1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2023.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â strategaeth economaidd Blaenau'r Cymoedd? OQ59233
Llywydd, rydyn ni'n parhau i weithio gyda'r awdurdodau lleol ar draws cymoedd gogleddol de Cymru a phrifddinas-ranbarth Caerdydd i gynyddu ffyniant economaidd y rhanbarth.
Diolch. Prif Weinidog, mae eich ymrwymiad personol chi i'r cymunedau ym Mlaenau'r Cymoedd wedi disgleirio erioed, fel Prif Weinidog a chyn hynny hefyd. Byddwch yn cofio eich ymweliad â Blaenau Gwent yn ystod ymgyrch yr etholiad diwethaf, pan safodd y ddau ohonom ni ar y bont dros brosiect deuoli'r A465, a phan wnaethoch chi siarad am eich gobeithion ar gyfer dyfodol y prosiect hwnnw a pha ffyniant y byddai'n helpu i'w ddenu i Flaenau Gwent.
Rwy'n falch iawn o'r buddsoddiad yr ydym ni'n ei wneud yn yr A465. Dyma'r buddsoddiad unigol mwyaf y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud erioed mewn prosiect datblygu economaidd—bron i £2 biliwn erbyn iddo gael ei gwblhau. Rwy'n cofio'n dda gwaith ein ffrind da, Carl Sargeant, i sicrhau bod y prosiect hwnnw'n mynd yn ei flaen.
Prif Weinidog, mae Blaenau Gwent eisoes wedi gweld effaith gadarnhaol y buddsoddiad hwn. Mae'r awdurdod lleol eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau gan fusnesau sydd eisiau lleoli ym Mlaenau Gwent ac eisiau datblygu eu busnesau yn y fwrdeistref. Rwy'n falch iawn bod Gweinidog yr economi, Vaughan Gething, wedi cytuno i ddod i Flaenau Gwent i siarad am sut y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'r buddsoddiad hwn. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod y Llywodraeth gyfan yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y llwybr hwn i ffyniant yn llwybr i ffyniant gwirioneddol, nid yn unig i Flaenau Gwent ond i ranbarth cyfan Blaenau'r Cymoedd?
Wel, Llywydd, diolch i Alun Davies am hynna. Rwyf i wedi ei glywed ar nifer o achlysuron ar lawr y Senedd yn dadlau bod yn rhaid i ffordd newydd Blaenau'r Cymoedd fod yn fwy na ffordd osgoi, fel yr wyf i wedi ei glywed yn dweud; mae angen iddi fod yn rhywbeth sy'n creu ffyniant ar ei hyd cyfan. Mae'n iawn i ddweud fy mod i wedi bod yn ddigon ffodus i allu cymryd diddordeb yn y datblygiad drwy gydol y cyfnod yr wyf i wedi bod yn rhan o Lywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod yr oeddwn i'n Weinidog cyllid, fe wnaethom ni lunio'r model buddsoddi cydfuddiannol, sef, wrth gwrs, y cyfrwng yr ydym ni'n gallu cwblhau adrannau terfynol y ffordd—adrannau 5 a 6—drwyddo bellach.
Ond, ein huchelgais yw'r union uchelgais y siaradodd Alun Davies amdano, Llywydd. Sef gwneud yn siŵr ein bod ni'n dwyn ynghyd, ar ei hyd cyfan, y gwahanol awdurdodau lleol a'r rhanddeiliaid eraill sydd â rhan i'w chyfrannu i wneud yn siŵr bod y ffordd yn injan ar gyfer ffyniant economaidd yn y rhan honno o Gymru. Rwy'n cofio'n eglur yr ymweliad hwnnw â Blaenau Gwent, oherwydd y ddau beth sydd yn fy meddwl yn ei sgil. Yn gyntaf oll mae'r gamp syfrdanol o beirianneg y mae'r ffordd honno yn ei chynrychioli mewn cynifer o rannau o'i hyd. Ac yn ail, y gofal a gymerwyd amdani wrth ei hadeiladu i wneud yn siŵr bod agweddau amgylcheddol ar y ffordd honno wedi cael sylw mor ofalus. Aeth yr Aelod, Llywydd, â mi i weld rhywfaint o'r gwaith ychwanegol sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod yr effaith ar fywyd gwyllt yn y rhan honno o Gymru wedi cael ei chynllunio yn ofalus i'r ffordd yr adeiladwyd y ffordd honno. Gyda'r lefel honno o ofal a chyda'r lefel honno o fuddsoddiad, rwy'n siŵr y bydd yn parhau i wneud yr hyn a ddywedodd yr Aelod, sef dod â chyfleoedd economaidd newydd i rannau o Gymru lle nad yw'r cyfleoedd hynny wedi bod ar gael yn ddigonol bob amser.
