Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma heddiw. Mae'n ddatganiad pwysig yr ydym ni ar y meinciau yma yn croesawu, a fydd yn golygu ein bod yn gweld cam sylweddol yn cael ei gymryd ymlaen er mwyn mynd i'r afael â'r broblem ddifrifol yma. Mae'n dda gweld ffrwyth llafur y cytundeb yma rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ar waith, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl bob dydd.
Am yn llawer rhy hir rydym wedi gweld diwylliant o dorri corneli gan ddatblygwyr mawr, a hynny ar draul diogelwch y cyhoedd. Daeth hyn i'r amlwg yn y dystiolaeth ddiweddar bu'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ei gymryd, sydd yn edrych i mewn i ddiogelwch adeiladau, gyda thrigolion adeiladau yma yng Nghaerdydd ac yn Abertawe yn dangos yn glir fethiannau elfennol yn rhai o’r adeiladau yno, megis adeiladau Celestia ac Altamar. Ond ar ben y gwaith adeiladu diog a gwael yma, mae cysgod Grenfell wedi tywyllu bywydau pob un o’r trigolion yma ymhellach. Mae angen dangos na all cwmnïau mawr gael rhwydd hynt i weithredu fel a fynnon nhw er mwyn elw personol, ac mae’n rhaid newid diwylliant er mwyn diogelu pobl heddiw ac yfory.
Rydym yn gwybod fod yna 171 adeilad efo problemau diogelwch, yn cynnwys 28 adeilad amddifad yr ydych wedi cyhoeddi heddiw y byddwch yn edrych i’w cael wedi eu hatgyweirio. Tybed a all y Gweinidog felly roi syniad i ni o ganran yr adeiladau sydd y tu allan i sgôp y datganiad heddiw a chadarnhau pa waith sydd yn mynd yn ei flaen a’r camau nesaf ar gyfer preswylwyr yr adeiladau hynny, os gwelwch yn dda. Tra bod y datganiad yma i’w groesawu'n gynnes, y gwir ydy, tan i’r gwaith atgyweirio gael ei wneud er mwyn gwneud yr adeiladau yma yn ddiogel, bydd y preswylwyr yn parhau i fyw mewn gofid, ac mae'r cyhoeddiad am fenthyciad felly i'w groesawu. Hoffwn ofyn i’r Gweinidog, felly, pryd medrwn ni ddisgwyl cyrraedd pwynt ble y bydd pob adeilad yn ddiogel i’r preswylwyr heb iddyn nhw neu berchnogion orfod talu am y gwaith. Beth ydy'r amserlen?
Fel y soniais ynghynt, mae’r sefyllfa bresennol wedi galluogi datblygwyr i dorri corneli, gan arwain at oblygiadau difrifol i iechyd a diogelwch pobl. Mae’n gywilyddus fod rhai datblygwyr yn parhau i wrthod cymryd rhan yn wirfoddol gyda’r Llywodraeth ar y gwaith pwysig yma. Rhag eu cywilydd nhw. Dwi'n cefnogi’r Gweinidog wrth iddi ddweud y bydd yn edrych i fewn i bob opsiwn, yn cynnwys addasu deddfwriaeth ac atal datblygiadau, er mwyn sicrhau bod y datblygwyr yma yn byw i fyny i’w cyfrifoldebau. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi rhagor o fanylion ar yr opsiynau yma, os gwelwch yn dda, a chadarnhau os ydy hi’n edrych ar atal datblygiadau os ydy datblygwr anghyfrifol yn gwrthod cydweithio efo’r Llywodraeth? A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o ddatblygwyr sydd heb gymryd rhan hyd yma neu sydd heb fynegi parodrwydd i drafod efo’r Llywodraeth?
Mae’r drafodaeth gyhoeddus ar y sgandal yma wedi troi o amgylch pwy sydd yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio. Felly, fel cwestiwn terfynol, hoffwn ofyn i’r Gweinidog pa fecanwaith sydd mewn lle i ddatrys unrhyw anghydfod gyda datblygwyr ar faterion penodol mewn adeiladau penodol. Pwy fydd yn rheoleiddio'r broses anghydfod? Beth ydy’r mecanwaith ar gyfer datrys yr anghydfod? Ac o ran y dogfennau cyfreithiol a fydd yn cael eu rhoi fel rhan o’r broses yma, pa rym cyfreithiol go iawn fydd ganddyn nhw yng nghanol yr anghydfod? Diolch yn fawr iawn.