Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:32, 22 Mawrth 2023

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gwlân Cymru yn gynnyrch cynaliadwy, aml bwrpas, ac yn dda yn amgylcheddol. Mae yna alw cynyddol am gynnyrch eco-gyfeillgar, ac mae gwlân Cymru'n berffaith i ateb y galw yma. Fel mae'r Gweinidog yn ei wybod, mae gan ffermwyr Cymru ymrwymiad diysgog i sicrhau amaeth cynaliadwy, ac wrth gwrs, gall gwlân Cymru chwarae rhan bwysig wrth i'r sector geisio byw i fyny i'w ymrwymiad amgylcheddol uchelgeisiol. Ond er y rhinweddau yma, mae prisiau rhyngwladol gwlân wedi dod o dan bwysau, wrth i brisiau uchel ynni arwain at golli busnes, a hyder y prynwyr yn disgyn, sydd yn ei dro'n creu amgylchiadau anodd i ddarparwyr deunydd crai megis gwlân. A wnaiff y Gweinidog felly ymrwymo i wneud pob dim i gynorthwyo'r sector, ac i'r Llywodraeth ddangos arweiniad, yn cynnwys drwy ddefnyddio grym caffael, gan nodi'r angen i ddefnyddio gwlân Cymreig ym mhrosiectau'r Llywodraeth, megis defnyddio carpedi gwlân Cymreig mewn cynlluniau adeiladu a thrafnidiaeth? Er enghraifft, faint o wlân Cymreig sydd ar garpedi cerbydau Trafnidiaeth Cymru? Diolch yn fawr iawn.