Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch. Rydych yn llygad eich lle, mae rhan o'r Bil amaethyddol—ac yn amlwg, mae gennym Gyfnod 2 yfory—yn cynnwys pwerau newydd i ganiatáu i amodau amgylcheddol gael eu hychwanegu at drwyddedau torri coed, ac i ddiwygio, atal neu ddirymu unrhyw drwyddedau sydd eisoes wedi'u caniatáu. Mae'n rhaid imi edrych yn ofalus iawn ar yr elfen goedwigaeth, fel sy'n aml yn digwydd pan fyddwch yn dechrau deddfwriaeth. Wrth ichi fynd drwy'r gwahanol gyfnodau, efallai y bydd angen ichi edrych ar ddarparu mwy o eglurder yn y ddeddfwriaeth wrth symud ymlaen. Ac yn sicr byddaf yn ceisio cael darpariaeth fanylach yng Nghyfnod 3.