Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 22 Mawrth 2023.
Nid yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth o'r fath, oherwydd credwn y byddai capio cyllideb awdurdod yn llyffethair difrifol ar gyfrifoldebau'r aelodau a etholir yn lleol. Rydym yn darparu hyblygrwydd i awdurdodau lleol, wrth gwrs, wrth osod eu cyllidebau a phenderfynu ar eu lefelau treth gyngor, ac mae hynny'n caniatáu iddynt ymateb i flaenoriaethau a phwysau lleol. Credwn fod honno'n nodwedd bwysig o ddemocratiaeth leol ac yn galluogi awdurdodau i fod yn atebol i'w trigolion. Yn amlwg, mae'r refferenda lleol hynny yn Lloegr yn gostus. Yn hytrach, rydym yn sianelu ein cyllid i reng flaen llywodraeth leol drwy'r setliad llywodraeth leol fel bod gan yr awdurdodau hyblygrwydd pellach i ddyrannu'r cyllid yn ôl eu blaenoriaethau lleol.