Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:47, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu diddordeb yr Aelod yn y maes, ac rwy'n cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd am—er bod taliadau untro i’w croesawu, mae'n ymwneud â thalu'r cyflog byw gwirioneddol, ond mewn gwirionedd, dim ond un rhan yw'r cyflog byw gwirioneddol o elfen o becyn gwaith teg a’r hyn rydym yn ceisio'i wneud drwy’r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol i gynnal y sector ymhell i’r dyfodol, yn ogystal â’r hyn a drafodwyd gennym, fel y dywedoch chi, yn y datganiad ar waith teg heddiw—ddoe, mae'n ddrwg gennyf; rwy'n cymysgu fy nyddiau.

Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Julie Morgan i sicrhau, yn amlwg, fod gennym fynediad mwy uniongyrchol drwy awdurdodau lleol, ond hefyd ein bod yn gweithio drwy'r gwasanaethau comisiynu hynny a'r seilwaith sydd yn ei le i sicrhau bod y taliadau hynny'n cael eu gwneud yn brydlon. Ac ychydig cyn y toriad, fe fynychodd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol a minnau ddigwyddiad heb fod ymhell o'r fan hon yng Nghaerdydd, i ddathlu talu'r cyflog byw gwirioneddol a'r codiad newydd i weithwyr gofal cymdeithasol. Ond yn gwbl briodol, roedd grwpiau cymunedol yno a gweithwyr gofal yn ein hannog i fynd ymhellach ac i gefnogi'r cyflog byw gwirioneddol ledled Cymru, ond hefyd ar draws y sector yn ei gyfanrwydd, ac mae'n sicr yn rhywbeth rydym wedi ymrwymo i'w wneud mewn ffordd gynaliadwy.