adleisio sylwadau a wnaed o bob rhan o'r Siambr wleidyddol heddiw. Maent yn dangos undod gyda phobl Wcráin, ynghyd â phawb sy'n darparu cymorth hefyd. Ac fel yr amlinellwyd eisoes heddiw, mae'r golygfeydd a welsom yn Wcráin dros y 12 mis a mwy diwethaf wedi bod yn gwbl erchyll, yn dorcalonnus, gyda goresgyniad gwaedlyd a barbaraidd Putin ar Wcráin yn parhau, mwy o deuluoedd yn cael eu chwalu a'u gorfodi i ffoi o'u cartrefi er diogelwch. Mae'r goresgyniad hwn wedi brawychu'r byd ac wedi uno cenhedloedd democrataidd yn eu condemniad o weithredoedd creulon yr Arlywydd Vladimir Putin yn erbyn un o'n cynghreiriaid Ewropeaidd. Mae'r erchyllterau a welwn yn Wcráin yn mynd â ni yn ôl i gyfnod tywyll, cyfnod y credem ei fod yn gadarn yn y gorffennol ar gyfandir Ewrop, ond yn anffodus, nid yw hynny'n wir.
Rwyf eisiau gallu defnyddio fy amser heddiw i dynnu sylw'r Aelodau at bwynt 5 y cynnig heddiw. Hoffwn innau hefyd ddiolch i bobl Cymru am eu hymateb, am eu cefnogaeth ac am y cyfeillgarwch a ddangoswyd tuag at bobl Wcráin. Yn sicr, o ystyried pwyntiau Heledd Fychan nawr, mae yna bocedi o bobl yng Nghymru nad ydynt yn rhannu'r un gefnogaeth a llaw cyfeillgarwch, ond mae llawer o bobl ledled Cymru yn cynnig llaw cyfeillgarwch yn briodol i bobl sy'n ffoi o Wcráin.
Yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio'n arbennig ar grŵp o bobl a sefydliadau sy'n parhau i gefnogi ffoaduriaid Wcreinaidd yn gadarn, sef ein heglwysi a'u cynulleidfaoedd ledled Cymru, ni waeth beth fo'u henwad. Soniodd Mark Isherwood wrth agor am nifer o grwpiau ffydd a'r gwaith y maent yn ei gyflawni. Pan edrychwn ar eglwysi yn gyffredinol, dros y 12 mis diwethaf, drwy'r rhwydwaith Welcome Churches yn unig, sef sefydliad sy'n cynorthwyo eglwysi i gefnogi ffoaduriaid, mae dros 1,000 o eglwysi wedi croesawu bron i 18,000 o ffoaduriaid ledled y DU, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd gymaint o'u hangen.
Pan siaradwn am gefnogaeth i ffoaduriaid o Wcráin, rydym yn siarad am gefnogi'r unigolyn cyfan. Soniodd Alun Davies am hyn yn ei gyfraniad ychydig funudau'n ôl—mae'n ymwneud â chefnogaeth i bobl ac mae'r unigolyn cyfan yn cynnwys ei ffydd, yn enwedig yn ystod cyfnod o drawma a chaledi. Mae hyn yn hynod bwysig i'n ffrindiau yn Wcráin, oherwydd mae tua 85 y cant o bobl yn Wcráin yn nodi bod ganddynt ffydd Gristnogol, gyda bron i un o bob pump yn Wcráin yn mynychu gwasanaeth eglwysig bob wythnos. Felly, mae'n hollbwysig fod eu rhyddid crefyddol, a'u mynegiant ohono, yn gallu parhau tra'u bod yma yng Nghymru.
Cyn y ddadl hon, rwy'n siŵr fod aelodau o bob rhan o'r Siambr wedi derbyn briff gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr ynglŷn â'r gefnogaeth y maent hwy wedi bod yn ei ddarparu, sy'n sicr yn rhywbeth y dylem ei groesawu. Yn fwyaf arbennig, gan weithio gyda'r Eglwys Gatholig, mae Rhwydwaith Gweithredu Cymdeithasol Caritas wedi gwneud gwaith gwych yn cefnogi gwaith adleoli ffoaduriaid ar draws y DU, ond hefyd yn benodol yma yng Nghymru. Ar ben hyn, gwelwn sefydliadau fel CAFOD ac eraill yn cynnig cymorth ymarferol ar lawr gwlad yn Wcráin, fel darparu prydau bwyd a chymorth arall hefyd.
Hoffwn ganmol a diolch i eglwysi a'r eglwys yn ehangach, a grwpiau ffydd eraill, am gamu ymlaen yn ystod y cyfnod hwn a sicrhau bod y rhai sy'n cael cysur a noddfa mewn ffydd yn cael eu croesawu i gymunedau eglwysig gyda breichiau agored. Mae cymaint o eglwysi'n gwneud hyn gyda gwirfoddolwyr yn dawel ac yn ostyngedig, gan alw ar bob un ohonom i groesawu'r dieithryn.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gwneud cymaint i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Mae wedi bod yn sobreiddiol clywed cyfraniadau o bob rhan o'r Siambr hyd yma y prynhawn yma. Dyma'r amser i bob un ohonom barhau i fod yn unedig a gwneud yr hyn a allwn i gefnogi ein ffrindiau o Wcráin, gan ddwyn Putin a'i gynghreiriaid i gyfrif am eu hymosodiadau barbaraidd a diwahân ar sifiliaid diniwed Wcráin. Diolch yn fawr iawn.