Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 22 Mawrth 2023.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Rwy'n llwyr gefnogi dadl y cynnig ei bod yn sgandal genedlaethol fod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi ar fesuryddion rhagdalu oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni, ond tra bo dosbarthu a chyflenwi nwy a thrydan a diogelu defnyddwyr yn faterion a gadwyd yn ôl, rwyf am nodi hefyd na fyddwn byth yn gallu bod yn gwbl hyderus y gallwn amddiffyn ein dinasyddion rhag y math hwn o weithredu niweidiol a chywilyddus hyd nes bod pwerau dros y materion hyn wedi'u datganoli i Gymru. Nid yw'r gwaharddiad dros dro presennol ar osod mesuryddion rhagdalu yn ddiwedd ar bethau, a hyd yma, nid yw'r cod ymarfer y siaradodd Mark Isherwood amdano i gyflenwyr yn orfodol yn gyfreithiol.
Fel mae'r cynnig yn gwneud yn glir, mae tlodi tanwydd ar lefelau difrifol yng Nghymru, a gallai ddyfnhau ymhellach byth. Mae'r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i fynd ar fesuryddion rhagdalu fel arfer yn ei chael hi'n anodd nid yn unig gyda chostau byw, ond hefyd gyda dyledion. Yr ymchwiliad pwyllgor cyntaf yr oeddwn yn rhan ohono ar ôl cael fy ethol oedd yr un a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn hydref 2021 ar ddyled a'r pandemig. Fel yn achos argyfwng COVID, bydd dyled lethol yn sicr yn un o ganlyniadau erchyll yr argyfwng costau byw hwn, gan ddwysáu canfyddiadau pryderus yr adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd fel yr oedd prisiau ynni'n dechrau codi.
Yn ogystal â sicrhau iawndal priodol gan gyflenwyr ynni i'r rhai a orfodwyd i fynd ar fesuryddion rhagdalu, mae National Energy Action yn iawn i alw ar Lywodraeth y DU hefyd i ariannu amnest dyledion, gan ddefnyddio'r cyllid a ddaeth ar gael efallai yn sgil y cwymp diweddar mewn prisiau cyfanwerthu. Mae'r cynnig hefyd yn nodi'r angen i sicrhau cyngor a chymorth i'r rhai sydd mewn perygl o wynebu tlodi tanwydd, ac mae croeso mawr i hynny, ond mae'n rhaid cael mesurau effeithlonrwydd ynni i gyd-fynd â hynny i helpu i atal tlodi tanwydd yn y lle cyntaf. Drwy gwestiwn ysgrifenedig yn y Siambr hon, a chyda fy nghyd-aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ceisiais gael eglurder ynghylch y llinell amser ar gyfer pryd y bydd yr iteriad nesaf o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn weithredol—nid wedi'i gaffael, ond yn weithredol. Fel y dywedodd Mark Isherwood, rhaid inni gyflymu'r gwaith o wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi lle mae pobl yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Yr hyn a gawsom hyd yma, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yw ymrwymiad y bydd cynllun newydd, cenedlaethol sy'n cael ei arwain gan y galw, ac sy'n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd, yn cael ei gaffael erbyn diwedd y flwyddyn, ac na fyddai bwlch yn y ddarpariaeth rhwng y rhaglenni newydd a'r rhaglenni presennol.
Felly, hoffwn ofyn eto, Weinidog: pryd fydd y cynllun sy'n cael ei arwain gan y galw, sy'n canolbwyntio ar y rhai ar yr incwm isaf, sy'n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon, yn weithredol? Atebwch yn glir, gan fy mod yn gobeithio y bydd pob Aelod a'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y rhai sy'n wynebu'r caledi mwyaf yn cael eu helpu cyn gynted â phosibl i fyw mewn cartrefi cynhesach ac iachach cyn i'r gaeaf nesaf wthio pobl i ddyled fwy niweidiol byth a nosweithiau hyd yn oed yn dywyllach ac oerach.