1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2023.
3. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â pha mor gystadleuol yw porthladdoedd Cymru? OQ59232
Rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar amrywiaeth o faterion sy'n gysylltiedig â'r porthladdoedd, gan gynnwys ynni gwynt arnofiol ar y môr, y rhaglen porthladdoedd rhydd a safleoedd rheoli ffiniau. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhoi sylw arbennig i effaith fframwaith Windsor ar gystadleurwydd porthladdoedd Cymru.
Rwy'n croesawu'r cynnydd o ran Gogledd Iwerddon, neu brotocol Windsor, ond rwy'n rhannu eich pryderon y gallai'r cytundeb a gytunwyd yr wythnos diwethaf gael effaith negyddol ar borthladdoedd Cymru, ac mae hynny'n cynnwys Abergwaun a Phenfro. Mae Brexit wedi gwneud gwaith da o ran rhoi hwb i borthladdoedd Ffrainc ar draul porthladdoedd y DU. Mae'n llawer haws nawr, wrth gwrs, osgoi porthladdoedd Cymru, ac ni allwn ni fforddio unrhyw ddirywiad pellach. Mae cyffro Prif Weinidog y DU am fynediad breintiedig Gogledd Iwerddon at farchnadoedd y DU a'r UE yn cythruddo rhywun yn arbennig, o gofio iddo ymgyrchu i weddill Prydain ei ildio. A ydych chi'n cytuno gyda mi mai'r peth lleiaf y gall ef ei wneud yw helpu porthladdoedd Cymru i gystadlu? Sut ddylai'r cymorth hwnnw edrych, yn lle'r rhagrith yr ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd?
Diolchaf i Joyce Watson am hynna, Llywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu unrhyw gynnydd a wnaed ar ddatrys y problemau sydd heb eu datrys o ran protocol Gogledd Iwerddon. Yn ystod y cyfnod na fu unrhyw Weithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon, rwyf i wedi cadw mewn cysylltiad ag arweinwyr yr holl brif bleidiau. Yn ystod yr hydref, cefais gyfarfod gyda Michelle O'Neill, arweinydd Sinn Féin, siaradais â Jeffrey Donaldson, arweinydd y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, a chynhaliais gyfarfodydd gyda Doug Beattie, arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster, a chydag arweinwyr y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a Llafur. Fe wnes i hynny er mwyn cyfleu iddyn nhw y diddordeb sydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwneud yn siŵr bod Gweithrediaeth weithredol yno yng Ngogledd Iwerddon yn gallu bod yn yr ystafell pan fyddwn ni'n cynnal trafodaethau rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Yn y cyfamser, mae Joyce Watson yn llygad ei lle, Llywydd, bod telerau'r cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn rhoi porthladdoedd Cymru o dan anfantais gystadleuol amlwg. Mae busnesau Iwerddon yn osgoi'r bont dir o blaid cysylltiadau uniongyrchol â phorthladdoedd UE yn Ffrainc a Sbaen. Cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, roedd gan Rosslare, fel y cofiaf, bedwar prif lwybr, ac roedden nhw rhwng ynys Iwerddon a phorthladdoedd Cymru. Bellach, ceir 40 llwybr allan o Rosslare ac maen nhw'n mynd yn syth i'r Undeb Ewropeaidd, i'r farchnad sengl, er gwaethaf y ffaith ei bod hi'n cymryd mwy o amser i wneud hynny a'i bod yn ddrytach gwneud hynny. Ond maen nhw'n gwneud hynny oherwydd y rhwystrau i fasnachu y maen nhw'n eu hwynebu bellach pan fyddan nhw'n anfon nwyddau trwy borthladdoedd Cymru ac ymlaen i'r Undeb Ewropeaidd drwy Dover.
O ran cyffro Prif Weinidog y DU o greu sefyllfa i Ogledd Iwerddon lle mae ganddyn nhw fynediad at farchnad sengl y DU a marchnad sengl yr UE, cefais fy nhemtio i ysgrifennu ato yn gofyn iddo a allai ddod o hyd i'r un manteision i Gymru hefyd, oherwydd mae'n eironi llwyr y dylai ddathlu rhywbeth y gweithiodd ef ei hun mor galed i'w atal i weddill y Deyrnas Unedig.
