– Senedd Cymru am 2:16 pm ar 28 Chwefror 2023.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. I wneud lle ar ei gyfer, mae'r datganiad llafar ar ddiwygio deintyddol wedi'i ohirio. Yn ogystal â hyn, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau'r amser a ddyrannwyd i gwestiynau Comisiwn y Senedd yfory yn unol â nifer y cwestiynau a gyflwynwyd. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes hefyd wedi cytuno i newid trefn y dadleuon yfory fel bod cynnig Plaid Cymru'n cael ei drafod cyn cynnig y Ceidwadwyr. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y cyhoeddiad a'r datganiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd, gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau a chwaraeon, sydd newydd gymryd cyfrifoldeb dros y sector twristiaeth yma yng Nghymru? Rydym yn gwybod, pan oedd twristiaeth yn dod o dan Weinidog yr economi, bod Gweinidog yr economi wedi cynnig treth dwristiaeth ar y sector. Dywedodd adroddiad y Llywodraeth ei hun y byddai'n costio £100 miliwn a 2,500 o swyddi i'r sector. Fe wnaeth VisitBritain ei galw'n anfaddeuol, gan ddweud ei bod yn atal yr ymwelwyr dros nos sy'n gwario fwyaf rhag dod i Gymru. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad lle bydd y Dirprwy Weinidog yn amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y sector twristiaeth, yn y gobaith y byddwn, gyda Gweinidog newydd, yn gweld set newydd o flaenoriaethau?
Na, fydd hynny ddim yn digwydd. Mae'r polisi fel y nodwyd gan y Gweinidog blaenorol â'r cyfrifoldeb am dwristiaeth.
Mae teuluoedd dros Gymru yn wynebu dyfodol agos sy'n eithriadol o ansicr fel canlyniad i'r sefyllfa benagored ynghylch a fydd San Steffan yn parhau gyda'r help sydd ar gael i aelwydydd gyda'u biliau ynni, ac mae'r sefyllfa'n mynd o ddrwg i waeth. Ddoe, ges i sgwrs â rhywun sy'n rhedeg banc bwyd yn fy rhanbarth, ac mi wnaeth e ddweud bod nifer y bobl sy'n mynychu'r banc bwyd wedi cynyddu 20 y cant dros y gaeaf diwethaf. Mae'r bobl sy'n mynd yno yn siarad am yr ofn sydd ganddyn nhw am y llinell derfyn yna ym mis Ebrill. Tra bod y galw am wasanaethau wedi cynyddu, mae'r rhoddion weithiau'n mynd i lawr achos y pwysau sydd ar bobl yr ardal. A fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi datganiad, plis, yn gosod mas pa drafodaethau argyfyngus y byddwch yn eu cael â San Steffan i fynnu bod y cymorth ar gyfer biliau ynni yn parhau ar ôl mis Ebrill? Os na fydd San Steffan yn ildio, a fydd y datganiad yn cadarnhau beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i lenwi'r bwlch? Diolch.
Diolch. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn parhau i gael trafodaethau gyda'i gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y DU. Fel y gwyddoch chi, ni fydd cyhoeddiad y cap prisiau yn cael unrhyw effaith o gwbl ar brisiau ynni am y cyfnod rhwng Ebrill a Mehefin, oherwydd bod y prisiau gwirioneddol yn cael eu gosod ar hyn o bryd gan warant prisiau ynni Llywodraeth y DU. Yr hyn yr hoffem ei weld yw Llywodraeth y DU yn gwrthdroi'r penderfyniad i gynyddu pris EPG o £2,500 i £3,000 o 1 Ebrill, ac, wrth gwrs, byddan nhw'n cael y cyfle i wneud hynny yn y gyllideb fis nesaf.
Rydyn ni i gyd naill ai wedi arsylwi neu wedi gweld y cynnydd aruthrol ym mhris llysiau a'r silffoedd gwag yn ein siopau. Arweiniodd y cynlluniau grant dechrau busnes garddwriaeth a datblygu garddwriaeth y llynedd i 19 o newydd-ddyfodiaid yn dod i arddwriaeth fasnachol ac ehangu 12 cynllun sydd eisoes yn bodoli. Tybed a allwn i gael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch a yw hon dim ond yn broblem tymor byr wedi'i achosi gan dywydd gwael a'r cynnydd mawr mewn costau ynni, fel y'i disgrifiwyd yn y wasg, neu ydy hyn yn symptomatig o broblem diogeledd bwyd parhaus a achosir gan ein hinsawdd sy'n newid, rhwystrau Brexit yn amharu ar fewnforio nwyddau darfodus a'r ffaith bod cwmnïau rhyngwladol sydd â diddordeb yn bennaf mewn proffidioldeb yn hytrach na sicrhau cyflenwadau o fwyd maethlon yn dominyddu ein cyflenwadau bwyd. Mae gwir angen i ni asesu a yw hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni gryfhau ein rhaglen ddeddfwriaethol neu fuddsoddi mewn mwy o lysiau sy'n cael eu tyfu yng Nghymru.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae tyfu y rhan arddwriaethol o'r sector amaethyddol yng Nghymru yn rhywbeth y mae gen i ddiddordeb arbennig ynddo. Mae'n rhan fach iawn o'n sector amaethyddol, dim ond 1 y cant. Y rheswm yr oedd gen i'r ddau gynllun yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw oedd oherwydd y galw. Roedd pobl yn dweud wrtha i eu bod nhw eisiau gweld mwy o ffenestri o fewn y cynlluniau hynny, ac roedd hi'n dda iawn cael y 19 o newydd-ddyfodiaid yna a chael y nifer yna yn derbyn grant.
