Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 15 Chwefror 2023.
Mae Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr â phobl Wcráin am ddangos gwytnwch rhyfeddol yn wyneb ymosodiadau creulon parhaus Rwsia. Ac mae'n fy nigalonni, flwyddyn ers goresgyniad anghyfreithlon a barbaraidd Putin—fel y dywedodd Sioned Williams ddoe—yn Wcráin fod y rhyfel yn parhau. Mae troseddau rhyfel erchyll yn cael eu cyflawni a dylai swyddogion Rwsia sy'n arwain y rhyfel, gan gynnwys Vladimir Putin, fod ar brawf am droseddau rhyfel. Mae rhyfel anghyfreithlon Putin a pharhad yr ymosodiad ar Wcráin, ei sofraniaeth a'i chyfanrwydd tiriogaethol yn dangos diffyg parch llwyr tuag at siarter y Cenhedloedd Unedig a hunanbenderfyniaeth cenhedloedd eraill.
Hoffwn bwysleisio pwynt 3 y cynnig wrth gymeradwyo gwytnwch a chryfder a dewrder holl bobl Wcráin yn wyneb y creulondeb hwn. Ac er gwaethaf y creulondeb, a thra bod Wcráin yn parhau i amddiffyn ei hun yn erbyn Rwsia, rhaid cofio hefyd fod y wlad yn dal i chwarae rhan allweddol yn rhyngwladol. Mewn ymateb i'r daeargryn dinistriol ar ffin Twrci-Syria, ni phetrusodd Wcráin rhag anfon staff brys a pheiriannau achub bywyd i gynorthwyo'r ymdrech achub, gan chwarae rhan gyfrifol yn fyd-eang fel gwlad.
Rwy'n annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu cymorth dyngarol ac ariannol i Wcráin. Ac mae'n drist clywed, yn ôl Swyddfa'r Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol, ar 30 Ionawr, fod 7,155 o sifiliaid wedi marw, a 438 ohonynt yn blant. Ar ben hynny, dywedir bod 11,662 o bobl wedi cael eu hanafu, ac maent wedi nodi y gallai'r niferoedd go iawn fod yn llawer iawn uwch. I mi, mae hyn yn pwysleisio trasiedi rhyfel a'r angen i ddod o hyd i ffyrdd heddychlon o ddatrys gwrthdaro. Mae'n rhaid inni wneud ein gorau glas i osgoi marwolaeth a dinistr pellach, ond yn y pen draw, mae dod â'r rhyfel i ben yn heddychlon yn dibynnu ar Rwsia.
Ni allwn anghofio mai nod Putin yw dinistrio gwladwriaeth Wcráin a sefydlu cyfundrefn byped, ac mae'n afrealistig disgwyl i drafodaethau ddigwydd ar y telerau hynny. Nid yw caniatáu i wledydd gael eu concro a'u hiselhau gan ormeswyr yn rhywbeth y gallwn adael iddo ddigwydd. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn glir fod unrhyw arfau'n cael eu cyflenwi er mwyn i Wcreiniaid amddiffyn eu hunain, a rhaid inni fod yn wyliadwrus o unrhyw risg o ddwysáu'n rhyfel ymosodol. Dylem edrych ar bob dull arall i helpu pobl Wcráin ar hyn o bryd. Er enghraifft, dylem edrych ymhellach ar barhau ac ymestyn sancsiynau yn erbyn economi Rwsia. Rhaid i'r sancsiynau hyn hefyd leihau'r perygl o ymgyrchoedd gan Rwsia yn y dyfodol. Fe wnaeth cydfeddiant Crimea yn 2014 arwain at sancsiynau economaidd, ond nawr gwyddom nad oeddent yn ddigon i atal cymhelliad Rwsia i oresgyn Wcráin ymhellach y llynedd.
A hoffwn alw ar bob un ohonon—. Rydym eisoes wedi nodi bod Cymru yn genedl noddfa, ond fel y nodwyd yn ystod cyfraniad Sioned Williams ddoe ac ymateb y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ni allwn ganiatáu i elyniaeth barhau yma yng Nghymru. Rwyf wedi dychryn ac yn drist iawn o weld tudalen Facebook yn cael ei sefydlu—anfonwyd dolen ataf—sy'n ysgogi casineb a phrotest arfaethedig yn Llanilltud Fawr fis nesaf. Nid yw hyn yn cyd-fynd â'n gwerthoedd fel cenedl, a hoffwn annog pob un ohonom i ystyried yr iaith a ddefnyddiwn ac i ystyried sut y caiff ei chlywed gan bawb a gynrychiolwn. Grŵp Facebook agored yw hwn, ac o edrych arno, mae'r sylwadau'n hiliol, maent yn senoffobig, maent yn llawn casineb. Nid dyna'r gymdeithas rwyf am i Gymru fod, ac rwyf wedi fy nhristau.
Ni allaf ddweud wrth y bobl Wcreinaidd sydd wedi bod drwy gymaint, ac eraill—. Nid yw pobl yn dewis bod yma. Hoffent fod yn ddiogel yn eu cartrefi, ond eto maent wedi cael eu gorfodi i fyw yma ac maent yn gwneud eu gorau. Mae'r casineb a wynebant wedyn pan fyddant yn cyrraedd yma, yn hytrach na chael eu croesawu, yn rhywbeth a ddylai ddychryn pob un ohonom. Ac o ystyried yr ymosodiadau a welsom yn Lerpwl yr wythnos diwethaf, mae meddwl bod yr un grŵp yn ysgogi protest yma yng Nghymru yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei ystyried yn ofalus yn y ddadl hon. Os yw Cymru i fod yn genedl noddfa go iawn, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ei bod hi, a chael gwared ar y casineb hwn ar unwaith.