3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 14 Mawrth 2023.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Bu pum mlynedd a naw mis ers Grenfell erbyn hyn. Am 2,099 o ddiwrnodau, mae cannoedd o drigolion Cymru wedi bod yn byw mewn ofn o ran diogelwch eu heiddo eu hunain, a pherygl o dân. Rhwng 2017-18 a 2021-22, cafwyd 1,323 o danau mewn blociau o fflatiau a adeiladwyd yn wreiddiol i'r diben hwnnw, a 514 o danau mewn adeiladau a gafodd eu haddasu i fod yn fflatiau.
Nawr, mae'n rhaid eich bod chi'n gwybod am y Welsh Cladiators a'u hymgyrch nhw i ennill cydnabyddiaeth i'r angen am gymorth ar unwaith gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Nawr, wythnos diwethaf, fe glywsom ni, i fod yn deg, y byddwch chi'n gwneud datganiad cyn yr haf. Er hynny, Gweinidog, mae canlyniadau hyn mor ddifrifol, a'r materion y mae'r bobl hyn yn eu hwynebu, felly rwy'n gofyn, gyda phob diffuantrwydd, a fyddech chi'n gwneud hynny'n gynt?
Rydyn ni'n disgwyl yn eiddgar i chi gyflwyno cyfran o ddeddfwriaeth gerbron. Rydyn ni'n sylweddoli nad Llywodraeth Cymru yn unig sy'n gyfrifol am y datrysiad hwn. Yn syml, mae llawer o hyn yn ymwneud â'r ffaith bod rhai datblygwyr yn gwrthod derbyn eu cyfrifoldebau eu hunain. Felly, mae'n debyg, i mi—. Fe gawsom ni'r cyfarfod ar 1 o fis Mawrth; roedd cynulleidfa niferus iawn. Ers hynny, rwyf i wedi clywed nifer o bryderon ac enghreifftiau brawychus iawn am rai o'r problemau y mae pobl sy'n byw yn yr anheddau hyn yn eu hwynebu. Bob dydd y caiff y gwaith adfer ei ddal yn ei ôl, mae hynny'n ychwanegu at y costau, o ran yswiriant, costau rheoli.
Mae rhywun yn gwneud arian fel mwg yn rhywle, mae'n rhaid i mi ddweud, a hynny ar draul y rhai hyn sy'n dioddef colledion. Felly, rydyn ni'n awyddus iawn i weld amddiffyniad i'r dioddefwyr hyn, ac rwyf i wedi gwrando arnoch chi'n siarad dro ar ôl tro am y cymhlethdodau ynglŷn â'r mater. Pa gamau a ydych chi am eu cymryd o ran y datblygwyr hynny nad ydyn nhw, yn syml, wedi dechrau ymrwymo a derbyn eu cyfrifoldebau a llofnodi, mewn gwirionedd, y cytundeb i ddatblygwyr y gwnaethoch chi ei gyflwyno? Diolch i chi.
Felly, Janet, rydyn ni wedi ailadrodd hyn nifer o weithiau, onid ydym ni? Mae maint y broblem yn wahanol iawn yng Nghymru, ac mae ein hymagwedd yn wahanol iawn. Fe wnaethom ni nodi 15 adeilad uchel gyda chladin deunydd cyfansawdd alwminiwm yn dilyn Grenfell; tri yn y sector cymdeithasol a 12 yn y sector preifat. Cafodd y tri adeilad yn y sector cymdeithasol eu cyweirio ar unwaith a rhoddwyd cefnogaeth o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Ymdriniwyd â'r 12 cynllun yn y sector preifat gan y sector preifat. Mae'r rhain i gyd naill ai wedi cael eu cwblhau neu yn y broses o gael eu cwblhau ar hyn o bryd ar gost y datblygwyr. Mae hynny oherwydd ein hymyrraeth ni yn y lle cyntaf.
