Mannau Gwyrdd Cymunedol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:25, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cymeradwyo eich uchelgais yn llwyr, a hefyd uchelgais CNC, i ail-ddychmygu gofodau trefol. Mewn cyfnod lle mae iechyd meddwl pobl yn eithaf bregus, mae hyn yn bwysig iawn. Yn fy mhrofiad i, nid fandaliaid lleol yw'r broblem, ond pobl sy'n gweithredu ar gontractau torri gwair sydd, yn y bôn, yn torri coed a blodau y mae pobl wedi'u plannu i wneud i'w hardal eu hunain edrych yn brafiach. Tybed sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod pawb yn ymgysylltu â hyn, â phwysigrwydd ail-ddychmygu ein mannau gwyrdd trefol. Nid oes angen inni chwistrellu chwynladdwyr i ladd chwyn oherwydd mae hefyd yn lladd planhigion ac yn ychwanegu at y broblem ffosfforws. Felly, sut rydych chi'n meddwl y gallech chi sicrhau bod gennym ddull partneriaeth cyflawn mewn ardaloedd trefol gyda'n cymunedau a chyda'r holl wasanaethau sy'n cael eu darparu, fel ein bod i gyd yn teithio i'r un cyfeiriad ar hyn?