Mae yna, yn amlwg, brinder eang o rai cynhyrchion ffres: tomatos, pupurau, ciwcymbrau. Ddoe, cefais wybod fod prinder cennin, sy'n eithaf anffodus, rwy'n credu, yr wythnos hon a hithau'n Ddydd Gŵyl Dewi. Rwy'n credu mai yn yr archfarchnadoedd yn benodol yr ydyn ni'n gweld prinder. Rwy'n credu mewn siopau bwyd lleol, er enghraifft, dydyn ni ddim yn gweld y prinder yna.
Ddydd Llun nesaf, Llywodraeth Cymru sy'n cadeirio'r grŵp rhyng-weinidogol nesaf gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac rwyf wedi gofyn am roi'r cyflenwad bwyd a diogeledd bwyd ar yr agenda. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog bwyd a ffermio yn Llywodraeth y DU, Mark Spencer, yn cwrdd â'r archfarchnadoedd yr wythnos hon. Dydyn ni ddim wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan, ond yn sicr rwyf wedi gofyn i gael nodyn ar hynny i weld pa mor eang yw hyn.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Dros bythefnos yn ôl, daeth y T19 rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog i ben. Mae cyflogeion wedi eu gadael yn methu â chyrraedd eu gwaith, mae myfyrwyr yn dibynnu ar drafnidiaeth breifat i gyrraedd yr ysgol ac mae trigolion yn ei chael hi'n anodd cyrraedd apwyntiadau meddygol. Y bore 'ma, ynghyd â fy nghyd-Aelod Mabon ap Gwynfor, roeddem mewn cyfarfod da iawn gyda gweithredwyr bysiau, swyddogion Llywodraeth Cymru, yr aelod cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Trafnidiaeth Cymru. Ond yr hyn ddaeth yn amlwg iawn oedd ei bod yn ymddangos bod gweithlu wedi'i lethu o fewn Trafnidiaeth Cymru. Roedd y feirniadaeth wedi ei hanelu atyn nhw, gyda gweithredwyr bysiau yn ceisio cael y llwybr yma yn ôl yn gweithio eto, ond dydy Trafnidiaeth Cymru ddim yn dda iawn am ymateb. Disgrifiwyd eu safon cyfathrebu gyda gweithredwyr bysiau preifat yn echrydus, gyda dim ymateb i negeseuon e-bost, a bod diffyg profiad gan TrC yn y farchnad fysiau mewn gwirionedd. Bellach, mae gennym sefyllfa lle mae dirfawr angen adfer y T19. Ymateb TrC y bore 'ma oedd eu bod nhw'n mynd i fynd allan at y cyhoedd i weld faint o alw sydd am y gwasanaeth hwn. Wel, rwy'n siŵr y gall fy nghyd-Aelod Mabon a minnau ddweud mewn gwirionedd o'n blychau post ein bod yn gwybod, mae gennym ni ddata, ond hefyd mae gan y cwmni bysiau sydd wedi gorfod atal eu gweithrediad bws yr holl ddata. Fe wnaethom ni'r pwynt nad mwy o siarad rydyn ni ei angen; mae angen i'r bws hwnnw gael ei adfer. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog nawr gyflwyno datganiad a chynllun ar gyfer sut y gallwn ni gael y llwybr bws hwn yn ôl yn gadarn ar ei olwynion mewn gwirionedd? Diolch.
