Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:45, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Yn wir, Mark Isherwood, credaf y byddech wedi gwerthfawrogi’r drafodaeth a’r craffu a wynebais ddydd Llun yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am yr union faterion hyn a’r sicrwydd a roddais na fyddai unrhyw fwlch rhwng y cynlluniau Cartrefi Clyd o ran y cynllun presennol a'r un nesaf, a fydd yn cael ei gaffael erbyn diwedd y flwyddyn. Ac wrth gwrs, bydd yn ystyried y gwersi a ddysgwyd, ond mae hefyd yn amlwg yn sicrhau ein bod yn cydweithio lle bynnag y bo modd, nid yn unig gyda'n hawdurdodau lleol, sy'n hanfodol er mwyn ei gyflwyno, ond gyda Llywodraeth y DU hefyd.