Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch am y cyfle i gael cyfrannu at y drafodaeth bwysig yma y prynhawn yma. Dwi yn cydnabod ar y cychwyn fod llunio cyllideb yn dasg anodd ac yn cydymdeimlo â'r Gweinidog. Mae cyllideb yn adlewyrchu blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'r gyllideb yma, felly, yn gorfod cael ei gwneud yn wyneb llymder 2.0. Unwaith eto, mae'r Ceidwadwyr yn edrych i dorri yn ôl ar gefnogaeth y wladwriaeth a gorfodi toriadau ariannol poenus, a hynny ar adeg o gyni ariannol sylweddol. Wrth gwrs, y bregus a'r difreintiedig fydd yn dioddef fwyaf o ganlyniad i doriadau y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Nid yn unig fod y fformiwla Barnett yn fethedig ac yn golygu nad ydy Cymru'n cael yr arian sydd yn ddyledus inni, ond mae gwariant cyfalaf angenrheidiol yn cael ei wadu i ni yn sgil prosiectau megis HS2. Felly, mae'r amlen gyllidol sydd i fod i ddod i Gymru yn llai na'r hyn y dylai hi fod. Y gwir amdani ydy mai dewis gwleidyddol ydy llymder. Does yna ddim rhaid i wladwriaeth sydd â sofraniaeth ariannol a banc canolog orfodi llymder ar ei phoblogaeth; dewis gwleidyddol ydy o er mwyn cadw'r cyfoethog yn gyfoethog. Mae trio cymharu cyllideb gwladwriaeth gyda chyllideb bersonol—yr household income—yn nonsens llwyr sydd naill ai yn dangos diffyg crebwyll economaidd neu'n gelwydd bwriadol ar ran y Ceidwadwyr.
I fynd at fanylion y gyllideb yma, dydy o ddim yn syndod i nifer ohonoch chi fy mod i'n sefyll yma heddiw i sôn am fater dwi'n angerddol yn ei gylch, sef tai. Dwi wedi cynnal sawl sgwrs â'r sector ac wedi adnabod nifer o flaenoriaethau ar gyfer anghenion tymor byr, canolig a hir. Mae yna lawer sydd angen ei ariannu, ond o flaenoriaethu y pethau yma, fe welwn fod angen cynyddu'r grant cymorth tai, cyflwyno rhaglen gymorth i bobl sydd mewn perygl o golli cartrefi, cyflwyno pecyn cynhwysfawr i'r sector tai cymdeithasol fel eu bod nhw'n medru cyrraedd y safonau angenrheidiol yn wyneb y cynnydd aruthrol mewn chwyddiant a chostau, a chyflwyno pecyn i gynorthwyo pobl i brynu tai. Nid syniadau newydd ar fy rhan i na rhai gwreiddiol ydy'r rhain. Rwyf am gymryd eiliad er mwyn cydnabod rôl Gweinidogion blaenorol, yn benodol Jocelyn Davies ac Ieuan Wyn Jones, a ddatblygodd bolisïau nid annhebyg pan oedd Cymru yng nghanol corwynt economaidd ac ariannol nôl yn 2008. Roedd gwaith Jocelyn Davies ac Ieuan Wyn Jones wedi golygu fod miloedd o bobl wedi medru aros yn eu tai gan osgoi digartrefedd. Mae'r gwersi gwerthfawr o'r cyfnod hwnnw wedi cael eu dysgu a'u mabwysiadu eleni, ac mae hyn yn amlwg yn y £40 miliwn dros ddwy flynedd er mwyn sicrhau bod pobl yn medru aros yn eu tai yn ystod yr argyfwng costau byw yma, sydd yn dilyn yn uniongyrchol o waith Jocelyn.
Mae'n amlwg bod ffrwyth llafur Plaid Cymru a'r cytundeb cydweithio i'w weld yn glir yma, a dwi'n falch gweld ein blaenoriaeth o fynd i'r afael â'r argyfwng tai hirdymor yn cael ei blaenoriaethu. Mae gweld £63 miliwn yn ychwanegol yn cael ei roi i gynllun cymorth prynu am wneud gwahaniaeth sylweddol, gan olygu y gall teuluoedd ifanc fforddio tai yn eu cymunedau, boed hynny yn Nwyfor neu ym Mro Morgannwg a phob cymuned arall yng Nghymru. Ymhellach i hynny, mae'r £59 miliwn dros ddwy flynedd i'r sector gymdeithasol er mwyn ei galluogi i gyrraedd y targedau amgylcheddol a cheisio codi safonau ein tai cyhoeddus yn gynnydd gwerthfawr dwi'n ei groesawu. Ond, mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl heddiw, a does dim angen i mi bwyntio allan y ffaith ein bod ni'n gweld digartrefedd yn cynyddu, efo llawer iawn yn fwy o bobl mewn lletyau dros dro. Mae'r gwasanaethau sydd yn trio mynd i'r afael â'r argyfwng penodol yma yn gwegian, gyda staff y gwasanaethau digartrefedd ei hun yn cael trafferth dod â dau ben llinyn ynghyd. Felly, mae'n siom fawr i weld nad oes yna gynnydd yn y gyllideb ar gyfer y grant cymorth tai. Fel y saif pethau, mae'n sicr y gwelwn ni'r gwasanaethau yma'n crebachu, a chanlyniad hynny fydd gweld mwy o bobl yn cysgu ar ein strydoedd oherwydd nad ydy'r gwasanaeth hanfodol i'w cynorthwyo ar gael. Mae hynny yn siom aruthrol.
Fe hoffwn yn olaf sôn fymryn am amaeth. Mae'r Bil amaeth newydd ar ei daith drwy'r Senedd, a Chyfnod 2 o'r Bil hwnnw ar ein pennau. Mae'r Bil yn—[Anghlywadwy.]—ac mae'r hinsawdd amgylcheddol yn rhan ganolog ohono. Oherwydd hyn, bydd amaethwyr yn gorfod addasu rhai arferion mewn amser byr iawn, felly mae o hefyd yn siom nad oes yna gyllideb cyfalaf ychwanegol wedi cael ei neilltuo er mwyn galluogi ein amaethwyr i wneud y newid yma yn ddi-dor yn yr amser byr sydd gennym ni. Diolch yn fawr iawn.