9. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2022-23

– Senedd Cymru am 5:27 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 5:27, 14 Mawrth 2023

Felly, eitem 9 sydd nesaf: dadl ar ail gyllideb atodol 2022-23. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM8206 Lesley Griffiths

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 14 Chwefror 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:27, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'n cynyddu adnoddau refeniw a chyfalaf cyllid cyffredinol Cymru o £163 miliwn, cynnydd o 0.7 y cant ar y sefyllfa a amlinellwyd yn y gyllideb atodol gyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022.

Ar y cyfan, mae'r cynnydd bach hwn oherwydd trosglwyddiadau o adrannau eraill y Llywodraeth at ddibenion penodol, sy'n cynnwys y tariffau y cytunwyd arnynt i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin. Rydym ni hefyd wedi defnyddio'r cyfanswm mwyaf posibl o gronfa wrth gefn Cymru. Drwy ddefnyddio ein holl gronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu yn y gyllideb hon, mae ein cynlluniau gwariant cyllidol ar gyfer refeniw a chyfalaf wedi cynyddu wrth gyfanswm o £412 miliwn—cynnydd o 2 y cant.

Rydym ni wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd o ystyried blaenoriaethau cystadleuol sydd gennym ni. Yn y gyllideb hon, rydym wedi gwneud dyraniadau i'r prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a'r prif grŵp gwariant addysg a'r Gymraeg, sef £120 miliwn a £32 miliwn yn y drefn honno, i gefnogi setliadau cyflog ar gyfer staff ac athrawon GIG Cymru.

Mae ein GIG yn wynebu mwy o alwadau nag erioed a chynnydd mewn costau gan barhau i wella o'r pandemig. I gydnabod hyn, rydym yn dyrannu pecyn o £170 miliwn; mae £21 miliwn yn cael ei ail-bwrpasu o bortffolios eraill er mwyn cefnogi gwasanaethau rheng flaen allweddol a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed.

I gefnogi ein hymateb dyngarol parhaus i'r rhyfel yn Wcráin, rydym ni wedi dyrannu £92 miliwn yn ychwanegol at y £20 miliwn a ddarperir yn y gyllideb atodol gyntaf. Cafwyd 74 miliwn o bunnau o hyn gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r costau hyn.

Diolch i'r pwyllgor am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad, a byddaf yn darparu ymateb manwl i'w argymhellion maes o law. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:29, 14 Mawrth 2023

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid.

Cynhaliodd y pwyllgor ei waith craffu ar yr ail gyllideb atodol ar 1 Mawrth, a diolch i'r Gweinidog am fod yno yn bresennol. Gosodwyd adroddiad y pwyllgor gerbron y Senedd ddoe, ac mae'r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad ac yn nodi tri casgliad. Ar y cyfan, mae'r pwyllgor yn croesawu'r meysydd a flaenoriaethwyd gan y Llywodraeth yn y gyllideb atodol hon, a'r dull a gymer y Gweinidog i reoli’r adnoddau sydd ar gael wrth inni nesáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Rydym wedi nodi rhai meysydd, fodd bynnag, ble y gellir gwneud gwelliannau, ac rwy'n nodi'r rhain yn awr.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:30, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy gydnabod yr ansicrwydd cyllidebol a achosir gan yr anghydfodau parhaus sy'n ymwneud â thâl yn y sector cyhoeddus. Rydym ni i gyd yn gobeithio am ddatrysiad cyflym i'r trafodaethau hynny ac, yn anad dim arall, yn difaru'r effaith mae'n ei gael ar y staff eu hunain. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa hon yn rhoi pwysau sylweddol ar bartneriaid cyflenwi ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Yn bryderus, mae ganddo'r potensial i osod beichiau diangen ar y sectorau hynny, wrth iddynt geisio deall eu sefyllfa ariannol o un flwyddyn i'r llall. Felly, rydym yn galw ar y Gweinidog i roi rheolaethau ar waith fel bod gan bartneriaid cyflenwi gymaint o eglurder â phosibl am eu sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, o ystyried effaith dyfarniadau cyflog allweddol sy'n parhau i fod yn anhysbys. Oherwydd y sefyllfa hon, mae'r pwyllgor yn cydnabod yn llawn y gallai fod angen newidiadau munud olaf i ddyraniadau cyllideb eleni. Er na ellir osgoi'r rhain, credwn y dylai'r Gweinidog fod yn glir ynghylch sut mae costau o'r fath yn cael eu cynnwys o fewn cyllidebau presennol. O ganlyniad, rydym wedi argymell bod y Gweinidog yn rhoi manylion ychwanegol am unrhyw ddyraniadau munud olaf sylweddol a wnaed rhwng nawr a diwedd y flwyddyn ariannol.