Mae Joyce Watson yn gofyn beth ellid ei wneud gan Lywodraeth y DU. Mae pethau syml y gallen nhw eu gwneud, Llywydd, a fyddai'n gwella rhagolygon masnachu di-rwystr rhwng porthladdoedd Cymru a'n cymydog pwysicaf ac agosaf. Gallen nhw, er enghraifft, ddod i gytundeb milfeddygol gyda'r UE. Byddai hynny'n cael gwared yn llwyr ar yr angen am archwiliadau iechydol a ffytoiechydol ym mhorthladdoedd Cymru. Rydym ni wedi masnachu'n llwyddiannus â nwyddau yn dod o Weriniaeth Iwerddon trwy Gymru ers 50 mlynedd heb fod angen i archwiliadau o'r fath fod yn weithredol. Byddai Llywodraeth y DU synhwyrol yn dod i gytundeb milfeddygol a byddem ni yn ôl lle'r oeddem ni cyn, i ddyfynnu'r Financial Times ddoe, i ffolineb Brexit gael ei orfodi arnom ni.
Prif Weinidog, mae gennyf i lawer o atgofion hapus o weithio ar fwrdd y Stena Europe a'r Lynx a oedd yn hwylio o Abergwaun i Rosslare ar ddechrau'r 2010au pan oeddwn i'n dal yn fyfyriwr. Roedd llawer o'r sïon a'r sgwrsio islaw'r deciau ac yn y gali bryd hynny yn dweud y byddai'r ddau borthladd yn sir Benfro yn cael eu cyfuno ar yr adeg honno. Ers hynny, yn y mis diwethaf, rydym ni wedi clywed Irish Ferries yn dawedog iawn ynghylch eu dyfodol, gan achosi pryder mawr i fy etholwyr a chriw ar fwrdd y fferi o ran eu dyfodol yn hwylio o Ddoc Penfro i Rosslare. A yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gyfuno'r ddau wasanaeth fferi allan o un porthladd fel bod dim ond un gyfres o ymadawiadau sydd o sir Benfro i Rosslare? Diolch.
Wel, Llywydd, y canlyniad y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio yw ein bod ni'n cynnal y lefel uchaf o wasanaeth rhwng porthladdoedd Cymru, Abergwaun a Doc Penfro, a dyna'r ydym ni wedi bod yn canolbwyntio arno yn nyddiau anodd y blynyddoedd diwethaf. Ansicrwydd sy'n ysgogi cwmnïau i gael y math o drafodaethau y mae Sam Kurtz yn eu crybwyll. Y gobaith yw y bydd cytundeb protocol Gogledd Iwerddon yn rhoi mwy o sicrwydd i gwmnïau sy'n gweithredu ar draws môr Iwerddon, a'r hyn a fyddai'n rhoi nid yn unig mwy o sicrwydd iddyn nhw, ond a fyddai'n gwella'r siawns o allu cynnal y lefel bresennol o wasanaeth, yw pe gallem ni, fel yr awgrymais yn fy ateb i Joyce Watson, ddychwelyd i amodau lle'r oedd masnachu di-rwystr mor agos â phosibl i'r amgylchiadau yr oeddem ni'n eu mwynhau dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl.
Does yna ddim amheuaeth o gwbl bod Brexit, wrth gwrs, wedi bod yn niweidiol iawn i borthladd Caergybi. Un ddadl gref dros roi dynodiad porthladd rhydd i Gaergybi, wrth gwrs, ydy bod dynodiad eisoes wedi cael ei roi i Lerpwl, lle mae'n bosibl hwylio'n uniongyrchol i Ogledd Iwerddon, a'r ofn ydy bod y dynodiad hwnnw yn rhoi mantais annheg i Lerpwl dros Gaergybi.
Ond yn edrych i'r hirdymor, un bygythiad arall i Gaergybi ydy cyflwr y morglawdd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eiddgar i ddangos cefnogaeth i fuddsoddi mewn cynnal a chadw a thrwsio'r morglawdd, mae Stena wedi dangos eu bod nhw'n barod i fuddsoddi hefyd, ond mae yna drydydd parti—Llywodraeth y Deyrnas Unedig ydy hwnnw. Felly, all y Prif Weinidog yn gyntaf gadarnhau cefnogaeth barhaol Llywodraeth Cymru i wneud y buddsoddiad hwnnw, a rhoi diweddariad ar y trafodaethau sy'n mynd ymlaen rhwng y Llywodraeth a Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad yma'n gallu digwydd er mwyn rhoi'r dyfodol llewyrchus hirdymor hwnnw i'r porthladd yng Nghaergybi?
Wel, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am y cwestiwn, Llywydd. Dwi'n cytuno—un o'r pethau rŷn ni'n mynd i gadw llygaid arno dros yr wythnosau i ddod yw gweld, yn y cytundeb newydd, os oes yna fwy o bwyslais ar gwmnïau i fynd yn syth o'r Deyrnas Unedig i Ogledd Iwerddon. Bydd y manylion yn bwysig, a dydy'r manylion ddim gyda ni eto, ond rŷn ni yn mynd i fod yn benderfynol i fynd ar ôl y pwynt yna.
