6. Dadl Plaid Cymru: Cysylltiadau diwydiannol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:54, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Fel y clywsom gan fy nghyd-Aelod, Luke Fletcher, mae deddfwriaeth wrth-streiciau Llywodraeth y DU yn ergyd drom yn erbyn gweithwyr sy’n ceisio cyflog teg am eu gwasanaethau. Yr hyn sydd hefyd yn amlwg yw bod gan y mesur hwn oblygiadau sy'n peri pryder i agenda ddeddfwriaethol y Senedd hon. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi dod yn gyfarwydd iawn â thuedd Llywodraeth San Steffan i ganoli, yn ogystal â’u dirmyg amlwg tuag at ddatganoli. Ymddengys bod Brexit wedi hybu math o unoliaetholdeb cyhyrog sy’n aml yn sathru ar feysydd cymhwysedd datganoledig. Mae cyflwyno mesurau fel Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a Bil cyfraith yr UE a ddargedwir yn enghraifft o hyn. Fel y soniodd y Prif Weinidog yn gynharach yn y flwyddyn, mae achosion o dorri confensiwn Sewel, nad oedd byth yn digwydd ar un adeg yng nghyd-destun cysylltiadau â Llywodraethau datganoledig y DU, wedi dod yn gyffredin dros y blynyddoedd diwethaf. Yn y cyfamser, mae'r defnydd o bwerau adran 83 i rwystro Bil diwygio cydnabod rhywedd Llywodraeth yr Alban yn tanlinellu mai ffug yw'r syniad o'r undeb fel partneriaeth gydradd.

Nawr, ymddengys y bydd deddfwriaeth gwrth-streiciau yn gwrthdaro â maes gwaith y mae’r Senedd wedi bod yn gweithio arno, sef Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), ac yn benodol, ei nod o wneud Cymru’n wlad o waith teg. Fel y gŵyr yr Aelodau, sefydlwyd y Comisiwn Gwaith Teg fel rhagflaenydd i ddatblygiad y Bil. Un o’i brif argymhellion oedd yr angen i ymgorffori arferion gwaith teg yn y fframwaith deddfwriaethol. Diffiniwyd arferion gwaith teg gan y comisiwn fel sefyllfa lle mae

'gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli’n deg, bod ganddynt sicrwydd a'u bod yn gallu dod yn eu blaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau’n cael eu parchu.'

Ar y sail y bydd y Bil yn cynnwys dyletswydd partneriaeth gymdeithasol statudol ar gyrff cyhoeddus i geisio consensws neu gyfaddawd ag undebau llafur, a oruchwylir gan y cyngor partneriaeth gymdeithasol, a fydd yn cynnwys cynrychiolaeth o'r undebau llafur, mae'n anodd rhagweld sut y gall y nodau gwaith teg hyn fod yn gydnaws mewn unrhyw ffordd â deddfwriaeth y Bil gwrth-streiciau, sydd wedi'i chynllunio i geisio gelyniaeth a gorfodaeth dros gonsensws a chyfaddawd. Fel rwyf eisoes wedi'i grybwyll, mae goruchafiaeth San Steffan a'r modd y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn diystyru datganoli yn golygu bod yr agenda gwaith teg yma yng Nghymru mewn perygl difrifol.

Er ein bod yn cydnabod y ffaith bod materion cyfraith cyflogaeth yng Nghymru wedi'u cadw'n ôl bron yn gyfan gwbl gan San Steffan, mae rhai camau y gellid eu cymryd i ddiogelu'r agenda gwaith teg yn y dyfodol rhag byrbwylltra San Steffan. Er enghraifft, yn ddiweddar, sefydlodd Llywodraeth yr Alban gronfa gwaith teg a moderneiddio undebau llafur, a ddefnyddir i ymgorffori arferion gwaith teg mewn cysylltiadau diwydiannol. Gyda gweithrediad y Bil partneriaeth gymdeithasol, dylai’r dull hwn o weithredu gael ei efelychu yng Nghymru i sicrhau bod yr uchelgais o roi llais cryfach i undebau llafur wrth ddatblygu polisïau economaidd a diwydiannol yn cael ei gydgrynhoi ar sail ymarferol, hirdymor. Byddai hyn hefyd yn cyfrannu at y gwaith o adfywio presenoldeb undebau yn ein sector preifat ac ymhlith gweithwyr ifanc. Ceir anghysondeb amlwg ar hyn o bryd rhwng aelodaeth o undebau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru—ychydig dros 60 y cant yn y sector cyhoeddus, ac ychydig o dan 20 y cant yn y sector preifat. Yn ychwanegol at hynny, dim ond ychydig dros 30 y cant o weithwyr yng Nghymru rhwng 25 a 34 oed sy’n aelodau o undebau, o gymharu â 45.4 y cant o weithwyr 50 oed a hŷn. Yn amlwg, mae angen mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn os yw amcanion yr agenda gwaith teg i fod o fudd i Gymru gyfan.

Yn olaf, dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno cynllun achredu, lle byddai safon gwaith teg Cymru sydd ar gael i'r cyhoedd ei gweld yn cymell cyflogwyr i gymryd rhan a chynnal amcanion yr agenda gwaith teg. Diolch yn fawr.