O ran cefnogi'r GIG, felly. Gan droi at effaith chwyddiant ar ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol, er ein bod yn croesawu'r camau a gymerwyd drwy'r gyllideb atodol i fynd i'r afael â phwysau yn y GIG, rydym yn pryderu am y rhagolygon diffygion ar gyfer pob un heblaw un o'r byrddau iechyd lleol. Er bod y pwyllgor yn sicr na fydd angen i Lywodraeth Cymru groesi dyled byrddau iechyd sy'n mynd y tu hwnt i'w cyllidebau a ddyrannwyd eleni, rydym yn credu y gellir cymryd camau pellach i sicrhau nad oes gorwario yn y lle cyntaf. Rydym yn argymell felly bod y Gweinidog yn parhau i fonitro'r sefyllfa hon yn fanwl ac yn sicrhau nad yw pob bwrdd iechyd yn gwario mwy na'i gyllid dynodedig dros y cyfnodau treigl tair blynedd, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. Ar ben hynny, lle mae byrddau iechyd yn gorwario mewn un flwyddyn, dylid ariannu'r rhain o'r gyllideb adrannol iechyd a gwasanaethau cymdeithasol presennol.

Dirprwy Lywydd, rydym i gyd yn ymwybodol o'r effaith ddyngarol y mae'r rhyfel yn Wcráin yn ei chael, ac rydym yn ddiolchgar i'n hawdurdodau lleol am ddarparu cefnogaeth hanfodol a noddfa y mae mawr ei hangen ar gyfer y rhai sydd ei angen. Fodd bynnag, nid yw'n glir a yw gwasanaethau lleol yn ddigon cadarn i ymdopi â'r pwysau a roddir arnynt. O ganlyniad, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru'n darparu lefelau priodol o gefnogaeth i awdurdodau lleol, a bod y cymorth yn cael ei ddarparu'n gyson ar draws Cymru. Rydym ni hefyd yn ymwybodol bod yr adnoddau i gefnogi ffoaduriaid Wcreinaidd yn ddibynnol iawn ar gyllid a ddarperir yn ganolog gan y Trysorlys. Felly, rydym yn gwbl gefnogol o ymdrechion y Gweinidog i sicrhau parhad y lefelau cyllido presennol gan Lywodraeth y DU.

Mae'r pwyllgor hefyd yn croesawu'r wybodaeth a ddarperir yn adroddiad alldro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 ar falans cronfa wrth gefn Cymru. Rydym ni wedi galw ers tro am ddarparu'r ffigyrau hyn ac rydym yn falch o weld fod yr adroddiad ar gael yn gyhoeddus. Fodd bynnag, credwn y gall y Gweinidog fynd ymhellach drwy ddarparu'r ffigyrau sydd yng nghronfeydd wrth gefn Cymru yn rheolaidd, fel y byddai'n cael ei gynnwys yn nogfennau y gyllideb yn y dyfodol. Byddai hyn yn mynd rhywfaint o'r ffordd i gynorthwyo tryloywder ym maes y gyllideb sy'n aml yn aneglur ac yn anodd ei fonitro.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 5:33, 14 Mawrth 2023

