Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 22 Mawrth 2023.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yna fynediad i'r babanod hyn at y gofal gorau sydd ar gael, a fy nealltwriaeth i yw bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cynnal asesiad o'r galw yn y gogledd ac wedi dod i'r casgliad fod angen ariannu dau wely mewn uned mamau a babanod, ac o fewn eu cynlluniau, daethant i'r casgliad mai'r dull mwyaf priodol o ddarparu hyn oedd drwy weithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a GIG Lloegr er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer yr uned a rennir.