3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gostyngiad mewn sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghanol De Cymru? OQ59255
Mae gan gyrff sydd â dyletswydd gan gynnwys awdurdodau lleol, gyfrifoldeb am reoli sbwriel a thipio anghyfreithlon yn eu hardaloedd arbennig nhw. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cadwch Gymru'n Daclus a Thaclo Tipio Cymru i gefnogi gwelliannau mewn ansawdd amgylcheddol lleol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau â phartneriaid, gwaith gorfodi a hyrwyddo newid ymddygiad.
Diolch, Weinidog. Fel byddwch yn ymwybodol, mae problem enbyd o ran ysbwriel a thipio anghyfreithlon, a gwyddom oll am yr effaith niweidiol mae hyn yn ei gael, nid yn unig ar harddwch ein cymunedau, ond hefyd o ran natur a bywyd gwyllt. Mae gennym ni oll, wrth gwrs, ran i’w chwarae a hoffwn ddiolch i’r miloedd o bobl ledled y wlad sydd yn mynd ati’n gyson i godi ysbwriel yn eu cymunedau fel gwirfoddolwyr, ym mhob tywydd, a chwarae eu rhan fel dinasyddion cydwybodol.
Ond mae yna rai mannau sydd rhy beryglus i wirfoddolwyr fynd ati i godi ysbwriel, megis wrth ochr lonydd prysur a hefyd traciau trên, ac eto mae problem ddifrifol o ran hyn mewn nifer o ardaloedd. Rwyf yn derbyn cwynion rheolaidd am ysbwriel gan bobl sy’n dal trên o’r Cymoedd i Gaerdydd, a rhai sy’n teithio ar ffyrdd yn fy rhanbarth, megis yr A470, yr M4 a’r A4232. Pryd gallwn ddisgwyl cyhoeddi cynllun terfynol y Llywodraeth i fynd i’r afael ag ysbwriel a thipio anghyfreithlon, a sut bydd hyn yn gwella’r broblem?
Diolch, Heledd. Mae'r un pryderon gennyf innau hefyd. Mewn gwirionedd, cyn i mi gael eich cwestiwn chi, fe godais i fy nghanfyddiad personol gyda fy swyddogion bod maint y sbwriel sydd ar hyd ffyrdd a'r rheilffyrdd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n credu bod nifer o resymau am hyn, ac rydyn ni'n eu hystyried. Felly, rwy'n awyddus iawn i rymuso gallu'r awdurdodau lleol i weithredu yn hynny o beth, y ddeubeth, mewn gwirionedd, sef y camau ôl-weithredol i godi sbwriel, ond mewn gwirionedd y rhaglenni newid ymddygiad ac addysg i bobl er mwyn deall gwir effaith taflu potel allan o ffenestr eich car neu beth bynnag arall y gallai fod. Ceir problem hefyd gyda'r ffordd y mae rhai contractwyr gwastraff yn casglu sgipiau heb rwyd briodol ar eu pennau nhw ac ati, a'r gwynt yn chwythu'r sbwriel i bobman wedyn. Felly, roeddwn i eisoes yn annibynnol—ac rwy'n fwy na pharod i adnewyddu hyn—wedi gofyn am adolygiad o sut mae'r system honno'n gweithio, sut rydym ni'n ei hariannu hi, a pha ddyletswyddau sy'n berthnasol. Ni sydd â'r cyfrifoldeb am rywfaint o'r rhwydwaith cefnffyrdd, ond rydyn ni'n dirprwyo hynny i awdurdodau lleol, ac rwyf i wedi gofyn am adolygiad o hynny hefyd.
Felly, rwy'n pryderu fel chithau, ac roeddwn i wedi dechrau'r broses eisoes, ond rwy'n hapus iawn i'w bywiogi hi unwaith eto, o ran ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud. Ond rwy'n credu bod problem fawr o ran newid ymddygiad yn hyn o beth. Mae gwir angen i bobl ddeall beth sy'n digwydd pan fyddan nhw'n taflu sbwriel, beth sy'n digwydd i'r plastig y maen nhw'n ei adael ar ochr y ffordd. Nid yr un botel honno'n unigol, ond yr hyn sy'n digwydd wrth i honno drwytholchi i'r amgylchedd yn y tymor hwy. Felly, fel dywedais i, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Jeremy Miles, gyda'r fenter Eco-Ysgolion, i argyhoeddi pobl o effaith eu hymddygiad personol, ac ystyr hyn i raddau helaeth iawn fydd gwthio cymdeithasol, onid e, er mwyn gwneud ymddygiad o'r fath yn gwbl annerbyniol.