Yn olaf, roedd y pwyllgor yn falch o glywed am y cyfarfodydd cadarnhaol a gynhaliwyd rhwng y Gweinidog a Phrif Ysgrifennydd diweddaraf y Deyrnas Unedig i'r Trysorlys. Mae datganoli cyllidol yn gweithio'n fwyaf effeithiol pan fo cysylltiadau rhynglywodraethol cytûn yn bodoli, a gobeithiwn y bydd natur a naws y cyfarfodydd cychwynnol hyn yn parhau. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mae’r pwyllgor hwn yn cefnogi'r Gweinidog dro ar ôl tro yn ei hymdrechion gyda'r Trysorlys i gynyddu maint cronfa wrth gefn Cymru a'r terfynau benthyca, fel eu bod o leiaf yn unol â chwyddiant. Rydym yn cytuno yn bendant â’r Gweinidog fod y rheolau presennol yn eu hanfod yn annheg. Mae’n ymddangos i ni fod gan awdurdodau lleol fwy o ddisgresiwn na Llywodraeth Cymru i gario cyllid drosodd o un flwyddyn i’r llall. Nid yw hyn yn iawn, does bosib. Felly, mae'r pwyllgor yn ailadrodd ei alwadau ar i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynyddu terfynau cyffredinol a therfynau blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer benthyca a chronfeydd wrth gefn, ac i'r terfynau hyn gael eu hadolygu’n rheolaidd. Diolch yn fawr.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 5:34, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog. Hoffwn ddechrau drwy dynnu sylw at ambell bwynt ar iechyd, ac fe wna i grybwyll ambell faes arall hefyd. Yn gyntaf, hoffwn fynd i'r afael â'r £120 miliwn sydd wedi'i ddyrannu i wasanaethau iechyd a chymdeithasol er mwyn cefnogi setliad cyflog i staff y GIG. Er fy mod i a'm cyd-Aelodau Ceidwadol yn croesawu'r cynnydd mewn cyllid i'r setliad, mae'n rhwystredig y bu gan Lywodraeth Cymru yr arian ar gyfer y setliad hwn erioed. Yr hyn sy'n fwy rhwystredig yw bod y GIG yng Nghymru wedi gwario tua £260 miliwn ar staff asiantaeth a staff cronfa yn 2021-22. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein galwadau i sefydlu cynllun gweithlu flynyddoedd yn ôl, byddai cyllid ychwanegol i gefnogi staff y GIG sydd wedi eu gorweithio.

O dan yr ail gyllideb atodol, mae'r cyllid sy'n cael ei neilltuo ar gyfer polisïau a deddfwriaeth iechyd meddwl yn £71.3 miliwn, gostyngiad o £9.4 miliwn o'i gymharu â'r gyllideb atodol gyntaf. Rydym ni wedi clywed yn gyson gan Weinidogion bod y gyllideb atodol yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth, ac felly mae'n ddigalon gweld gostyngiad cyllid i faes sy'n cwmpasu datblygu a chyflawni polisi iechyd meddwl, gan gynnwys CAMHS, hunanladdiad ac atal hunan-niweidio, cyllid ar gyfer sefydliadau trydydd sector ac anghenion gofal iechyd grwpiau bregus, gan gynnwys cefnogaeth i gyn-filwyr, canolfannau cyfeirio ymosodiadau rhywiol a cheiswyr lloches a ffoaduriaid. Daw'r toriad mewn cyllid wrth i arolwg Amser i Newid Cymru ganfod bod gan dros hanner yr ymatebwyr naill ai brofiad o broblem iechyd meddwl neu'n adnabod rhywun oedd â phroblem o'r fath yn y 12 mis hyd at yr arolwg.

Wrth droi at addysg, ar adeg pan fu Gweinidogion Llywodraeth Lafur yn dweud wrthym fod codi safonau ysgolion yn amcan sylfaenol o ddiwygio addysg, mae'n ddryslyd bod cefnogaeth i safonau ysgolion wedi'i thorri o dros £0.5 miliwn. Mae anghenion dysgu ychwanegol hefyd wedi gweld toriad mewn cyllid, er i Gymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru ddweud nad oedd 92 y cant o arweinwyr ysgolion yn dweud nad oedd y cyllid ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddigonol. Er fy mod yn croesawu cynigion i roi codiad cyflog i athrawon, mae'n hanfodol nad yw Gweinidogion Llafur yn colli golwg ar y ffaith bod y streiciau hyn yn digwydd o ganlyniad uniongyrchol i ddiffyg staff ac athrawon yn gorweithio. Mae'n hanfodol bod mwy yn cael ei wneud i ddatrys y pwysau llwyth gwaith y mae llawer o athrawon yn ei wynebu a chynyddu nifer yr athrawon yn ysgolion Cymru.

O safbwynt amgylcheddol, unwaith eto, mae'n bryderus bod cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gostwng bron i £0.5 miliwn, gan anwybyddu rhybuddion bod y sefydliad yn cael ei danariannu a'i orweithio, er ei fod yn faes yr ydym yn disgwyl iddynt gyflawni cymaint i ni arno.

Yn y dyfodol, Gweinidog, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth Lafur yn canolbwyntio ar ariannu blaenoriaethau pobl Cymru, yn hytrach na chadw at rethreg wag. Dim ond drwy gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru y gallwn obeithio gwyrdroi record Cymru o amseroedd aros hir y GIG, canlyniadau addysgol gwael a'r argyfwng tai trychinebus. Diolch.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:37, 14 Mawrth 2023

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r gyllideb atodol, a diolch hefyd i'r Pwyllgor Cyllid am y gwaith craffu maen nhw wedi ei wneud, sydd yn werthfawr, wrth gwrs, fel arfer. Cyllideb atodol y Llywodraeth yw hon, wrth gwrs, felly, dyw hi ddim, o reidrwydd, yn adlewyrchu'r blaenoriaethau y byddem ni am eu hyrwyddo ym mhob achos, ond dwi yn meddwl bod yna negeseuon ehangach, clir, yn cael eu hamlygu gan yr hyn rŷn ni'n ei weld yn y gyllideb atodol.

Yn y lle cyntaf, wrth gwrs, mae'n ein hatgoffa ni, onid yw, o'r diffyg hyblygrwydd sydd gan Lywodraeth Cymru pan fo'n dod i allu ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu ni—y cyfyngiadau, fel roeddem ni'n clywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ar lefel y draw-down mae'r Llywodraeth yn cael ei wneud o'r Welsh reserve, y cyfyngiadau hefyd ar lefel y benthyca mae Llywodraeth Cymru yn medru ei wneud, a dim un o'r ddau yna, wrth gwrs, wedi cynyddu nac wedi newid i ymateb i'r chwyddiant rŷn ni wedi ei weld. Felly, nid yn unig bod yna ddiffyg hyblygrwydd, ond mae'r hyblygrwydd yna yn crebachu o flwyddyn i flwyddyn o dan y sefyllfa bresennol. 

Mae yna ddiffyg arall wedi cael ei amlygu, ac, wrth gwrs, mae'n cael ei amlygu yn feunyddiol erbyn hyn, sef diffyg cyfiawnder cyllideb. Hynny yw, rŷn ni'n sôn am, er enghraifft, ddiffyg cyllido canlyniadol yn sgil HS2. Roedd hi'n dda clywed y rhestr o ofynion oedd gan lefarydd y Ceidwadwyr. Wel, mi fyddai'r arian yna yn gallu talu am hynny i gyd a mwy, oni fyddai? Ond mae'n rhaid i fi ddweud, dwi ddim yn cael fy nghalonogi gan ymateb y Blaid Lafur i hyn hefyd, wrth gwrs, a methiant arweinydd y Blaid Lafur Brydeinig i ymrwymo i gywiro'r cam yma, sydd, wrth gwrs, i'r gwrthwyneb â pholisi Llywodraeth Cymru. Felly, dwi'n siwr bydd y Gweinidog yn hapus iawn i fynegi ei siom hi hefyd na chafwyd yr addewid hwnnw gan arweinydd ei phlaid Brydeining. 

Yn amlwg, mae datganiad y gwanwyn yn digwydd wythnos yma yn San Steffan. Rŷn ni, fel plaid, wedi ei gwneud hi'n glir bod blaenoriaethu tâl y sector cyhoeddus yn rhywbeth sydd yn bwysig i ni, ac fe fyddwn i'n hyderus os oes yna arian ychwanegol, y byddai fe'n cael ei ddefnyddio yn bennaf i'r perwyl hwnnw. Dwi eisiau atseinio'r neges a glywon ni gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid hefyd ynglŷn â'r argymhelliad sydd yn yr adroddiad, argymhelliad 5 dwi'n meddwl yw e, ynglŷn â darparu mwy o sicrwydd a mwy o gysondeb ariannu i awdurdodau lleol i gefnogi'r rheini sydd yn dianc o'r drychineb yn Wcráin. Waeth pa newid sy'n digwydd i lefel ariannu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae angen y sicrwydd yna ar ein hawdurdodau lleol.

Fel cyn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, dwi yn y gorffennol wedi cwyno pan oedd rhai o'r cyrff sy'n cael eu noddi yn dod aton ni yn gofyn am ragor o bres, felly dwi'n meddwl, er tegwch, mae yn werth nodi bod yna bres wedi cael ei ddychwelyd yn y gyllideb atodol yma gan yr ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus a gan Gomisiwn y Senedd hefyd. Fel y pwyllgor, dwi'n disgwyl y bydd yr adleoli swyddfa gan Archwilio Cymru, sydd yn dod â chost, wrth gwrs, yn ei sgil e, yn dod ag arbedion dros amser. Felly, er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad, dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod hynny hefyd. Diolch.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:41, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'r ail gyllideb atodol yn symudiad cymharol fân o arian, ac yn cwblhau'r system gyllidebol ar gyfer y flwyddyn. Hoffwn wneud tri phwynt byr iawn.

Rwy'n croesawu'r meysydd a flaenoriaethwyd gan Lywodraeth Cymru yn y gyllideb atodol hon a'r ffordd y mae'r Gweinidog wedi mynd ati o ran rheoli'r adnoddau sydd ar gael wrth inni agosáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Hoffwn gytuno â'r Pwyllgor Cyllid, lle mae arian yn cael ei ddyrannu yng Nghymru, y dylid gallu ei symud i gronfeydd wrth gefn neu o gronfeydd wrth gefn i wariant heb unrhyw ymyrraeth o Drysorlys San Steffan. Y llynedd, collwyd dros £150 miliwn i Gymru oherwydd nad oedd y Llywodraeth wedi'i wario ac ni chaniatawyd ychwanegu'r arian i'r cronfeydd wrth gefn. Mae angen i ni gefnu ar Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin fel adran yn San Steffan gan y Trysorlys. Dyna'r broblem sydd gennym ni, a chredaf ei bod hi'n un, wrth i ni siarad am ddatganoli, bod wir angen i ni ddatrys. Llywodraeth a Senedd ydyn ni, nid dim ond adran arall o fewn San Steffan. A gaf i unwaith eto annog Llywodraeth Cymru i ddod â dadl i'r Senedd o blaid rheolaeth lawn dros gronfeydd wrth gefn? Mae pob plaid wleidyddol wedi cefnogi hynny yn y Pwyllgor Cyllid, ac fe fyddai'n gwneud bywyd yn llawer haws ac yn gwneud y ddadl yn llawer cryfach i Lywodraeth Cymru pe gallen nhw fynd i ddweud wrth San Steffan, 'Dyma ewyllys y Senedd gyfan.' Cafodd y pwyllgor sicrwydd gan y Gweinidog na fyddai unrhyw arian yn cael ei ddychwelyd eleni.

Yn ail, mae'n bwysig bod gorwario gan fyrddau iechyd yn dod o'r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond os na ellir gwneud hynny, yna mae'r cyfrifoldeb ar y gronfa wrth gefn, oherwydd bod cyllideb pob bwrdd iechyd yn rhan o gyfrif cyfunol Llywodraeth Cymru. Credaf, weithiau, ein bod ni'n siarad am fyrddau iechyd fel petaen nhw'n rhywbeth ar wahân. Pe byddem ni'n fusnes, byddent yn is-gwmnïau dan berchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru, ac o'r herwydd, Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am eu sefyllfa ariannol, ac mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau bod ganddyn nhw, ar y cyfan, ddigon o arian i dalu eu biliau.

Yn olaf, mae'n bwysig iawn bod Llywodraeth Cymru yn manteisio i'r eithaf ar fuddion arian a wariwyd, nid dim ond ei wario.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:43, 14 Mawrth 2023

Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n ddiolchgar i gyd-Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Wrth gwrs, mae'r ail gyllideb atodol yn rhan bwysig o'n proses gyllidebol. Bydd ei chymeradwyo yn awdurdodi cynlluniau gwariant diwygiedig Llywodraeth Cymru a'r cyrff hynny a ariennir yn uniongyrchol o gronfa gyfunol Cymru, ac, wrth gwrs, mae'n gosod y terfynau y cymharir ein safle alldro terfynol yn eu herbyn.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Cyllid ac i gyd-Aelodau am eu cefnogaeth barhaus i ymdrechion Llywodraeth Cymru i fagu mwy o hyblygrwydd cyllidol, ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau gyda Llywodraeth y DU ar hyn o bryd. Fe gawson ni gam bach ymlaen, rwy'n credu, o ran diwedd y flwyddyn ariannol yma, ond yn sicr dydyn ni ddim yn agos at ble mae angen i ni fod.

Er mwyn mynd i'r afael â phwynt penodol Mike Hedges am fater 2020-21, dim ond i gadarnhau eto i gyd-Aelodau—rwy'n gwybod fy mod wedi dosbarthu llythyr at gyd-Aelodau ar y pwynt hwn o'r blaen—inni, fel Llywodraeth ddatganoledig, weithredu o fewn rheolaethau cyllidebol DEL a osodwyd gan Drysorlys Ei Fawrhydi, a dylem fod wedi cael lefel resymol o hyblygrwydd mewn perthynas â'r refeniw unigol a'r rheolaethau cyfalaf. Cafwyd trafodaethau niferus gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, yn gofyn iddynt ganiatáu'r hyblygrwydd ychwanegol hwnnw, gan gofio, wrth gwrs, fod 2020-21 yn flwyddyn eithriadol o ran bod yna bandemig a'r cynnydd eithaf sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i hynny.

Mae'n werth hefyd, rwy'n credu, rhoi ar y cofnod unwaith eto bod cyfanswm y tanwariant yn 2020-21 gan holl adrannau Llywodraeth y DU yn £25 biliwn, ac mae hynny'n cynrychioli bron i 6 y cant o gyfanswm y ddarpariaeth a wnaed ar gael i'r adrannau hynny yn y flwyddyn honno. Dychwelwyd yr holl danwariant gan adrannau'r DU i Drysorlys Ei Fawrhydi, ac roedd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig danwariant o dros 9 y cant, gan ddychwelyd £18.6 biliwn i'r Trysorlys. Byddai ein cyfran Barnett o hynny wedi bod tua £1 biliwn i Gymru, felly mewn cyferbyniad, nid yw ein tanwariant yn ddim ond 1 y cant o'r adnoddau sydd ar gael, ac fel y dywedais i, roedd ymhell o fewn ein terfyn gwariant adrannol cyffredinol beth bynnag. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd bod hynny ond yn dangos pwysigrwydd y trafodaethau hynny sy'n digwydd ynghylch hyblygrwydd cyllidol, a phwysigrwydd y Senedd hon yn siarad ag un llais yn hynny o beth.

Rwy'n deall y pwyntiau a wnaed gan gyd-Aelodau am bwysigrwydd sicrwydd i bartneriaid. Mae hynny wastad yn rhywbeth rydym ni'n bwriadu gwneud ein gorau glas yn ei gylch, felly rydym ni wedi gwneud hynny drwy ein proses adolygu gwariant tair blynedd, sydd, yn fy marn i, wedi rhoi'r graddau hynny o sicrwydd am flynyddoedd y dyfodol.

Un o argymhellion y Pwyllgor Cyllid y bydd yn rhaid i mi roi mwy o ystyriaeth iddo yw'r un am roi diweddariadau amlach ar lefelau'r cyllid o fewn cronfeydd wrth gefn, oherwydd, wrth gwrs, mae hynny'n newid drwy'r amser, bron yn ôl natur hynny, o ran tanwario sy'n dod i'r amlwg ar draws adrannau, ac erbyn i'r wybodaeth gael ei chyhoeddi, byddai'n hen. Felly, credaf y bydd yn rhaid i ni roi rhywfaint o feddwl pellach i hynny. Ond dim ond i sicrhau cyd-Aelodau fod rheolaeth dynn iawn ar hyn. Mae gen i gyfarfodydd gyda'r cyfarwyddwr cyllid a gyda swyddogion yn fisol, ac rydyn ni'n cael adroddiadau o bob adran o'r Llywodraeth. Felly, rydym yn gallu cadw golwg fanwl iawn ar y ffigyrau hynny, ond dydw i ddim yn siŵr pa mor ddefnyddiol fyddai ei gyhoeddi, gan gofio mai gwybodaeth ydyw sydd angen ei gweld yn gyson iawn.

O ran y sylw ynghylch y cyllid ychwanegol i iechyd, wrth gwrs, mae hyn mewn perthynas â'r costau ynni eithriadol sy'n cynyddu yn 2022-23, a'r mesurau COVID-19 sy'n parhau yn y flwyddyn ariannol hon o ran y prif grŵp gwariant iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae hynny'n gyfraniad pwysig rydym ni'n ei wneud i dalu'r costau hynny. Felly, fydda i'n sicr ddim yn cymryd unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr ar sut yr awn ni ati i gefnogi ein staff diwyd yn y GIG. Byddwch chi'n gweld yr ymdrechion eithaf eithafol yr ydym ni wedi eu gwneud i geisio canfod cyllid i ddod i drefniant gyda'n gweithwyr iechyd i sicrhau eu bod yn cael eu talu'n briodol. Ac mae'r trafodaethau hynny, rwy'n gwybod, yn diffygio dros y ffin, ac wrth gwrs, fe welwch chi o'r hyn rydym ni'n pleidleisio arno heddiw ein bod ni wedi defnyddio'r holl gyllid a allom ni yn y flwyddyn ariannol hon i dalu costau hynny. A chredaf fod hynny'n gam mawr a phwysig iawn, ond mae'n dangos pa mor bell rydym ni'n fodlon mynd i gefnogi ein GIG a'n gweithwyr addysg ni yma yng Nghymru.

O ran Wcráin, rwy'n credu, unwaith eto, y crybwyllwyd pwyntiau pwysig o ran ceisio sicrhau bod Llywodraeth y DU yn darparu'r cyllid sydd ei angen i gefnogi pobl sy'n dod o Wcráin. Dydyn nhw ddim wedi rhoi unrhyw arwydd y bydd yna gyllid i bobl yn eu hail a'u trydedd flwyddyn, o ran y gefnogaeth a gynigir iddyn nhw. Mae yna lawer o agweddau gyda'r gefnogaeth sydd eisoes yn cael ei gynnig, sydd yn syml ddim yn ddigonol—er enghraifft, trin y cynllun teuluol yn wahanol i gynllun Cartrefi i Wcráin o ran cefnogaeth Llywodraeth y DU yn hynny o beth hefyd.

Felly, mae Llywodraeth Cymru, fel y gwelwch chi o'r gyllideb rydym ni'n pleidleisio arni heddiw, yn rhoi cymorth llawer iawn mwy na'r cyllid rydyn ni wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU, oherwydd roedden ni'n gwybod mai dyma'r peth iawn i'w wneud i ddarparu'r gefnogaeth gynhwysfawr gychwynnol honno, a oedd yn fwy hael na'r hyn oedd ar gael dros y ffin. Ond mae wedi bod yn bwysig iawn o ran sicrhau bod pobl o Wcráin yn gallu osgoi peryglon digartrefedd, ac eto, bu hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, sydd wedi cael ei wrthgyferbynnu'n llwyr gyda'r profiad dros y ffin hefyd.

Felly, dim ond i ddod i gloi, rydym ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd eleni i sicrhau bod yr arian sydd ar gael i ni yn cael ei gyfeirio at ble mae ei hangen fwyaf, ac rydym ni, wrth gwrs, wedi ymrwymo i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, i ddarparu adnoddau ar gyfer yr ymateb dyngarol i'r rhyfel yn Wcráin a chyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:49, 14 Mawrth 2023

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.