Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon heddiw. Yn amlwg, mae hi'n cyd-fynd efo'n dadl neu drafodaeth flaenorol ni o ran gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg. Hoffwn innau ategu fy niolch i i Owen Evans, a dwi'n meddwl bod yr adroddiad yn sicr yn gynhwysol. Dwi'n croesawu hefyd y fformat newydd, fel y soniwyd gan y Gweinidog, a dwi'n meddwl bod adroddiadau thematig, yn benodol, yn rhoi darlun clir inni o ran rhai o’r heriau anferthol y mae ein hysgolion yn eu hwynebu.