Safle'r 2 Sisters Food Group

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:08, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Cafodd y cais am gymorth ychwanegol, er enghraifft yr arian ychwanegol sydd wedi mynd drwy Cymunedau am Waith, ei wneud i Weinidog yr Economi. Felly, nid wyf wedi cael unrhyw geisiadau penodol am gyllid ychwanegol. Ond rwy'n gwybod bod cyfarfod wedi'i gynnal ar 15 Mawrth rhwng cyngor Môn, Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cymru ac Amber Holdings sy'n berchen ar y safle, a bod y cyfarfod hwnnw wedi sicrhau cytundeb i ymgysylltu â rhanddeiliaid i gytuno ar ddefnydd o'r safle yn y dyfodol yn unol ag anghenion lleol, a hefyd i ymwneud â busnesau lleol i benderfynu ar y math o eiddo sydd ei angen yn y farchnad bresennol. Ac unwaith eto, byddai honno'n drafodaeth dan arweiniad Gweinidog yr Economi. Ond roeddwn i'n meddwl y gallai rhannu hynny fod o ddiddordeb i gyd-Aelodau y prynhawn yma hefyd.