Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr wedi ymrwymo i wneud popeth a allaf. Rwy'n credu fy mod yn cyfarfod yn flynyddol, mae'n debyg, gyda phrif weithredwr cyngor Gwlân Prydain, a byddaf yn cyfarfod â hwy eto yn ystod yr wythnosau nesaf, rwy'n credu. Ac yn sicr, mae'n dda iawn clywed eu syniadau ar gyfer defnyddio gwlân. Felly, er enghraifft, un o'r syniadau a godwyd gyda mi oedd y gellid ei ddefnyddio i insiwleiddio, ond mewn gwirionedd, pan siaradwch â chyngor Gwlân Prydain, roeddent yn dweud nad yw hynny'n ddefnydd gorau ohono. Ond y pwynt a wnaethoch ynglŷn â thrafnidiaeth—felly, mewn seddi ar drafnidiaeth—yn sicr cefais drafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gan ein bod yn caffael y trenau newydd, i weld faint o wlân y gellid ei ddefnyddio ar gyfer y seddi. Yn amlwg, cefais drafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd, ac mae hi'n awyddus iawn i ddefnyddio mwy o wlân. Felly, byddaf yn sicr yn parhau â'r sgyrsiau hynny, a byddaf yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod.