Safle'r 2 Sisters Food Group

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 2:07, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gefnogi Rhun ap Iorwerth yn ei alwad am ddarparu'r cymorth priodol i'r awdurdod lleol yn Ynys Môn? Nodais yn eich ymateb yno, Weinidog, eich bod wedi nodi'n briodol yr amcan pwysig o ddarparu cefnogaeth i weithwyr safle 2 Sisters a hefyd i ail-sefydlu'r safle ar gyfer ei ddefnyddio rywbryd yn y dyfodol. Nodais hefyd, tua'r diwedd yno, eich bod wedi dweud nad oeddech wedi gweld unrhyw geisiadau pellach am gymorth gan yr awdurdod lleol. Ond tybed a wnewch chi ehangu ar unrhyw fathau eraill o gefnogaeth y gofynnwyd amdanynt gennych, a ydych chi wedi gweld y rheini, a beth allai'r opsiynau fod ar gyfer cefnogi'r gymuned o lefydd eraill, nid gan yr awdurdod lleol yn unig.