Prif Weinidog, does dim dwywaith bod pob un ohonom ni yma eisiau gweld Cymru yn ffynnu ag economi gref, digonedd o swyddi medrus iawn a chyfleoedd gwych i bawb. Wel, dim ond un o'r nifer o brosiectau sy'n mynd i'n helpu ni i gyflawni hynny yw cronfa ffyniant bro Llywodraeth y DU. Yn y rownd ariannu ddiweddaraf, dyfarnwyd bron i £40 miliwn i fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru, mae £9 miliwn o hwnnw yn cael ei wario yn uniongyrchol ym Mlaenau Gwent gan greu campws peirianneg newydd sy'n arwain y byd. Bydd y campws hwn yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr medrus a, gobeithio, yn dod â mwy o ffyniant i'r ardal. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i groesawu'r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer Blaenau Gwent, a fydd yn helpu i greu swyddi medrus iawn a sicrhau twf economaidd hirdymor i'r ardal, y mae ei angen ers cyhyd? Diolch.
Rwy'n credu bod dau neu dri o bwyntiau i'w gwneud. Yn gyntaf oll, ni fyddai'r buddsoddiad yn y coleg ym Mlaenau Gwent wedi bod yn bosibl oni bai am y buddsoddiad yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei wneud yn y datblygiad hwnnw eisoes ac, yn wir, buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd a wnaed ynddo. Llywodraeth y DU yw'r trydydd partner a'r partner olaf i wneud cyfraniad, ac ni fyddai eu cyfraniad nhw wedi bod yn bosibl heb bopeth a wnaed o'i flaen.
Rydym ni'n gwybod bod y gronfa ffyniant bro yn gadael Cymru ar ei cholled yn enfawr o gymharu â'r hyn y byddem ni wedi ei gael o dan unrhyw amgylchiadau eraill. Llywydd, gadewch i mi wneud pwynt ychydig yn wahanol, sef, mewn gwirionedd, bod y ffordd y gweinyddwyd y gronfa ffyniant bro wedi ei gwneud hi'n fwy anodd i ddod ag awdurdodau lleol ynghyd i ddarparu'r pwyslais hwnnw ar y cyfleoedd economaidd y mae ffordd Blaenau'r Cymoedd yn eu cynnig, oherwydd y ffordd y mae'r gronfa ffyniant bro yn gweithio yw bod awdurdodau lleol yn cael ei gwahodd i gystadlu â'i gilydd. Mae'n rhaid iddyn nhw feddwl am gynlluniau o fewn eu ffiniau eu hunain, ac mae'n rhaid iddyn nhw gystadlu gyda'u cymdogion am gyllid. Yr ymdrechion y mae Gweinidog yr economi yma wedi eu gwneud oedd dod â'r bobl hynny at ei gilydd o amgylch un bwrdd. Maen nhw wedi cael eu dargyfeirio a'u mwydro i fynd ar drywydd yr hyn sydd, yn y pen draw, yn symiau cymharol fach o arian ac mewn ffordd sy'n tanseilio eu gallu mewn gwirionedd i ddarparu'r ffyrdd cydweithredol ac ar y cyd hynny o weithio yr wyf i'n credu sydd â siawns hirdymor llawer mwy o fod yn sail i'r economi leol honno.