Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna. Dwi am fynd ymlaen rŵan, os caf i, at goedwigaeth. Mae tua 15 y cant o Gymru wedi'i orchuddio efo coedwigaeth o wahanol fathau, sef tua 316,000 hectar yma. Mae'r coed yma yn wahanol drwyddi draw, o wahanol rywogaethau a gwahanol fathau o orchudd, yn goed unigol, coedlannau bychan neu fforestydd mawr. Ond yr un peth sydd yn gyffredin ydy bod coedwig sy'n cael ei reoli yn gwneud yn well na rhai sydd ddim yn cael eu rheoli. Pa un ai bod y rheoli yma ar gyfer coed adeiladu neu ffeibr, bioamrywiaeth neu gynefinoedd, rheoli llifogydd neu hamdden, bydd angen trwydded torri coed er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael eu rheoli ar ryw bwynt neu'i gilydd.
Mae'r Bil amaeth newydd, fel ag y mae o'n blaenau ni ar hyn o bryd, yn mynd i newid yn sylweddol ar y system drwyddedu hynny. Dwi felly am wahodd y Gweinidog i osod allan ei gweledigaeth ar gyfer rheoli coed a fforestydd yng Nghymru.