Ar y morglawdd yng Nghaergybi, wrth gwrs, rŷn ni'n dal i fod yn rhan o'r trafodaethau sy'n mynd ymlaen yna. Rŷn ni'n cydweithio gyda Stena, ac rŷn ni fel Llywodraeth—fel rŷn ni wedi'i ddweud yn barod—yn fodlon i fod yn rhan o'r grŵp sy'n dod at ei gilydd i dalu am y costau. Mae yn bwysig i gael Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth y bwrdd, hefyd; dwi'n becso peth bach os maen nhw'n tynnu nôl o wneud hynny. Rŷn ni wedi gweld dros yr wythnos diwethaf beth sydd wedi digwydd gyda Holyhead hydrogen hub, lle dŷn nhw ddim wedi dod at y bwrdd gyda'r arian yr oedden nhw wedi cyhoeddi yn barod, ac rŷn ni wedi gweld un neu ddau o bethau sy'n codi pryderon gyda ni am y rôl maen nhw'n fodlon i'w chwarae gyda'r morglawdd, hefyd. Ond rŷn ni'n dal i fod yna, mae Stena yn dal i fod yna, ac rŷn ni'n cydnabod y pwysigrwydd o wneud y gwaith yna am ddyfodol Caergybi.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n cytuno gyda'r sylwadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod Joyce Watson a chyda chithau hefyd o ran Brexit a'i niwed i gystadleurwydd ein porthladdoedd yng Nghymru. Mae'n syndod i mi fod ein cyd-Aelodau yn y Blaid Geidwadol, yn eu condemniad o'r adolygiad ffyrdd, yn dweud bod Cymru ar gau i fusnes. Wel, mewn gwirionedd, chi sydd wedi cau Cymru i fusnes drwy ein cymryd ni allan o'r UE. Mae ein porthladdoedd yng Nghymru wedi cael eu niweidio'n sylweddol gan fasnach a thraffig, ac am hynny rwy'n credu y dylech chi gyfaddef o leiaf, os nad teimlo cywilydd eich hunain.
Ond hoffwn siarad am agwedd arall, os caf i, ar ein porthladdoedd yng Nghymru, sef ein mynediad at ynni gwynt. Rydym ni'n gwybod bod datblygiadau penodol—er enghraifft, yn fy rhanbarth i yn sir Benfro, lle'r ydym ni'n gweld ynni Blue Gem Wind yn datblygu ein mynediad at yr ynni gwynt hwnnw mewn gwirionedd. Rydym ni'n tybio y bydd tua 10,000 o swyddi yn cael eu datblygu. Un o'r problemau mawr, fodd bynnag, yw cael gafael ar drwyddedau ar gyfer y datblygiad hwnnw, a tybed a allech chi gynnig sylwadau ar hynny, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr i Jane Dodds am y cwestiwn ychwanegol yna.
Wrth gwrs, mae hi yn llygad ei lle ei fod yn ganolog i ddyfodol nid yn unig y porthladdoedd eu hunain ond economi Cymru bod gennym ni'r buddsoddiad hwnnw mewn ynni gwynt arnofiol ar y môr. Mae llawer iawn o ymdrech yn cael ei wneud i greu'r dyfodol hwnnw. Rwy'n falch iawn o allu dweud bod y cydsyniadau sydd eu hangen ar gyfer prosiect Erebus, yr arddangosiad masnachol gwirioneddol cyntaf o ynni gwynt arnofiol ar y môr yn y môr Celtaidd—bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu ei gydsyniadau fel y gall y cynllun hwnnw fynd yn ei flaen, ac rwy'n credu yr wythnos hon, bod y Gweinidog wedi gallu darparu'r cydsyniadau y mae angen i Weinidogion Cymru eu darparu o dan adran 36 Deddf Trydan 1989.
Felly, mae'r cydsyniadau sydd eu hangen i ganiatáu i'r prosiect pwysig iawn hwnnw fynd yn ei flaen yno bellach. Daw ei bwysigrwydd o arddangos ein gallu yng Nghymru i fynd â chynlluniau o'r bwrdd darlunio a'u gweithredu ar raddfa fasnachol mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod yr wythnos hon wedi bod yn wythnos dda iawn i Blue Gem, a byddwn yn parhau i edrych yn gadarnhaol iawn ar ddatblygiad y prosiect hwnnw ar gyfer popeth y bydd yn ei ddangos ynghylch ein hymrwymiad i ynni adnewyddadwy ac i'r porthladdoedd a fydd yn asgwrn cefn i'r datblygiad hwnnw.