Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 1 Mawrth 2023.
Wel, diolch. Unwaith eto, rwy'n cofio trafod y materion hyn 20 mlynedd yn ôl yn y Siambr flaenorol, gydag ymatebion tebyg, er mewn cyd-destun ariannol gwahanol. Oni chaiff y pwyntiau a nodwyd gan swyddog tlodi tanwydd cyngor Gwynedd eu hateb, bydd safon ansawdd tai Cymru a rhaglen Cartrefi Clyd y Llywodraeth nesaf yn dechrau ar gynsail ffug, ac yn anelu at safonau na ellir eu cyflawni lle mae’r anghenion mwyaf, heb gyflwyno data mewn ffordd greadigol. O ystyried eich cyfrifoldeb cyffredinol dros dlodi tanwydd yn Llywodraeth Cymru, sut rydych yn ymateb i gynnig gan swyddog tlodi tanwydd cyngor Gwynedd i raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth nesaf Cymru uno cynllun Nyth Llywodraeth Cymru â chynllun rhwymedigaeth cwmnïau ynni Llywodraeth y DU? Ac o ystyried datganiad y Gweinidog newid hinsawdd ei bod yn disgwyl caffael cynllun newydd, sy'n seiliedig ar alw, ac sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thlodi tanwydd cyn diwedd y flwyddyn—ni fydd unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth rhwng y cynllun newydd a'r rhaglenni presennol—sut rydych yn ymateb i bryderon y Gynghrair Tlodi Tanwydd y bydd hyn yn caniatáu i gynllun presennol Nyth redeg hyd at, dyweder, mis Ebrill 2024, ar ôl y gaeaf nesaf, cyn i'r cynllun nesaf sy'n seiliedig ar alw ddechrau?