Mannau Gwyrdd Cymunedol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:26, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac fe fyddwch yn ymwybodol o rai o'r ymgyrchoedd a gyflwynwyd gennym fel Llywodraeth. Felly, un ohonynt yw—. Mae Carolyn Thomas, ein cyd-Aelod, wedi bod yn gweithio i ddatblygu a hyrwyddo ymgyrch 'Iddyn Nhw', sy'n ymwneud â helpu cymunedau lleol i ddeall pwysigrwydd ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt, er enghraifft, yn ogystal â phlannu blodau gwyllt hefyd, yn amlwg. Felly, mae yna amrywiaeth o gynlluniau'n cael eu cyflwyno gennym. Mae gennym y cynllun 'Natur Wyllt', sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn hefyd yn fy marn i.