Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:46, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r sôn am y cyflog byw gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol yn eich datganiad ar waith teg ddoe. Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu'n gryf ers blynyddoedd lawer dros godiad cyflog i’r staff ymroddedig a chwbl hanfodol sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae taliadau untro, fel yr un a welsom yn ystod y pandemig, i’w croesawu, ond nid ydynt yn gwneud y tro yn lle cael eich talu ar y lefel rydych yn ei haeddu. Fy mhryder yw ei bod yn bosibl na fydd hwb ariannol bob amser yn treiddio i lawr i staff ar lawr gwlad, gan gynnwys darparwyr trydydd sector sydd â chontractau awdurdod lleol. Pa fecanweithiau neu brosesau sy’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod unrhyw chwistrelliad o arian parod i awdurdodau lleol i wella cyflogau staff gofal cymdeithasol yn cael ei drosglwyddo i’r rheini y’i bwriadwyd ar eu cyfer, gan gynnwys partneriaid trydydd sector?