Rydyn ni'n ymwybodol hefyd, trwy ein proses mynegi diddordeb, o un adeilad arall sydd dros 11m o uchder a allai fod â chladin ACM, ac mae ein hymgynghorwyr ni'n cynnal profion ychwanegol ar hyn o bryd i gadarnhau a yw hynny'n wir cyn gynted â phosibl. Os felly, wrth gwrs, fe fydd yn cael ei ddodi yn yr un broses ar gyfer cyweirio. Felly, fe fuom ni'n gweithredu ar gyflymder mawr ynglŷn â'r cladin.
Fodd bynnag, rwyf i wedi bod yn eglur iawn hefyd nad cladin yw'r unig broblem, ac fe wn eich bod chi'n ymwybodol o hynny. Felly, yn anffodus, mae gan nifer fawr o'r adeiladau hyn nifer fawr o broblemau amrywiol, ac mae gan bob adeilad gyfres wahanol o'r problemau hynny. Felly, ni allwch chi gynnig yr un datrysiad i bawb; mae cyfres wahanol o faterion ynglŷn â phob adeilad. Mae gan rai ohonyn nhw broblemau gydag adrannu, mae gan rai ohonyn nhw broblemau gyda'r sylweddau sy'n dal y cladin yn ei le, mae gan rai ohonyn nhw broblemau gydag atal tân. Mae yna fyrdd o broblemau amrywiol. Felly, fel dywedais i sawl tro o'r blaen—rwy'n hapus iawn i ailadrodd hynny—rydyn ni yn y broses o gynnal yr arolygiadau. Maen nhw wedi gorffen bron iawn; dim ond rhyw ychydig sydd ar ôl eto. Mae'r rhai ar ôl naill ai oherwydd ein bod ni wedi cael problem gyda'r asiant rheoli o ran caniatâd gan y rhydd-ddeiliaid i gynnal yr arolwg ymwthiol, neu, mewn cwpl o achosion, rydym ni wedi cael problemau oherwydd ein bod ni wedi gorfod cau tramwyfa draffig fawr ar gyfer cael mynediad i'r adeilad, ac, yn amlwg, mae hi'n cymryd peth amser i roi'r gorchmynion traffig ar waith ac ati. Ond, heblaw am hynny, maen nhw yn eu lle i raddau helaeth.
Rwyf i am wneud cyhoeddiad ynglŷn â'r adeiladau a elwir yn amddifad cyn bo hir. Mae gennym ni gynllun i ymdrin â'r rhain. Nid wyf i am roi rhaghysbysiad o hynny, ond rwy'n gobeithio gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw'n fuan iawn nawr, er mwyn i ni allu dechrau ar y gwaith cyweirio yn yr adeiladau hynny, sydd, dim ond ar gyfer esbonio'r enw, yn adeiladau lle mae pawb a ddylai fod yn gwneud y gwaith naill ai wedi mynd yn fethdalwyr neu wedi mynd o'r golwg, neu, am resymau cymhleth iawn, nad oes unrhyw un y gallwn ni ei ddal yn gyfrifol am hynny.
Ar ben hynny, mae gennym ni 11 o ddatblygwyr sydd wedi llofnodi ein cytundeb, ac rydym ni'n disgwyl iddyn nhw lofnodi ein dogfennau cyfreithiol ni'n fuan iawn. Mae yna un neu ddau sydd heb lofnodi'r cytundeb nac wedi dod ymlaen. Rwyf wedi bod yn eglur iawn gyda'r rhain y byddwn ni'n gweithredu yn llym iawn yn eu herbyn nhw. Fe fyddwn ni'n gweithredu yn union yn yr un ffordd â Lloegr ar gyfer eu hatal nhw rhag unrhyw ddefnydd buddiol o ganiatâd cynllunio sydd yn eu meddiant nhw a'u rhwystro nhw rhag gwneud unrhyw waith yn y sector cyhoeddus, ac fe fydd hynny'n golygu, i bob pwrpas, na allan nhw weithio oni bai eu bod nhw'n dwyn yr adeiladau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw i'r cyflwr priodol.
Y darn olaf o hyn, a dyma—. Mae fy nghalon i'n gwaedu dros y bobl hyn, ond mae cynllun i'w gael gennym ni a wnaiff brynu fflat i rywun sydd mewn sefyllfa anodd iawn. Mae nifer o bobl wedi ysgrifennu ataf yn dweud eu bod nhw mewn sefyllfa o'r fath, felly rydym ni wedi eu hannog nhw i fynd drwy'r broses honno. Mae nifer o'r rhain yn mynd drwodd gennym ni nawr, ac rydym ni'n awyddus iawn i fod yn dosturiol â phobl sy'n dymuno symud ymlaen gyda'u bywydau. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn hefyd gyda chwmnïau yswiriant a chyda benthycwyr i sicrhau nad yw'r ffurflenni ES1W—rwy'n drysu'r drefn bob amser—yn golygu na all pobl werthu. Felly, mae yna lawer iawn o waith wedi mynd ymlaen yn y maes hwn.
Ond mae hi'n wahanol yma yng Nghymru, oherwydd y raddfa wahanol a bod y farchnad ar raddfa wahanol, felly nid oes gennym rai o'r ysgogiadau sydd gan Lywodraeth y DU. Hefyd, rydym ni wedi ymagweddu ychydig bach yn wahanol. Felly, nid wyf i'n credu y dylai'r lesddeiliaid eu hunain orfod cymryd camau cyfreithiol, ac rwy'n gwybod eu bod nhw'n awyddus i mi weithredu'r darpariaethau sy'n caniatáu iddyn nhw wneud felly, ond nid yw camau cyfreithiol yn foddion at bob clwyf. Nid yw'r ffaith eich bod chi'n cymryd camau cyfreithiol yn golygu y bydd gennych chi ddatrysiad sydyn ac effeithiol, ac mae yna adeiladau cyfagos fan hyn sydd mewn sefyllfa o ymgyfreitha, ac mae hi'n hollol amlwg nad yw hwnnw'n ddatrysiad effeithiol.
Lluniwyd ein dogfennau ni mewn dull ychydig yn wahanol. Pan fydd y datblygwyr yn llofnodi'r dogfennau gyda ni, Llywodraeth Cymru fyddai'n mynd â nhw i'r llys. Ni fydd yn ysgwyddo'r baich a'r cyfrifoldeb cyfreithiol am hynny. Rwy'n credu mai hynny sy'n iawn, oherwydd nid wyf i'n credu y dylai'r lesddeiliaid chwarae loteri, i ryw raddau, ymgyfreitha, na'r costau cyfreithiol sy'n mynd gyda hynny. Felly, nid wyf i'n ymddiheuro am i hynny gael ei wneud yn wahanol yma yng Nghymru. Rwy'n llwyr ddeall y rhwystredigaeth sydd gan y bobl dan sylw, ond yn y diwedd rwy'n credu y bydd ein system ni'n gweithio iddyn nhw. A'r peth olaf, wrth gwrs, rydyn ni wedi gwneud hyn bob amser ar gyfer adeiladau dros 11m, ac nid 18m, yma yng Nghymru, ac felly mae mwy ohonyn nhw'n cael eu dal yn ein system ni nag a fyddai'r achos pe byddem ni'n dilyn safbwynt Lloegr.
Diolch i chi. Rwy'n credu mai dyna'r swm mwyaf o wybodaeth a glywsom ni hyd yma o ran yr hyn sydd wedi cael ei wneud a'r hyn y mae angen ei wneud eto.
Un o'r materion a gododd yn y cyfarfod a gynhaliais i oedd cost yr arolygon hyn. Roedd un wraig—ac nid oedd ganddi hi unrhyw reswm o gwbl i'n camarwain ni—yn egluro bod ganddi hi ddau eiddo fel hyn, ac roedd hi'n aros am ad-daliad o £75,000 gan Lywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, ac wedi bod yn aros amdano ers cryn amser; bron i flwyddyn, rwy'n meddwl iddi hi ddweud. Ac fe ges i sioc ofnadwy, achos mae hynny'n arian mawr i'w dalu allan am arolwg yr oedd hi wedi cael addewid y byddai hi'n cael ad-daliad gan Lywodraeth Cymru. Pe byddech chi'n dymuno i mi gyflwyno'r rhain yn unigol i chi, rwy'n hapus i wneud felly.
Ond un peth a wnaeth fy nharo i—y cyflwynwyd 17 cais am ad-daliad ffioedd arolwg i chi ers mis Hydref. Dim ond pump o unigolion cyfrifol neu asiantaethau rheoli cyfrifol sydd wedi cael llythyrau cynnig. Felly, unwaith eto, mae rhai yn dioddef colledion ariannol ar hyn o bryd nes bydd y taliadau hyn yn eu pocedi nhw.
Mater arall a godwyd gyda mi yw eich bod wedi cael £375 miliwn gan Lywodraeth y DU. A wnewch chi ddweud wrth y Siambr hon heddiw—? Hynny yw, dyna—. Sut y cawsoch chi hwnnw—. Ond dyna'r ffigur; rydych chi wedi defnyddio'r ffigur hwnnw eich hun hyd yn oed.
Do. [Anghlywadwy.]
Ie, felly dywedwch wrthym ni sut rydych chi'n ei wario, faint o'r £375 miliwn hwnnw sydd ar ôl, ac a fyddwch chi'n anrhydeddu'r arolygon hynny fel bydd y dioddefwyr hyn mewn gwirionedd—? Maen nhw'n ceisio datrys y mater hwn eu hunain. Diolch i chi.
Iawn. Y £375 miliwn yw'r arian mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi yn y gronfa diogelwch adeiladau. Nid yw'n gyllid canlyniadol ac nid yw'n uniongyrchol oddi wrth Lywodraeth y DU; felly, dim ond i fod yn eglur iawn am hynny. Pe byddem ni'n dibynnu ar arian canlyniadol oddi wrth Lywodraeth y DU, ni fyddai gennym ni unrhyw beth tebyg i'r swm hwnnw o arian—dim byd tebyg iddo.
O ran ad-dalu, rydym ni'n golygu rhoi ad-daliadau am arolygon pan fo'r arolygon wedi cael eu gwneud yn briodol—eu bod nhw wedi cael eu tendro yn briodol; ac nad ydyn nhw wedi cael eu gwneud gan berthynas teuluol na ffrind; a bod yr holl gydrannau cywir ynddyn nhw ac y gallwn ni ddibynnu ar y gwaith arolygu hwnnw ac nid gwastraff arian mohono. Nid wyf i'n ymddiheuro am yr oedi, Janet. Arian cyhoeddus yw'r hyn yr ydym ni'n siarad amdano; mae'n rhaid i ni fynd drwy'r broses o wneud yn siŵr, wrth ad-dalu'r arian hwnnw, fod yr arolwg sydd wedi cael ei gynnal yn rhywbeth y gallwn ni ddibynnu arno a gwneud defnydd ohono, ac mae arnaf i ofn bod hynny'n cymryd rhywfaint o amser. Ond rwy'n awyddus iawn wir nad yw pobl sydd wedi gwneud y peth iawn yn cael eu rhoi o dan anfantais am wneud hynny.
Rydyn ni'n edrych ar wariant arall a ysgwyddwyd gan y lesddeiliaid i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i'w ad-dalu. Nid wyf i'n addo gwneud hynny, oherwydd mae'n rhaid i hynny gydymffurfio â'r safonau i gyd ar gyfer gwario arian cyhoeddus, ac fe fyddech chi'n disgwyl i mi gydymffurfio â'r safonau hynny, ond, os gallwn ni ddod o hyd i ffordd o ad-dalu pobl sydd ar eu colled yn ariannol, fe wnawn ni. Ni allaf addo y byddwn ni'n gallu ad-dalu'r cyfan, ac mae hon yn sefyllfa nad yw'n ymwneud â phwrs y wlad chwaith. Felly, mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud hynny.
Os ydych chi'n dymuno ysgrifennu ataf i gydag enghreifftiau unigol, gwnewch hynny ar bob cyfrif, ac fe allaf innau edrych i mewn iddyn nhw i chi. Yn amlwg, ni allaf i wneud sylw ar enghreifftiau unigol ar lawr y Senedd, ond, unwaith eto, mae hon yn broses y mae'n rhaid mynd drwyddi ar gyfer cydymffurfio â'n dyletswyddau ymddiriedol ein hunain. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i. Mae fy oriawr i'n yn cymryd rhan yn y sioe nawr. [Chwerthin.] Nid yw fy oriawr i'n deall yr ymadrodd 'dyletswydd ymddiriedol', rwy'n meddwl bod hynny'n gwbl eglur. [Chwerthin.] Felly, Janet, mae hyn yn cymryd peth amser, ac fe wn i fod hynny'n achosi rhwystredigaeth, ond rwy'n siŵr y byddwn ni'n cyrraedd y fan yn y diwedd.
Diolch i chi. Ac yna, un mater arall a gododd oedd yr arian y gwnaethoch chi ei wario ar dai cymdeithasol cofrestredig, felly £8.7 miliwn, a £1.9 miliwn a roddwyd i Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd. Rwy'n deall bod dau floc yn y bae fan yma lle mae'r rhai sy'n cael y gwaith cyweirio yn eiddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a bod yn rhaid i'r perchnogion eiddo preifat sefyll a gweld y gwaith hwn yn mynd rhagddo. Siawns na ddylid bod â chydbwysedd yn hyn o beth, nad yw'r arian hwn yn mynd i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn unig. Mae'r unigolion hyn i gyd, yn unigol, yn rhoi cyfanswm o gryn dipyn o arian, ond rwy'n teimlo nad ydyn nhw'n cael eu cyfrif mor bwysig gan Lywodraeth Cymru â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. A fyddwch chi'n ceisio adfachu unrhyw arian gan y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig hynny sydd wedi elwa ar eich ymyrraeth? A sut ydych chi am brofi mewn gwirionedd i mi a'r Siambr hon y byddwch chi'r Gweinidog yn cymhwyso unrhyw broses, unrhyw fenter, gyda chyfiawnder fel bod y perchnogion eiddo preifat unigol hynny'n teimlo eu bod yn cael eu hystyried yr un mor bwysig? Diolch i chi.
Felly, Janet, yn amlwg iawn, mae yna wahaniaeth enfawr rhwng tenantiaid mewn adeilad cymdeithasol a thenantiaid mewn adeilad dan berchnogaeth breifat. Mae yna wahaniaeth eglur ac amlwg, yn enwedig oherwydd nad oes gan y bobl mewn adeilad cymdeithasol unrhyw ecwiti ynddo. Nid buddsoddiad yw hwn; nid yw'n fuddsoddiad preifat iddyn nhw, dim ond cartref ydyw ac maen nhw'n ei rentu oddi wrth landlord cymdeithasol. Yn ogystal â hynny, nid yw'r cymhlethdodau o ran pwy yn union sy'n gyfrifol am yr adeilad hwnnw yn bodoli pan fo'r landlord cymdeithasol â chyfrifoldeb. Mae hi'n eglur iawn ac yn amlwg pwy sy'n gyfrifol am y peth, felly mae hi'n llawer symlach. Hefyd, mae gan y Llywodraeth ddyletswydd bwysig iawn i denantiaid cymdeithasol. Felly, mae yna wahaniaeth eglur ac amlwg rhwng y ddwy sefyllfa.
Yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yw ceisio mynd mor gyflym â phosibl gan warchod ecwiti'r bobl yn yr adeilad. Mae gennyf i lawer o gydymdeimlad â'r bobl sydd wedi buddsoddi yn y fflatiau hyn, ond gadewch i ni fod yn eglur, buddsoddiad yw hwnnw, oherwydd y ffordd mae'r farchnad dai yn gweithio ym Mhrydain yw, yn aml iawn, eich eiddo yw eich cartref chi hefyd a'ch buddsoddiad mwyaf yn ogystal â hynny. Mae hynny'n wir i mi a'r un mor wir i nifer fawr o deuluoedd eraill. Felly, mae gen i lawer o gydymdeimlad â hynny. Nid beirniadaeth mo hon, ond mae'n golygu gwahaniaeth pendant iawn rhwng pobl sy'n buddsoddi mewn tai a thenantiaid tai cymdeithasol, sydd yn amlwg heb unrhyw ecwiti yn yr eiddo maen nhw'n byw ynddo. Maen nhw'n dibynnu ar eu landlord cymdeithasol i'w cadw nhw'n ddiogel mewn cartref sy'n weddus. Felly, mae hi'n sefyllfa wahanol iawn. A dyna, yn amlwg iawn, sy'n digwydd.
Ond, rydym ni'n gweithredu ar garlam i sicrhau y gallwn ni gyweirio'r holl adeiladau sydd ag angen hynny, gan weithio gyda'r datblygwyr i sicrhau bod y datblygwyr yn gwneud eu cyfran lawn o'r hyn y maen nhw'n gyfrifol amdano, ond gan fynd mor gyflym ag y gallwn ni hefyd i sicrhau bod y datblygwyr yn gweithredu, ac yn gweithredu ar fyrder, a bod y gwaith yn cael ei wneud i ni hyd at safon uchel, ac mae'r Llywodraeth yn goruchwylio'r gwaith erbyn hyn i wneud yn siŵr bod y safon uchel honno'n bresennol. Ac os nad yw'r datblygwyr yn gwneud yr hyn y dylen nhw'r tro hwn, yna Llywodraeth Cymru fydd deiliad y cytundeb a nyni fydd y rhai a fydd yn cymryd camau cyfreithiol yn eu herbyn nhw wedyn ac nid y lesddeiliaid unigol, a fyddai'n gwneud dim ond arwain at ymgyfreitha mwy cymhleth eto ac oedi, mae arnaf i ofn, fel gwelsom ni pan ddechreuwyd ymgyfreitha.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Mae ein byd naturiol ni'n werthfawr ac er mwyn i ni ddeall pa mor bwysig yw hi ein bod ni'n ei amddiffyn, mae'n rhaid i ni ddeall yn gyntaf pa mor fawr yw'r bygythiad iddo mewn gwirionedd. Mae cryn ofid wedi bod oherwydd yr adroddiadau na fydd y BBC yn darlledu pennod o gyfres newydd Syr David Attenborough ar fywyd gwyllt Prydain, oherwydd perygl o feirniadaeth, meddir. Trwy gyd-ddigwyddiad, wythnos diwethaf, fe ysgrifennodd 300 o sefydliadau o bob rhan o Gymru at y Prif Weinidog, yn galw am gyflwyno deddfwriaeth amgylcheddol a addawyd ar frys pan wnaeth y Senedd hon ddatgan argyfwng natur. Rydyn ni'n gwybod bod cymaint o'n harddwch naturiol ni yng Nghymru ar fin mynd ar ddifancoll. Nawr, Gweinidog, fe fyddwn i'n dadlau bod yr adroddiadau nad yw'r rhaglen am gael ei darlledu yn awgrymu i ba raddau y mae buddiannau breintiedig rhai pobl mewn grym yn rhwystro newid cadarnhaol. Felly, yn y cyd-destun newydd, mwy argyfyngus hwnnw, a fyddech chi'n cytuno i roi amserlen i ni o ran pryd y gellid cyflwyno'r ddeddfwriaeth honno, os gwelwch chi'n dda?
Ie, felly, Delyth, mae arnaf i ofn mod i am roi ateb i chi yr ydych wedi ei gael sawl gwaith o'r blaen. Nid oeddwn i'n gwybod am raglen y BBC. Os yw hynny'n wir, mae hynny'n warthus, ac mae gwir angen i'r BBC ystyried pa neges y mae'n ei chyhoeddi, os mai dyna'r hyn y mae'n ei wneud.
Mae hi ar iPlayer.
Mae hi ar iPlayer, ydy hi? Da iawn. Reit.
A gaf i godi pwynt o drefn, Llywydd?
Na, nid oes angen pwynt o drefn arnaf i ar ganol cwestiynau.
Nid yw hynny'n wir. Mae neges drydar gan y BBC yn dweud mai anwiredd yw hynny. Dyna i gyd.
Iawn. Mae angen i mi ddwyn popeth yn ôl i drefn yma. Ond, diolch am yr eglurhad gan Sam a Huw fel ei gilydd.
I ateb y cwestiwn gwirioneddol, Llywydd, sef o ran amseriad y nodau llywodraethu amgylcheddol a bioamrywiaeth, fe fyddwn ni'n cyflwyno'r rhain cyn gynted ag y gallwn ni. Rwy'n deall y brys yn llwyr. Ond, er mwyn bod yn hollol eglur, Delyth, nid ydym ni'n aros i'r ddeddfwriaeth fod ar waith cyn gwneud unrhyw beth. Rwyf i'n gwbl ymrwymedig i amcanion 30x30. Mae hynny'n rhoi saith mlynedd a thipyn i ni gyrraedd lle mae angen i ni fod. Yn amlwg, pe byddem ni'n aros i'r ddeddfwriaeth fynd drwodd fe fyddem ni'n ei chael hi'n anodd iawn. Felly, rydyn ni'n gweithio ar gyflymder eisoes. Rydyn ni wedi cynnal ymchwiliad a dadansoddiad trylwyr o ran bioamrywiaeth, rwyf i wedi gwneud nifer o bethau'r wythnos hon, ac fe fyddai'r Llywydd yn grac iawn gyda mi pe byddwn i'n dechrau eu rhestru nhw, ond coeliwch chi fi ein bod ni'n gweithio ar gyflymder. Fe fyddwn ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Rwy'n awyddus i'r ddeddfwriaeth honno fod yn gadarn. Rwy'n awyddus i'r asiantaeth fod â digon o allu i'n dal ni, neu unrhyw Lywodraethau olynol, yn gyfrifol, ac rwy'n awyddus i'r nodau o ran bioamrywiaeth fod yn ystyrlon a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad. Felly, rydyn ni'n gweithio ar garlam i wneud hyn i gyd cyn y ddeddfwriaeth. Fe fyddaf i'n ei chyflwyno cyn gynted ag y gallwn, ond mae angen i ni wneud pethau yn y ffordd gywir hefyd, ac rwy'n dymuno, fel rydych chwithau, rwy'n gwybod, iddi fod yn ddeddfwriaeth gadarn ac egnïol.
Diolch i Sam am bwyntio hynna mas am rywbeth sydd wedi bod ar Twitter hefyd, ond fe wnaf i ddod yn ôl at hynna mewn munud.
Mae e'n galonogol fod y plymio dwfn neu'r deep-dive ar fioamrywiaeth yn ymrwymo i ddod â deddfwriaeth sy'n cynnwys targedau cyffredinol i adfer natur, a hefyd darpariaeth ar lywodraethiant amgylcheddol, ac i wneud hynny mor fuan ag sy'n bosibl yn y tymor yma o'r Senedd, ac rwy'n cymryd beth roeddech chi newydd ei ddweud. Mae hefyd yn ymrwymo, wrth gwrs, i gyfres o dargedau statudol mwy penodol ar adfer natur a fydd yn chwarae rhan mewn sicrhau bod Cymru yn chwarae rhan yn y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang sydd yn bodoli.
Ydych chi'n cytuno, ac rwy'n cymryd mewn i ystyriaeth beth rydych chi newydd ei ddweud o ran eich bod chi'n methu rhoi timetable penodol i ni, ond ydych chi'n cytuno bod brys yn sgil efallai'r penderfyniad, efallai—? Ie, fel roedd Sam Kurtz newydd bwyntio mas, dim ots os oedd hwn yn benderfyniad a oedd wedi cael ei wneud yn barod gan ddarlledwr, mae yna rai pobl yn meddwl bod penderfyniad wedi cael ei wneud i beidio darlledu rhaglen oedd yn sôn am ba mor fregus a beth sydd ar fai am ba mor fregus ydy ein system naturiol ni yng Nghymru, a dim ots os oedd hynny achos pwysau gan y Llywodraeth—mae'n debyg nawr taw nid dyna oedd e—neu achos bod y cyhoedd efallai ddim mewn lle i eisiau clywed hynny yn yr un ffordd, dim ots beth yw'r pwynt pan oedd hynny wedi digwydd, ydych chi'n cytuno bod angen i ni fod yn gwneud cymaint mwy i fynd â'r cyhoedd gyda ni, i ni i gyd i ddeall pam? Dŷn ni'n sôn am climate emergency, nature emergency, ond rwy'n poeni weithiau ein bod ni'n colli'r syniad o ba mor fregus ydy'r sefyllfa yma. Dŷn ni wedi gweld beth oedd ar ein sgriniau ni dros y weekend. Bydd hynny'n cael ei golli, ac mae'n rhaid i'r cyhoedd ddeall hynny. Beth ydych chi'n meddwl mae Llywodraeth Cymru yn gallu ei wneud i atgyfnerthu ba mor argyfyngus ydy ein sefyllfa ni ar gyfer y byd naturiol yng Nghymru?
Ie. Delyth, rwy'n rhannu eich pryder chi yn hyn o beth. Mewn gwirionedd, mae rhaglenni David Attenborough wedi gwneud llawer iawn dros y blynyddoedd, onid ydyn nhw, i godi ymwybyddiaeth o fregusrwydd y byd naturiol. Ni welais i ond pennod gyntaf y gyfres dan sylw, ond bobl bach, mae'n eithafol o ddirdynnol, ac yn brydferth iawn hefyd. Mae'n gwneud i chi sylweddoli, fel dywedais i pan ddes i nôl o COP15, pan welwch chi harddwch y byd naturiol ac ystyried faint o rywogaethau sy'n darfod ochr yn ochr â hynny, mae hynny wir yn gwneud i chi sylweddoli pa mor fregus yw'r blaned yr ydym ni'n byw arni mewn gwirionedd.
Dyna pam roeddwn i mor benderfynol o gyd-fynd â'r nodau hynny, a dyna pam rydyn ni mor benderfynol o wneud hyn yn iawn. Mae hi'n bwysig gwneud pethau yn iawn. Rydyn ni hefyd—. Rwyf i am ddweud rhywbeth sydd braidd yn ddadleuol, ond sy'n hollol wir. Rydyn ni'n gwybod oddi wrth ddeddfwriaeth arall sydd wedi mynd trwy'r lle hwn mai dim ond y cam cyntaf yw mynd â'r ddeddfwriaeth drwodd mewn gwirionedd. Rwyf eisiau i hyn fod yn weithredol. Rwyf eisiau i'r ddeddfwriaeth fynd drwodd, ac yna rwy'n awyddus i ni allu gwneud hyn ar unwaith mewn gwirionedd. Nid wyf i'n dymuno treulio pum mlynedd er mwyn ei gweithredu, felly mae angen i ni wneud pethau yn iawn. Os yw hynny'n golygu ychydig o arafu cyn ei chyflwyniad oherwydd ein bod ni'n ei chael hi'n iawn wedyn, nid wyf i'n ymesgusodi o gwbl am hynny. Rwy'n credu bod honno'n wers yr ydym ni wedi ei dysgu.
Rydyn ni ar fin cychwyn ar raglen newid ymddygiad, a fydd yn helpu pobl i ddilyn y llwybrau sero net a natur gadarnhaol gyda ni. Rydyn ni allan i ymgynghoriad ar hyn o bryd. Byddwn yn gwneud llawer o waith—. Mae fy nghyd-Weinidog yn y fan hon, Jeremy Miles, wedi bod yn gwneud llawer o waith mewn ysgolion gyda'r prosiect Eco-Ysgolion ac yn y blaen, oherwydd mae ein pobl ifanc ni'n genhadon gwirioneddol ar gyfer hyn. Ond rwy'n cytuno â chi. Mae angen i ni ddwyn y cyhoedd gyda ni. Mae angen i ni wrthsefyll peth o'r wybodaeth gamarweiniol sy'n bod, ac mae angen i ni weithio ar gyflymder gyda phob sector yn y gymdeithas neu ni fyddwn ni—. Mae hwn yn argyfwng dirfodol. Ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae'n rhaid i ni wneud hyn gyda phawb arall.