1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2023.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr llywodraeth leol i symud cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus oddi wrth fuddsoddiadau tanwydd ffosil? OQ59293
Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr. Bu partneriaeth pensiwn Cymru yn trafod datgarboneiddio pensiynau llywodraeth leol yng Nghyngor Partneriaeth Cymru ym mis Tachwedd. Yn dilyn eich cyfarfod gyda’r Prif Weinidog ym mis Ionawr, mae CLlLC wedi cytuno i gynnal digwyddiad ym mis Mai gydag arweinwyr a darparwyr pensiynau i drafod y camau nesaf.
Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Gweinidog am gadarnhad o’r cyfarfod hwnnw a’r sesiwn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, yn 2021, wedi llunio’r cynllun ar gyfer datgarboneiddio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru erbyn 2030, ac mae’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni os bydd y sector cyhoeddus yn cydweithio ar allyriadau hinsawdd. Mewn ysbryd cydweithredol ac yn ysbryd y sesiwn ddatgarboneiddio gyda CLlLC, tybed a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod cyfle yma i lunio strategaeth newydd ar y cyd i ddatgarboneiddio cronfa bensiwn sector cyhoeddus Cymru erbyn 2030.
Rwy'n cytuno'n llwyr mai cydweithio i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur yw’r unig ffordd y gallwn wneud y gwelliannau y mae’n rhaid eu gwneud. Mae gwir angen i’r system bensiwn gyfan ymateb i’r agenda hon. Mae’n wir, wrth gwrs, y gall awdurdodau pensiwn llywodraeth leol ddysgu oddi wrth ei gilydd ac ar draws y sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol. Credaf y bydd y cyfarfod y gwn iddo gael ei gynnal, Jack, o ganlyniad i’r gwaith rydych chi wedi bod yn ei wneud yn bwysig ar gyfer rhannu’r wybodaeth honno.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod perchnogion pensiynau eisoes wedi rhoi rhai camau ar waith i ddatgarboneiddio. Felly, mae'n bwysig cydnabod arferion da lle maent yn digwydd. Cyhoeddodd partneriaeth pensiwn llywodraeth leol Cymru fenter ddatgarboneiddio newydd ar draws £2.5 biliwn o’i buddsoddiadau ym mis Ebrill y llynedd. Ac unwaith eto, credaf fod cyfleoedd yno i archwilio’r arferion da hynny a gweld sut y gellir eu hehangu hyd yn oed ymhellach.
Rwy’n falch fod y pwnc hwn wedi’i godi'r prynhawn yma. Mae gennyf bryderon dybryd ynghylch datgarboneiddio cronfeydd pensiwn a sut y bydd hynny'n digwydd dros gyfnod parhaus o amser, gan fod llawer o bensiynau’r sector cyhoeddus yn dibynnu ar fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil. Os ydych yn chwilio am ddatganiad o ffaith, yn etholaeth yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy ei hun, yn sir y Fflint, fe wnaethant fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a thechnoleg lân yn ôl yn 2008 a 2009. Felly, fe welsoch enghraifft berffaith yn ei etholaeth ei hun o sut mae cyngor yn gallu gweithio’n rhagweithiol i ddatgarboneiddio’r pensiynau eu hunain heb fod y fframwaith deddfwriaethol o reidrwydd ar waith i gefnogi hynny.
Ond mae’r cwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn ynglŷn â hyn, Weinidog, yn ymwneud â’r gweithwyr ar y cyflogau isaf, y mae rhai ohonynt yn cyfrannu i gronfa bensiwn Clwyd, sy’n berthnasol i fy etholaeth yn sir Ddinbych. Mewn perthynas â gweithredu, sut olwg fyddai ar hynny o ran amddiffyn y gweithwyr ar y cyflogau isaf fel nad ydym yn creu tlodi ymhlith y gweithwyr ar y cyflogau isaf sydd wedi cyfrannu'n ymroddedig i gronfeydd pensiwn ar hyd eu gyrfa waith ac sydd am gael eu gwobrwyo pan fyddant yn penderfynu ymddeol? Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi’r gweithwyr ar y cyflogau isaf yn sir Ddinbych yn hynny o beth? Diolch.
Byddai’r rhain yn faterion i aelodau’r bwrdd pensiynau a’r gronfa bensiwn eu hystyried mewn gwirionedd, o ran y buddsoddiadau y mae’r gronfa’n eu gwneud. Ond wedi dweud hynny, credaf y gall buddsoddiadau pensiwn gwyrdd fod yn fuddsoddiadau da iawn o ystyried y ffordd y mae’r farchnad ynni bresennol yn symud tuag at ffordd wyrddach a mwy cynaliadwy o ddarparu ynni ar gyfer y dyfodol. Gwn y bydd pob un o’r pethau hyn yn bethau y mae rheolwyr cynlluniau pensiwn ac yn y blaen yn eu trafod gyda’r bwrdd pensiynau. Nid penderfyniadau i Lywodraeth Cymru yw'r penderfyniadau buddsoddi penodol hynny, ond penderfyniadau i’r byrddau pensiynau eu hunain.