6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:58, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n mynd i gyfeirio yn fy eiliadau olaf un, Dirprwy Lywydd, at y datganiad olaf gan y Gweinidog.

'I gloi, i roi sicrwydd i Aelodau mai deintyddiaeth yw un o fy mhrif flaenoriaethau, dwi eisiau datblygu gwasanaeth deintyddol y GIG yng Nghymru sy'n deg i ddeintyddion'— mae'n amlwg nad yw hynny'n wir; maen nhw'n gadael yn eu heidiau—

'sy'n cyflawni ar gyfer risg ac anghenion y boblogaeth'— yn amlwg, nid yw'n gwneud hynny—

'sy'n seiliedig ar egwyddorion atal'— mae deintyddion yn ymbil yn daer i allu gweithio mewn ffordd ataliol—

'a fydd yn galluogi pawb i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd y geg eu hunain.'

Wel, rwy'n cytuno â'r Gweinidog ar hynny, achos dyna'r cyfan y gall pobl ei wneud ar hyn o bryd.