Dydw i ddim yn credu bod angen datganiad llafar. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud y peth iawn yn llwyr. Roeddwn i'n ymwybodol o'r cyfarfod y bore 'ma. Yn amlwg bydd y data'n helpu, oherwydd yn sicr nid ydym wedi gweld nifer y defnyddwyr yn dychwelyd i wasanaethau bysiau ar ôl pandemig COVID fel yr oedden nhw cyn pandemig COVID. Felly, heb os nac oni bai, os cant y data, byddan nhw'n gallu gweld, ac os ydych chi'n dweud bod y data yno, yna rwy'n credu y bydd hynny'n eu galluogi i ystyried a ddylid adfer y gwasanaeth hwn cyn gynted â phosibl.
Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r mater o godi tâl am ddelifro presgripsiynau gan fferyllfeydd? Mae'n gwbl resymol i godi tâl mewn sefyllfa lle dyw unigolyn ddim yn barod i drafferthu i fynd i gasglu presgripsiwn, ond dwi wedi cael cyswllt gan rai pobl sy'n byw yn fy rhanbarth i sydd oherwydd eu cyflwr meddygol yn methu mynd i nôl presgripsiwn ac wedi ffeindio nawr bod yna ofyn iddyn nhw dalu am hynny. Yn y lle cyntaf, dyw nifer ohonyn nhw ddim yn gallu fforddio gwneud hynny, a chanlyniad anochel hynny yw na fyddan nhw felly yn derbyn y feddyginiaeth sydd ei angen arnyn nhw. Mae hynny, wrth gwrs, yn tanseilio'r polisi rŷn ni i gyd yn falch ohono fe, bod presgripsiynau am ddim yng Nghymru. Felly dwi'n meddwl bod angen eglurder o gyfeiriad y Gweinidog ynglŷn â beth yw disgwyliad y Llywodraeth ar y fferyllfeydd: oes angen cefnogaeth naill ar y fferyllfeydd neu ar yr unigolion efallai sydd yn trio cael mynediad i'r presgripsiynau yma? A hefyd dwi'n meddwl bod angen gwell cysondeb ar draws Cymru, oherwydd mewn rhai ardaloedd maen nhw'n codi, ac mewn ardaloedd eraill dydyn nhw ddim.
Diolch. Yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog roi rhywfaint o eglurder drwy ddatganiad ysgrifenedig. Rydych chi'n hollol iawn mai holl bwynt bod â'r polisi hwnnw o bresgripsiynau am ddim yw cadw pobl yn iach a gwneud yn siŵr bod y rhai sydd wedi'u cyflogi yn gallu aros mewn cyflogaeth. Os oes gennym yr anghyfartaledd hwn, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn; dydych chi ddim eisiau gweld yr anghysondeb yna na loteri cod post, lle mae gennych chi rai ardaloedd yn codi tâl. Felly, yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad ysgrifenedig i egluro hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch diweddariad i'r system gyfrifiadurol o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol? Mae gen i, er enghraifft, glaf canser yn Ninas Mawddwy sydd wedi gorfod mynd i gael triniaeth gychwynnol drwy fynd i weld y meddyg yn lleol yn Nolgellau, ac yna yn gorfod mynd i'r ysbyty ym Mronglais yn Aberystwyth, ac yna yn ei dro yn mynd lawr i Glangwili yng Nghaerfyrddin, ac yna yn ôl i fyny i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, yna draw am driniaeth i Lanidloes, sydd yn rhan o fwrdd iechyd Powys, ac yna mae'n gorfod mynd i, dwi'n meddwl, Clatterbridge ger Lerpwl. A'r hyn mae o wedi ffeindio ydy bod pob un o'r darparwyr yma, yr ysbytai gwahanol, ddim yn siarad efo'i gilydd, a hwyrach bod y nodiadau ddim ganddyn nhw, eu bod nhw hwyrach ddim yn barod am y claf i gyrraedd, ddim yn gwybod yn union hanes y claf yna, oherwydd bod y systemau cyfrifiadurol, yn un peth, ddim yn siarad efo'i gilydd a bod yna ddim ffordd rwydd iddyn nhw rannu'r wybodaeth yna ymhlith ei gilydd. Felly a gawn ni ddatganiad i weld beth ydy'r drefn, pa gynlluniau sydd ar y gweill i sicrhau bod y system yna'n integredig yng Nghymru er mwyn osgoi hyn yn y dyfodol? Diolch.
Mae'n ddarn o waith parhaus i sicrhau bod cyfrifiaduron yn siarad â chyfrifiaduron a byrddau iechyd yn siarad â byrddau iechyd yma yng Nghymru. Mae'n gwbl hanfodol nad oes rhaid i gleifion ailadrodd eu stori bob tro y maen nhw'n mynd i ysbyty gwahanol, er enghraifft. Rwy'n gwybod bod rhai anawsterau rhwng Cymru a Lloegr, ond hyd y gwn i dylai'r systemau hynny allu siarad â'i gilydd o fewn Cymru.
Diolch i'r Trefnydd.