Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 22 Mawrth 2023.
Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf sydd ar gael gan y rheolydd ynni, Ofgem, roedd oddeutu 4.1 miliwn o gwsmeriaid trydan a 3.3 miliwn o gwsmeriaid nwy ar fesurydd rhagdalu ym Mhrydain yn 2020, gyda nifer gyfrannol fwy o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu nag yn Lloegr. Cymru sydd â’r gyfran uchaf o fesuryddion rhagdalu nwy o gymharu â gwledydd eraill Prydain, ac maent yn aml yn cael eu defnyddio gan rai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fel y clywsom, pobl sydd ar incwm isel ac sydd eisoes mewn dyled i’w cyflenwyr. Ynys Môn sydd â'r lefel uchaf o fesuryddion rhagdalu yng Nghymru, gyda bron i 29 y cant, ac yna Gwynedd, gyda bron i 22 y cant.
Er gwaethaf ymdrech unedig gan Ofgem yn 2020, gan gynnwys cyflwyno amodau trwydded newydd i gyflenwyr ar gyfer nodi cwsmeriaid agored i niwed, cynnig credyd brys a chredyd oriau cyfeillgar, ac ystyried gallu cwsmeriaid i dalu wrth sefydlu cynlluniau ad-dalu dyledion, gwaethygodd yr argyfwng prisiau ynni byd-eang ddifrifoldeb y sefyllfa, gyda nifer y mesuryddion rhagdalu sydd ar waith ledled y DU yn cynyddu. Ym mis Ionawr, cyn i ymchwiliad The Times ddatgelu bod Nwy Prydain yn anfon casglwyr dyledion fel mater o drefn i dorri i mewn i gartrefi cwsmeriaid a gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol, hyd yn oed pan oeddent yn gwybod eu bod yn eithriadol o agored i niwed, ysgrifennodd Ysgrifennydd busnes y DU ar y pryd at y cyflenwyr ynni, gan nodi y dylent roi'r gorau i orfodi cwsmeriaid sy'n agored i niwed i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu, ac y dylent wneud mwy o ymdrech i helpu'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Galwodd am gyhoeddi ymchwiliad diweddar y cyflenwyr ynni i gwsmeriaid agored i niwed ar unwaith, a rhyddhau data ar geisiadau roedd cyflenwyr wedi eu gwneud i osod mesuryddion gorfodol.
Ym mis Chwefror, gofynnodd Ofgem i gwmnïau ynni roi'r gorau i osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, a gorchmynnodd yr Arglwydd Ustus Edis i lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr roi'r gorau ar unwaith i awdurdodi gwarantau i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Ar yr un diwrnod, cyfarfu Gweinidog ynni’r DU ar y pryd â phennaeth Ofgem a dweud wrtho fod Llywodraeth y DU yn disgwyl camau gweithredu cryf ar unwaith pan na fydd cyflenwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau. Mae gwaharddiad dros dro Ofgem ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol yn cynnwys atal gosod mesuryddion drwy warant, atal newid mesuryddion clyfar i fesuryddion rhagdalu o bell heb gytundeb penodol y cwsmer, a rhoi’r gorau i geisiadau newydd i’r llys am warantau gosod oni bai bod amheuaeth o ddwyn.
Yn ystod cyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Canghellor, o 1 Gorffennaf, y bydd taliadau ynni rhagdalu'n cael eu cysoni ar gyfer cwsmeriaid sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol ar sail barhaol. Mae Climate Cymru wedi mynegi pryder nad yw hyn yn effeithio ar y taliadau sefydlog, sef yr hyn sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o gost uwch mesuryddion rhagdalu. Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i Ofgem adrodd yn ôl ar opsiynau ar gyfer atal y taliadau sefydlog uwch y mae defnyddwyr mesuryddion rhagdalu yn eu talu. Ym Mhwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Senedd y DU ar 14 Mawrth, cadarnhaodd Ofgem fod pob cyflenwr bellach yn ymestyn yr ataliad ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol y tu hwnt i 1 Ebrill, ac na fydd yn cael ei godi hyd nes bod Ofgem yn fodlon fod cyflenwyr yn gweithredu'n unol â chod ymarfer newydd.
Mae National Energy Action, NEA, o’r farn fod angen sicrhau ar unwaith hefyd fod y camau gorfodi'n gryf, gan gynnwys gwrthdroi gosodiadau na ddylid bod wedi'u gwneud a digolledu’r aelwydydd yr effeithir arnynt, er mwyn cryfhau amddiffyniadau ac amodau trwyddedau, a chael adolygiad sylfaenol o fesuryddion rhagdalu, lleihau nifer y mesuryddion rhagdalu traddodiadol a ddefnyddir a mynd i'r afael â dyledion. Cred NEA y dylid hyrwyddo a darparu mesurau effeithlonrwydd ynni ochr yn ochr â chyngor a chymorth uniongyrchol annibynnol i aelwydydd agored i niwed sydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd ar wella effeithlonrwydd ynni'r cartref, gwneud y gorau o incwm a rheoli neu leihau costau ynni a chael mynediad at y cymorth ehangach sydd ar gael yn y farchnad ynni.
Mae blwyddyn wedi bod ers i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar iteriad nesaf ei rhaglen Cartrefi Clyd, ac mae angen inni gyflymu’r gwaith o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd ar fyrder. Hoffai NEA a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru weld Llywodraeth Cymru yn nodi amserlen ar gyfer sicrhau bod y cynllun nesaf sy’n cael ei arwain gan y galw yn weithredol cyn y gaeaf, gan ganolbwyntio ar y rhai gwaethaf yn gyntaf—y rheini ar yr incwm isaf, sy’n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon—a defnyddio dull priodol aml-fesur, 'ffabrig yn gyntaf'. Anfonodd etholwr e-bost ataf, yn dweud mai bwriad mesuryddion rhagdalu oedd atal pobl rhag mynd i ôl-ddyledion, ac mai’r broblem yma yw bod y cwmnïau cyfleustodau’n codi cyfradd uwch ar y bobl sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu, a bod angen i hynny newid. Ni ellir cyfiawnhau cosbi rhywun am dalu ymlaen llaw a chosbi rhywun am fod ar incwm isel. Byddwn yn falch o gefnogi’r cynnig hwn yn unol â hynny.