Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 22 Mawrth 2023.
Ddirprwy Lywydd, gadewch inni fod yn glir ynghylch yr hyn sydd i fod i ddigwydd: dylai cyflenwyr ynni roi cyfle i unrhyw un sy'n ystyried eu hunain yn agored i niwed wrthod mesurydd rhagdalu. Yn lle hynny, roedd Ofgem yn caniatáu i'r cyflenwyr ynni eu hunain ddiffinio’r hyn yw unigolyn agored i niwed, a manteisiwyd ar hyn gyda chanlyniadau trychinebus. Roedd Llywodraeth y DU ac Ofgem yn cysgu wrth y llyw, ac er bod yr ystadegau rwyf wedi’u nodi eisoes wedi'u gwneud yn gyhoeddus, ni wnaethant unrhyw beth. Nid nes i The Times ddatgelu asiantau a oedd yn gweithio ar ran Nwy Prydain yn torri'r rheolau ar gamera y gwnaeth y rheolydd, Ofgem, gyfaddef unrhyw gamweddau. Dylai unrhyw reoleiddiwr a welodd y cynnydd aruthrol hwn yn nifer y gwarantau a gyhoeddwyd y llynedd, gan gynnwys dros 20,000 ohonynt mewn un llys yn Abertawe, fod wedi gweithredu. Ac mae hyd yn oed y moratoriwm presennol ar osod mesuryddion rhagdalu yn digwydd yn wirfoddol, yn syml oherwydd y fideos Nwy Prydain hynny.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, nodaf alwad genedlaethol ddiweddar Ofgem am dystiolaeth ar fesuryddion rhagdalu, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhannu pryder gwirioneddol ynglŷn ag a fydd y rheini sydd eisoes wedi cael cymaint o gam gan y rheoleiddiwr yn ymgysylltu â'r broses honno. Ym mis Chwefror, lansiais fy arolwg fy hun i gasglu tystiolaeth, ac roedd hyn oherwydd, ar y pryd, dywedodd Ofgem wrthyf yn y cyfarfod a gefais gyda hwy nad oedd unrhyw dystiolaeth i'w chael o gamweddau y tu allan i Nwy Prydain, er bod yr ystadegau’n profi fel arall. Ac roedd yr ymatebion a gefais, Ddirprwy Lywydd, yn fy adroddiad, 'A National Scandal: The true cost of pre-pay meters' yn anodd iawn i'w darllen. Maent yn darlunio'n glir pa mor anodd yw bywyd ar fesurydd rhagdalu i gynifer o deuluoedd. Dywedodd un ymateb, a dyfynnaf,
'Mae fy ngŵr yn gyn-filwr yn y fyddin gyda fferau wedi'u hadlunio, anhwylder straen wedi trawma a llawer mwy o broblemau iechyd'.
Aethant ymlaen i ychwanegu,
'Ar un achlysur, roeddwn yn teimlo cymaint o gywilydd yn gorfod ffonio i ofyn a allent roi credyd ar fy mesuryddion, y gwnaethant ei gymryd yn ôl cyn gynted ag yr oedd gennyf arian i'w roi ar y mesuryddion, gan fy rhoi yn ôl yn y man cychwyn yn y bôn. Ni wneuthum eu ffonio wedyn, ac yn lle hynny, bu'n rhaid imi wneud heb'.
Ddirprwy Lywydd, ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain, sut rydym yn gwneud y fath gam â'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog i'r fath raddau nes eu bod yn cael eu gadael yn y tywyllwch ac yn yr oerfel yn eu cartrefi eu hunain? Mae'r gŵr hwn yn arwr rhyfel. Peryglodd ei fywyd dros bob un ohonom, ac eto, yn ei awr gyfyng, mae'r system wedi gwneud cam mawr ag ef.
Cafodd mesurydd pâr arall, ill dau'n derbyn taliadau annibyniaeth personol, a chanddynt dri o blant ifanc, ei newid gan eu cwmni ynni ym mis Ionawr. Roeddent yn dweud hyn,
'Roeddem yn teimlo ein bod wedi cael ein bwlio i gael mesurydd rhagdalu gan eu bod wedi rhoi llawer o ddyled i ni allan o unman na allem fforddio'i thalu. Ar hyn o bryd, rydym yn talu £10 y dydd am drydan yn unig, ac rydym yn ei chael hi'n anodd yn ariannol'.