Ni allwn i gytuno mwy â'r teimladau a fynegwyd gennych chi a'r holwr blaenorol am faint y sbwriel sydd i'w weld wrth briffyrdd a rheilffyrdd, yn arbennig yng Nghanol De Cymru. Ar y ffordd gyswllt sy'n cychwyn o Groes Cwrlwys, mae yna wely yno ar fin y ffordd sydd wedi bod yno ers tair wythnos. Mae tua 12 o fagiau bin du yn y gilfan agosaf yno hefyd, ac mae'r rheini wedi bod yno am o leiaf 10 diwrnod. Ym Mro Morgannwg, wrth dafarn yr Aubrey Arms, mae llwyth o fagiau bin du ar ymyl y palmant yno, sydd newydd eu gadael. Rwy'n gwerthfawrogi nad ar y Llywodraeth y mae'r bai am hyn; rwy'n gwneud fy ngorau i weld bai ar y Llywodraeth am y rhan fwyaf o bethau, ond er tegwch, nid ar y Llywodraeth y mae'r bai am hyn. Mater cymdeithasol yw hwn.
Mae addysg yn un o'r ysgogiadau y gallwn ni eu defnyddio. A wnewch chi gadarnhau pa un a yw awdurdodau lleol wedi cyflwyno unrhyw syniadau, gydag awgrymiadau i chi, Gweinidog, i'w galluogi nhw i fynd â phobl sy'n gadael sbwriel yng nghefn gwlad, ac ar hyd ein ffyrdd a'n rheilffyrdd—? Oherwydd yr enghreifftiau yr wyf i newydd eu rhoi i chi, ysbwriel masnachol oedd y rheini. Nid taflu'r botel drwy'r ffenestr, sy'n beth atgas ynddo'i hun; oedd hynny ond rhywun yn fwriadol yn taflu sbwriel a oedd naill ai'n wastraff masnachol neu'n wastraff cartref cyffredinol sy'n effeithio llawer iawn ar ardal a ddylai fod yn ddihalog, yn lân, ac yn hysbyseb dda i'n prifddinas hyfryd ni, Caerdydd, ac, yn wir, i gefn gwlad hyfryd Bro Morgannwg.
Yn hollol, Andrew. Yn amlwg, mater i'r awdurdod lleol yw hwn, ac rwy'n gobeithio eich bod chi wedi rhoi gwybod iddyn nhw am hyn. Mewn gwirionedd, rwyf fy hun wedi codi'r slipffordd, fel y'i gelwir, gyda Chyngor Caerdydd, mewn cyfarfod gyda'r arweinydd yn ddiweddar. Rydyn ni'n gwneud nifer o bethau. Mae gennym ni Taclo Tipio Cymru, er enghraifft, yn gweithio mewn partneriaeth ar hyn o bryd gyda Rhondda Cynon Taf i ddal tipwyr anghyfreithlon, gan ddefnyddio gwyliadwriaeth ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a Cadwch Gymru'n Daclus, drwy'r prosiect Caru Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gyda grwpiau amgylchedd lleol a'r heddlu i roi sylw arbennig i fannau lle mae problem gyda sbwriel a achosir gan ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac erlyn y bobl gyfrifol wedyn.
Rwy'n awyddus iawn i dynnu sylw at yr erlyniadau, oherwydd rwy'n credu bod effaith ataliol i hynny. Os ydych chi'n agor y bagiau du, yn aml fe allwn ni ganfod pwy sy'n gyfrifol, a'u holrhain drwy'r sbwriel. Rydyn ni wedi bod yn annog awdurdodau lleol i wneud hynny; mae gennym ni gynllun gweithredu i wneud hynny. Fel rwy'n dweud, rydyn ni'n gwneud ymdrech o ran newid ymddygiad pobl. Mae newid ymddygiad fel hyn yn berthnasol i fusnesau hefyd. Nid y rhai sy'n tipio yn unig, ond, mewn gwirionedd y busnesau sydd wedi gofyn am daflu eu sbwriel yn y ffordd honno. Felly, fe geir rhaglenni ar gyfer newid ymddygiad o ran gwastraff masnachol a busnesau hefyd.
Fe fydd yna fwy o hynny wrth i ni gyflwyno'r nodau ailgylchu newydd i fusnesau ac ati, oherwydd mae hwnnw'n ailgylchu gwerthfawr; nid dim ond sbwriel mohono. Mae hwn yn ddeunydd gwerthfawr y gallwn ni ei ddefnyddio yn rhan o'n hymdrech ni o ran yr economi gylchol, am ein bod ni wedi dechrau denu ailbroseswyr gwirioneddol ddifrifol yma i Gymru, oherwydd y deunyddiau eildro gwerth uchel sydd gennym ni. Mae'r deunydd hwnnw, yn fy marn i, yn fwy na dim ond sbwriel hyll; mewn gwirionedd, mae'n ddeunydd crai sy'n mynd yn wastraff y gellir ei ddefnyddio eto. Mae angen i ni hysbysu'r cyhoedd am yr ymagwedd honno, ond mae angen hefyd i ni erlyn y bobl hynny sy'n gwneud y pethau yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw, oherwydd ni allwn i gytuno mwy—mae'n hyll ac yn amgylcheddol beryglus hefyd, ac mae angen i ni amlygu'r pwynt arbennig hwnnw.