9. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2022-23

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:37, 14 Mawrth 2023

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r gyllideb atodol, a diolch hefyd i'r Pwyllgor Cyllid am y gwaith craffu maen nhw wedi ei wneud, sydd yn werthfawr, wrth gwrs, fel arfer. Cyllideb atodol y Llywodraeth yw hon, wrth gwrs, felly, dyw hi ddim, o reidrwydd, yn adlewyrchu'r blaenoriaethau y byddem ni am eu hyrwyddo ym mhob achos, ond dwi yn meddwl bod yna negeseuon ehangach, clir, yn cael eu hamlygu gan yr hyn rŷn ni'n ei weld yn y gyllideb atodol.

Yn y lle cyntaf, wrth gwrs, mae'n ein hatgoffa ni, onid yw, o'r diffyg hyblygrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru pan fo'n dod i allu ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu ni—y cyfyngiadau, fel roeddem ni'n clywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ar lefel y draw-down mae'r Llywodraeth yn cael ei wneud o'r Welsh reserve, y cyfyngiadau hefyd ar lefel y benthyca mae Llywodraeth Cymru yn medru ei wneud, a dim un o'r ddau yna, wrth gwrs, wedi cynyddu nac wedi newid i ymateb i'r chwyddiant rŷn ni wedi ei weld. Felly, nid yn unig bod yna ddiffyg hyblygrwydd, ond mae'r hyblygrwydd yna yn crebachu o flwyddyn i flwyddyn o dan y sefyllfa bresennol. 

Mae yna ddiffyg arall wedi cael ei amlygu, ac, wrth gwrs, mae'n cael ei amlygu yn feunyddiol erbyn hyn, sef diffyg cyfiawnder cyllideb. Hynny yw, rŷn ni'n sôn am, er enghraifft, ddiffyg cyllido canlyniadol yn sgil HS2. Roedd hi'n dda clywed y rhestr o ofynion oedd gan lefarydd y Ceidwadwyr. Wel, mi fyddai'r arian yna yn gallu talu am hynny i gyd a mwy, oni fyddai? Ond mae'n rhaid i fi ddweud, dwi ddim yn cael fy nghalonogi gan ymateb y Blaid Lafur i hyn hefyd, wrth gwrs, a methiant arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig i ymrwymo i gywiro'r cam yma, sydd, wrth gwrs, i'r gwrthwyneb â pholisi Llywodraeth Cymru. Felly, dwi'n siwr bydd y Gweinidog yn hapus iawn i fynegi ei siom hi hefyd na chafwyd yr addewid hwnnw gan arweinydd ei phlaid Brydeining. 

Yn amlwg, mae datganiad y gwanwyn yn digwydd wythnos yma yn San Steffan. Rŷn ni, fel plaid, wedi ei gwneud hi'n glir bod blaenoriaethu tâl y sector cyhoeddus yn rhywbeth sydd yn bwysig i ni, ac fe fyddwn i'n hyderus os oes yna arian ychwanegol, y byddai fe'n cael ei ddefnyddio yn bennaf i'r perwyl hwnnw. Dwi eisiau atseinio'r neges a glywon ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd ynglŷn â'r argymhelliad sydd yn yr adroddiad, argymhelliad 5 dwi'n meddwl yw e, ynglŷn â darparu mwy o sicrwydd a mwy o gysondeb ariannu i awdurdodau lleol i gefnogi'r rheini sydd yn dianc o'r drychineb yn Wcráin. Waeth pa newid sy'n digwydd i lefel ariannu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae angen y sicrwydd yna ar ein hawdurdodau lleol.

Fel cyn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, dwi yn y gorffennol wedi cwyno pan oedd rhai o'r cyrff sy'n cael eu noddi yn dod aton ni yn gofyn am ragor o bres, felly dwi'n meddwl, er tegwch, mae yn werth nodi bod yna bres wedi cael ei ddychwelyd yn y gyllideb atodol yma gan yr ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus a gan Gomisiwn y Senedd hefyd. Fel y pwyllgor, dwi'n disgwyl y bydd yr adleoli swyddfa gan Archwilio Cymru, sydd yn dod â chost, wrth gwrs, yn ei sgil e, yn dod ag arbedion dros amser. Felly, er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod hynny hefyd. Diolch.