Mae eu sefyllfa, Ddirprwy Lywydd, mor anodd bellach fel eu bod wedi cael eu gorfodi i fenthyg arian gan deulu i ychwanegu at eu mesurydd. Yn drist iawn, mynegodd nifer o ymatebwyr eraill eu bod hwythau hefyd wedi gorfod benthyca arian er mwyn cadw'r golau ymlaen. Mae’r effaith y mae mesuryddion rhagdalu yn ei chael ar iechyd y rheini sy’n cael eu gorfodi i fyw gyda hwy mor syfrdanol o glir yn yr adroddiad hwn. Gosodwyd mesurydd rhagdalu gorfodol yng nghartref un unigolyn sydd ag arthritis difrifol ddiwedd y llynedd. Esboniodd unigolyn arall sut maent yn rhedeg allan o gredyd yn rheolaidd ar eu mesurydd nwy, a bod y cyfnodau estynedig o oerfel wedi gwaethygu eu hasthma yn sylweddol.
Fel rwyf wedi'i ddweud yn y Siambr hon ar sawl achlysur, Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn fater o fywyd a marwolaeth. Dywedodd un ymatebydd i’r arolwg, er eu bod yn ddibynnol ar ddyfais feddygol sy’n rhaid ei chysylltu ynglŷn â’r prif gyflenwad, eu bod wedi’u rhoi ar fesurydd rhagdalu. Bob dydd, maent yn gorfod gwneud y dewis i gyfyngu ar eu defnydd o ynni fel y gallant fod yn sicr y gallant ddefnyddio eu dyfais feddygol. A allwch chi ddychmygu'r straen a'r pryder y mae'n rhaid bod hyn yn ei achosi i'r teulu hwn? Mae’n wirioneddol dorcalonnus fod teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig yn gorfod byw fel hyn.
Ddirprwy Lywydd, yn anffodus, nid yw'n syndod fod llawer o'r rheini a ymatebodd i fy arolwg wedi mynegi sut mae eu hiechyd meddwl wedi dioddef o ganlyniad uniongyrchol i'w mesurydd rhagdalu. Mae'r gorbryder hwn wedi'i waethygu gan y ffordd y cawsant eu trin gan eu cyflenwyr ynni. Bydd y Gweinidog yn cofio imi dynnu sylw yn ddiweddar at achos mam a fu'n aros ar y ffôn am dros awr, yn eistedd yn y tywyllwch, yn eistedd yn yr oerfel, ar ôl i’w mesurydd rhagdalu roi’r gorau i weithio. Pan gafodd ei chysylltu o’r diwedd ac esbonio bod angen cymorth arnynt, a bod eu mab chwech oed yn amlwg yn ofidus iawn, yn bryderus iawn, yn crio gartref yn y tywyllwch, yn yr oerfel, yr unig beth a wnaeth yr unigolyn ar ben arall y ffôn oedd chwerthin, a rhoi'r ffôn i lawr. Mae'r peth yn gwbl warthus, Ddirprwy Lywydd.
Mae pob un o'r bobl hyn sydd wedi ymateb i fy arolwg, pob un o'r bobl hyn rydym wedi'u disgrifio yn yr ystadegau hyn, wedi cael cam gan eu cyflenwr ynni. Maent wedi cael cam gan Ofgem, ac maent wedi cael cam gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Hoffwn ddweud yn gwbl glir, Ddirprwy Lywydd, nad oes gennyf unrhyw ffydd yn Ofgem o gwbl, ond mae rôl glir i Lywodraeth y DU ddeddfu. Bydd fy nghyd-Aelodau’n cofio, ar ddiwedd y 1990au, y cydnabuwyd na ddylid caniatáu i gwmnïau preifat dorri cyflenwad dŵr pobl. Mae ynni, hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn fater o fywyd neu farwolaeth. Dylem wneud yr un peth a deddfu i atal cwmnïau rhag torri cyflenwadau ynni pobl, ac mae hyn yn cynnwys torri cyflenwadau ynni pobl am fod eu mesurydd rhagdalu wedi rhedeg allan o gredyd.
Ddirprwy Lywydd, yn y cyfamser yma yng Nghymru, mae angen inni edrych ar gyflwyno'r cynllun peilot cyngor ynni domestig yn y cartref ar raddfa fwy i sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso â mynediad at y cyngor gorau posibl. Ac mae angen inni edrych ar ba bwerau sydd gennym i atal landlordiaid rhag gallu gorfodi tenantiaid i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu hefyd. Ddirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn ddweud hyn: mae pobl wedi cael cam mawr gan y rhai sydd i fod i’w hamddiffyn yn y farchnad ynni. Rwy'n gobeithio y gwelwn ddiwedd ar y sgandal genedlaethol hon, ac rwy'n gobeithio y daw i ben cyn bo hir. Diolch.