1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 1 Mawrth 2023.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr adroddiad am gasineb at fenywod a chamymddygiad rhywiol yn Heddlu Gogledd Cymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru? OQ59183
Diolch yn fawr. Nid oes unrhyw le i gasineb at fenywod na chamymddygiad rhywiol yng ngwasanaeth yr heddlu. Mae'n hanfodol fod Heddlu Gogledd Cymru yn parhau â'u gwaith brys i nodi swyddogion nad ydynt yn cadw at y gwerthoedd y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl, ac i roi camau pendant ar waith.
Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb. Dwi'n siŵr roedd yn bryder i chi, fel fi, i ddarllen fod yna 24 aelod o staff, nid jest gweision heddlu, yn cael eu harchwilio oherwydd achosion o drais domestig, camymddwyn rhywiol neu drais yn erbyn menywod yn lluoedd Heddlu Gogledd Cymru. Rydym ni'n disgwyl adroddiadau lluoedd heddlu eraill yn gymharol fuan hefyd yng Nghymru. Wrth gwrs, cafodd yr adroddiad ei gomisiynu yn sgil achos erchyll David Carrick o'r heddlu Metropolitan, ond dydyn ni ddim yn mynd i anghofio am achos erchyll Sarah Everard hefyd. Mae'n dilyn cwyn arbennig a wnaed gan y Ganolfan dros Gyfiawnder i Fenywod a'r Biwro Newyddiadurwyr Ymchwiliadol nôl yn 2020 a oedd yn dangos nad oedd lluoedd heddlu yn ymchwilio yn llawn i achosion o drais domestig oedd yn ymwneud ag aelodau o'r heddlu. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu elfennau o waith yr heddlu yma yng Nghymru, megis swyddogion cynorthwyo cymunedol, PCSOs, felly pa gamau mae'r Llywodraeth yma yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod y broses gyflogaeth yn gwbl drwyadl a thryloyw ac y gall menywod Cymru gael hyder yn yr unigolion sy'n cael eu cynrychioli yn ein heddluoedd?
Diolch yn fawr. Mae hwnnw'n gwestiwn mor bwysig i ni y prynhawn yma. Er nad yw plismona wedi'i ddatganoli—cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw—rydym yn ymgysylltu, fel y dywedwch chi, Mabon, ym mhob ffordd a allwn, i weithio gyda'r heddlu, i ddylanwadu ar y polisïau a'u cyflawniad, ac yn wir, i ariannu rhannau helaeth o'r ddarpariaeth diogelwch cymunedol yng Nghymru yn enwedig, ac yn ein hysgolion. Mae'n hanfodol fod ein heddlu'n dangos yr uniondeb a’r gwerthoedd y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl ganddynt. Felly, rwy'n croesawu dull Heddlu Gogledd Cymru o weithredu'n fawr iawn. Maent wedi mabwysiadu ymagwedd dryloyw a phendant iawn tuag at y mater hwn, gan gydnabod yr angen i sicrhau nad oes lle i leiafrif o swyddogion nad ydynt yn cyrraedd y safonau uchel y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl yn yr heddlu yng Nghymru.
A gaf fi ddweud ein bod wedi trafod hyn yn y bwrdd partneriaeth plismona, a gyd-gadeirir gennyf fi a'r Prif Weinidog? Fe wnaethom ei drafod ym mis Rhagfyr, a buom yn siarad am ymddiriedaeth mewn plismona, ac rydych wedi cyffwrdd â hynny wrth gwrs. Bydd hon yn eitem agenda sefydlog ar y bwrdd, oherwydd fe wnaeth arweinwyr plismona Cymru ymrwymo yn y cyfarfod hwnnw i sefyll yn erbyn ymddygiad amhriodol, gan sicrhau bod staff sydd wedi ymddwyn yn amhriodol yn cael eu nodi'n gyflym. Fel y bydd cyd-Aelodau'n gwybod ar draws y Siambr, mae pob heddlu ledled Cymru a Lloegr yn adolygu cofnodion eu holl staff ar frys, i weld a oes unrhyw achosion eraill y mae angen mynd i'r afael â hwy. Ac rwy'n falch iawn fod comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru a'r prif gwnstabl Amanda Blakeman wedi siarad am hyn yn gyhoeddus. Rhaid iddynt gael yr wybodaeth hon erbyn diwedd mis Mawrth. A gaf fi achub ar y cyfle i atgoffa cyd-Aelodau o'n llinell gymorth Byw Heb Ofn, gwasanaeth 24/7 am ddim i holl ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod?
Ac yn olaf, hoffwn ddweud bod y comisiynydd heddlu a throseddu Dafydd Llywelyn a minnau'n cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol ar gyfer cyflwyno cam nesaf ein strategaeth genedlaethol, i gryfhau ein hymagwedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n gweithio'n weithredol iawn gyda'n heddluoedd, ein comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae gennym ffrydiau gwaith, gan gynnwys aflonyddu yn y gweithle. Mae’r ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle yn cael ei gyd-gadeirio gan Shavanah Taj o Gyngres Undebau Llafur Cymru a Mark Travis o Heddlu De Cymru. Rwy'n disgwyl y bydd yn arwain at argymhellion a chamau i fynd i'r afael â'r materion rydych chi wedi'u codi y prynhawn yma.
Mae gweithredoedd y treisiwr cyfresol, David Carrick, llofruddiaeth Sarah Everard gan Wayne Couzens a'r ffordd ffiaidd y cafodd cyrff y chwiorydd Bibaa Henry a Nicole Smallman eu trin gan gwnstabliaid yr heddlu Deniz Jaffer a Jamie Lewis wedi ein syfrdanu ni i gyd, gan ddinistrio enw da yr heddluoedd hynny. Wrth gwrs, fel y mae fy nghyd-Aelod wedi’i grybwyll, mae gan Heddlu Gogledd Cymru 27 o ymchwiliadau ymddygiad ar y gweill yn ymwneud â 24 o unigolion, ac mae 13 o’r achosion hyn yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys camymddygiad rhywiol a cham-drin domestig a gafodd ei gyflawni gan aelodau o’r heddlu. Mae fy nghyd-Aelod Joyce Watson wedi gwneud cymaint yn y Siambr hon mewn perthynas â cham-drin domestig. Ar hyn o bryd, mae 21 o achosion yn cael eu hasesu fel camymddygiad difrifol a chwech achos yn cael eu hasesu fel camymddygiad. Nid yw diswyddo ond ar gael fel cosb os yw panel camymddygiad difrifol yn dyfarnu bod camymddygiad difrifol wedi digwydd. Yn bersonol, nid wyf yn credu y dylid caniatáu i unrhyw swyddog sy'n arddangos ymddygiad annerbyniol, camymddygiad neu ymddygiad amhriodol wasanaethu eto; bydd yr hyder wedi mynd. Felly, a wnewch chi, fel rhan o'ch trafodaethau bwrdd crwn, gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i weld a ellid gwneud camymddygiad yn sail dros ddiswyddo?
Diolch yn fawr iawn, Janet Finch-Saunders. Diolch am godi'r pwyntiau hyn yn dilyn y cwestiwn gan Mabon y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod Heddlu Gogledd Cymru wedi arwain ar hyn. Yn y cyfarfod bwrdd a gyd-gadeiriais gyda’r comisiynydd heddlu a throseddu, Dafydd Llywelyn, roedd Amanda Blakeman, sy’n newydd i’r rôl, yn hollol bendant y bydd hi'n drylwyr ynglŷn â sicrhau bod ei heddlu’n addas i’r diben. Rydym yn croesawu’r adroddiad a ryddhawyd gan Andy Dunbobbin, y comisiynydd heddlu a throseddu, ym mis Chwefror, oherwydd mae’n edrych ar ba mor gyffredin yw achosion o gasineb at fenywod yn yr heddlu hwnnw—niferoedd achosion ac ymchwiliadau, fel y dywedwch—y mesurau sydd ar waith i amddiffyn y cyhoedd, a sicrhau bod swyddogion yn cael eu fetio’n briodol.
Rwy’n ymuno â Sadiq Khan, maer Llundain, sydd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i ofyn iddi fynd ati ar frys i lunio deddfau newydd i ganiatáu i brif swyddogion yr heddlu ddiswyddo swyddogion tramgwyddus yn y fan a'r lle. Fe wyddom fod y Swyddfa Gartref yn adolygu prosesau diswyddo oherwydd y methiant i gael gwared ar Carrick fel swyddog gweithredol. Ond rwy'n cytuno â Sadiq Khan, maer Llundain, fod deddfau presennol yn golygu y gall yr Heddlu Metropolitanaidd a heddluoedd eraill gyflogi swyddogion sydd wedi cyflawni troseddau difrifol, ac mae angen inni newid hynny. Felly, rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn fy nghefnogi yn yr alwad honno ochr yn ochr â Sadiq Khan.
Mae cwestiwn 6 [OQ59184] wedi'i dynnu nôl.