Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 22 Mawrth 2023.
Mae'n ddrud iawn i fod yn dlawd; mae bron bopeth yn costio mwy. Pe bawn i wedi bod yn cael y drafodaeth hon tua 20 mlynedd yn ôl, byddwn wedi dweud bod popeth yn costio mwy, ond cyrhaeddodd y siopau disgownt Almaenig, felly nid yw popeth yn costio mwy, ond ychydig iawn o bethau sydd heb fod yn costio mwy i bobl dlawd. Mae'n gwneud synnwyr busnes da i'r cyflenwyr ynni gael mesuryddion rhagdalu. Maent yn cael incwm gwarantedig am yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio. Nid ydynt yn datgysylltu pobl, oherwydd maent yn datgysylltu eu hunain. Mae Cyngor ar Bopeth wedi darganfod yn y DU bod dros 2 filiwn o bobl yn cael eu datgysylltu o leiaf unwaith y mis, a bod tua un o bob pum cwsmer ar fesurydd rhagdalu a ddatgysylltwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi treulio o leiaf 24 awr heb nwy na thrydan. Dim ystyriaeth i'r rhai sydd heb ynni.
Mae'n amlwg fod datgysylltu o ganlyniad i brinder credyd yn effeithio'n rheolaidd ar fywydau'r rhai sy'n byw gyda mesuryddion rhagdalu. Ni allwn ganiatáu i system barhau os yw'n arwain at beryglu bywydau pobl fregus am eu bod yn wynebu cael eu datgysylltu'n gyson. Mae'n effeithio'n anghymesur ar yr henoed, y rhai sy'n agored i niwed a phobl â phlant ifanc. Gall oedolion hŷn golli gwres y corff yn gyflym, yn llawer cyflymach na phan oeddent yn ifanc. Gall newidiadau yn eich corff sy'n dod gyda heneiddio ei gwneud hi'n anodd ichi fod yn ymwybodol eich bod yn mynd yn oer. Gall oerfel mawr droi'n broblem beryglus—cyn i berson hŷn wybod beth sy'n digwydd hyd yn oed, mae hypothermia'n dechrau.
I blant sy'n byw mewn cartref oer, maent mewn mwy o berygl o asthma, heintiau anadlol, datblygiad arafach a risg uwch o anabledd, problemau iechyd meddwl, yn ogystal â lefelau isel o hunan-barch a hyder, cyrhaeddiad addysgol gwael, maeth gwael ac anafiadau. Rydym yn gwneud llawer o bethau yn siarad am blant a rhoi cyfle iddynt mewn bywyd—mae dechrau bywyd mewn cartref oer yn eich rhoi dan anfantais enfawr.
Os ydych chi ar dariff sy'n cynnwys taliadau sefydlog, bydd yn rhaid i chi eu talu bob amser, ni waeth a ydych chi'n defnyddio ynni ai peidio mewn gwirionedd. Mae bod heb arian ar gyfer y mesurydd rhagdalu yn golygu bod heb ynni. Beth mae bod heb ynni'n ei olygu mewn gwirionedd? Mae'n golygu bod heb olau. Mae'n golygu bod heb wres. Mae'n golygu bod heb deledu. Mae'n golygu bod heb ddŵr poeth i ymolchi neu olchi eich dillad, dim peiriant golchi, dim bwyd na diod poeth, dim cwcer na meicrodon, dim oergell na rhewgell, a dychwelyd i godi a mynd i'r gwely yn dibynnu ar y golau y tu allan. Mae hwn yn fyd ymhell y tu hwnt i fywyd Aelodau'r Senedd, ond dyma fywyd llawer o'n hetholwyr.
Yna ceir creulondeb ychwanegol taliadau sefydlog. Rhaid talu taliad ar ddiwrnodau pan na allwch fforddio defnyddio unrhyw ynni, ffioedd sy'n cael eu codi os nad ydych wedi defnyddio unrhyw ynni o gwbl. O fis Ebrill 2023, bydd cwsmeriaid yn y DU yn talu tâl sefydlog cyfartalog o tua 53c y dydd am drydan, a 29c y dydd am nwy. Felly, os yw rhywun heb nwy, mae hynny'n golygu, os nad ydynt yn defnyddio unrhyw ynni am dridiau, sefyllfa nad yw'n anarferol, byddant yn gwneud taliad ar eu mesurydd rhagdalu ac yn syth mae'r arian sydd ar gael yn gostwng dros £1.50 cyn iddynt dalu tâl am eu defnydd.
Dywedodd etholwr wrthyf ei bod yn costio dros £2.50 i wresogi dysglaid o gawl. Roedd yn rhaid imi egluro bod hynny'n cynnwys y taliadau sefydlog yn bennaf. Yn yr enghraifft hon, mae rhagdaliad o £10 yn gweld dros ei chwarter yn mynd ar daliadau sefydlog ar ddiwrnodau pan na ddefnyddir unrhyw ynni. Rwy'n credu bod hynny'n hollol anghywir, ac mae'n brifo'r bobl dlotaf yn fawr. Rwy'n gwybod fy mod yn rhygnu ymlaen am hyn, ac rwy'n siŵr fod pobl yn cael llond bol arnaf yn rhygnu ymlaen am y peth, ond mae gwir angen gwneud rhywbeth amdano. Pe baent ond wedi cynnau'r golau, byddent yn dal i fod wedi defnyddio eu £1.50. Hefyd, pan fydd wedi rhedeg allan, mae'n rhaid i chi ailosod y boeler, sydd, gyda boeler hŷn, yn gallu cymryd sawl ymgais i'w ailosod. Hoffwn ychwanegu y dylid diddymu taliadau sefydlog. Os nad oes modd eu diddymu, dylid eu hychwanegu at y tariff. Os na fydd cwmnïau ynni'n diddymu ac yn talu'r gost o'u helw hwy, dylid ei ychwanegu at y costau, fel nad yw'r rhai ohonom sydd ag ynni bob dydd, sef pawb yn yr ystafell hon, yn cael eu sybsideiddio i bob pwrpas gan bobl na allant fforddio ynni bob dydd. Mae'n rhaid inni roi'r gorau i daliadau sefydlog ar ddiwrnodau pan nad oes unrhyw ynni'n cael ei ddefnyddio ac mae'n rhaid i honno fod yn flaenoriaeth gyntaf. Mae'n brifo pobl, mae'n niweidio cynnydd plant, mae'n peryglu bywydau pobl oedrannus.
Gyda'r cyflenwad ynni, rydym wedi symud o fonopoli gwladol i oligopoli, lle mae'r elw'n fawr a'r defnyddiwr yn talu. Er y byddwn yn hoffi gweld ynni'n cael ei gymryd yn ôl i ddwylo cyhoeddus, i'r rhai sy'n cofio'r hysbysebion, 'It is now—tell Sid', dylai fod bellach yn, 'Dywedwch wrth Sid ei fod yn mynd i gael ei orfodi ar fesurydd rhagdalu ac fe fydd yn mynd heb ynni am ddyddiau.'