Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 22 Mawrth 2023.
Yn ôl datganiad diweddar gan y bwrdd iechyd lleol, maen nhw’n gweithio efo NHS England i ddarparu uned yng Nghaer, gyda dau wely ynddi ar gyfer mamau o bob rhan o’r gogledd. Dwi’n deall mai yn Ysbyty’r Countess of Chester y bydd yr uned yma. A fedrwch chi gadarnhau hynny?
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan y Comisiwn Ansawdd Gofal, nodwyd fod gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty’r Countess of Chester yn annigonol, a bod diffyg staff a chyfarpar yn broblemau a oedd angen sylw, ynghyd â phroblemau arweinyddiaeth yn yr ymddiriedolaeth. A ydych chi’n meddwl bod sefydlu dau wely dros y ffin yn Lloegr ar gyfer mamau fyddai angen teithio yn bell, a hynny mewn ysbyty sydd â track record gwael o ran mamolaeth, yn gynllun doeth a synhwyrol yn eich barn chi fel Gweinidog y gogledd?