Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch. Wel, rwyf am adael y prif bwynt a wnaethoch ar gyfer y cwestiwn amserol yn nes ymlaen, sydd ar yr union bwnc hwnnw wrth gwrs. Ond mae briff Cyflwr Cymru Sefydliad Bevan y mis hwn yn nodi bod effeithlonrwydd ynni eiddo'n amrywio’n sylweddol ledled Cymru, ac er y nodwyd bod holl dai cymdeithasol Cymru yn cydymffurfio â safon ansawdd tai Cymru, mae mwy nag un o bob pump yn cynnwys o leiaf un methiant derbyniol. Unwaith eto, o ystyried eich cyfrifoldeb cyffredinol dros dlodi tanwydd yn Llywodraeth Cymru, ac wrth inni agosáu at safon ansawdd tai Cymru 2023, sut rydych yn ymateb i swyddog tlodi tanwydd cyngor Gwynedd, a ofynnodd i mi,
'Sut y gallwn symud ymlaen os nad ydym wedi gorffen y gwaith cartref o'r fersiwn ddiwethaf o safon ansawdd tai Cymru, yn enwedig o ystyried cost ôl-osod eiddo a adeiladwyd cyn 1900’, ac a ddywedodd,
'Cefais gipolwg sydyn arall ar safon ansawdd tai Cymru 2023. Ni welais y geiriau hud "methiant derbyniol", ond ymddengys bod tipyn go lew o gafeatau, heb unrhyw gydnabyddiaeth glir o'r gwahanol fannau cychwyn ar y grid, a'i bod braidd yn anodd cael un o hen fythynnod y Comisiwn Coedwigaeth a adeiladwyd ym 1910 nad yw ar y grid i fodloni SAP 80?'