Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 1 Mawrth 2023.
Wel, rwy’n siŵr y bydd pob un o’r rheini rydych wedi ymgysylltu â hwy yn y gogledd, gan gynnwys awdurdodau lleol, wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad diweddaraf ar safon ansawdd tai Cymru. Mae safon ansawdd tai Cymru wedi bod yn bwysig iawn o ran safonau tai cymdeithasol, y byddwch yn cydnabod eu bod wedi bod heb eu hail ledled Cymru. Ond bu’n rhaid eu diwygio a’u hadolygu o ran yr amgylchiadau, yn ogystal â'n huchelgeisiau o ran cyflawni sero net gyda’r targed o 20,000 o dai cymdeithasol sydd gennym. Ac wrth gwrs, golyga hynny fod safon ansawdd tai Cymru yn rhoi ystyriaeth i'r holl faterion a godwch.
Ond fel y dywedais, mae’r gyllideb wedi bod yno. Mae’r cyllid wedi'i ddarparu gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r buddsoddiad i ôl-osod ein tai cymdeithasol, ac yn wir, bydd safon ansawdd tai Cymru yn symud ymlaen o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn.