Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 14 Mawrth 2023.
Nawr, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y newidiadau i gytundebau a’r bwriad o ehangu mynediad at wasanaethau NHS. Mae’n dweud bod 140,000 o gleifion newydd wedi cael eu gweld. Ar y wyneb, wrth gwrs, mae hynny’n swnio’n dda, ond mae’n gwbl blaen nad yw hyn yn gynaliadwy. Roeddwn i’n siarad ddoe efo deintydd sy’n gwbl ymrwymedig i’r NHS, a oedd wedi llwyddo i daro’r targed a chofrestru cannoedd o gleifion newydd. Ond roedd y broses wedi bod mor hunllefus—wedi rhoi cymaint o straen ar staff—ei bod hi dal ddim yn cynnig cymhelliad iddyn nhw weithio mewn ffordd ataliol, fel y buasent yn ei licio. Maen nhw wedi penderfynu rhoi un rhan o dair o’u cytundeb NHS yn ôl ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan waethygu’r broblem.
Mae’r Gweinidog yn ddiweddarach yn dweud mai bach iawn, iawn yw’r cytundebau sy’n cael eu rhoi yn ôl i’r byrddau iechyd. Wel, dyna un nad ydy’r Gweinidog yn gwybod amdano eto. Mae fy etholaeth i wedi colli un o bob tri deintydd NHS mewn blwyddyn. Mae’r Gweinidog yn awgrymu, pan fo hynny’n digwydd, nad oes problem cael darparwyr newydd. Mi allaf i ddweud wrth y Gweinidog fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, ac mi wnaf i eu dyfynnu nhw—dydyn nhw ddim yn hyderus y byddwn nhw’n gallu dod o hyd i ddarparwr newydd.
Mi wnaf i ddefnyddio fy holl amser yn fan hyn. Mae gen i lawer y gallwn i fod yn ei ddweud. Mae’r Gweinidog yn ailadrodd yn gyson mai’r ateb ydy gweld pobl yn llai aml—awgrymu mai’r broblem sydd gennym ni yw bod pobl y gwrthwynebu hynny. Dydw i ddim yn gweld gwrthwynebiad i hynny. Rydw i’n gweld pobl sy’n hapus iawn i ddilyn y canllawiau a gweld cleifion yn llai aml. Y broblem sydd gennym ni yw diffyg cynaliadwyedd. Does prin sôn yma am hyfforddi mwy o ddeintyddion. Mae angen hynny er mwyn cynaliadwyedd. Mae angen cael mwy o ddeintyddion preifat i ddod yn ôl i’r NHS.