Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 22 Mawrth 2023.
Os ydych chi'n dlawd, mae bywyd yn eich erbyn yn llwyr. Nid oes gennych unrhyw obaith o gael debyd uniongyrchol i dalu'ch biliau, mae'n rhaid ichi ddioddef tâl sefydlog uwch, a nawr fe wyddom am sgandal y mesuryddion rhagdalu. Rydym yn defnyddio'r gair 'sgandal' yma gryn dipyn, ond mae'n sgandal go iawn, yn sgandal gywilyddus, sydd ond wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar, a dim ond nawr y gweithredwyd yn ei chylch. Os ydych chi'n gyfranddaliwr Centrica, perchennog Nwy Prydain, nid oes gennych unrhyw broblem gyda thalu eich bil nwy nac unrhyw filiau o gwbl. Gadewch inni atgoffa ein hunain ynglŷn â'r hyn a wnaeth Centrica y llynedd. Fe wnaethant £3.3 biliwn o elw, deirgwaith y £1 biliwn a wnaethant y flwyddyn flaenorol, ac fe wyddom beth a wnaethant. Fe wnaethant orfodi eu ffordd i mewn i gartrefi pobl er mwyn gosod mesuryddion rhagdalu. Rydym yn gwybod hefyd y gallai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud mwy yn gynt, ac rwy'n falch eu bod wedi dod allan o'r diwedd, ond fel y gwyddom, mae hyn yn mynd i gymryd peth amser.
Bydd y cynlluniau rheibus hyn yn parhau, ac rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r cynnig hwn heddiw a chlywed gan Lywodraeth Cymru beth maent yn mynd i'w wneud. Mae'n iawn fod cwmnïau ynni sydd wedi cronni biliynau dros y flwyddyn ddiwethaf, tra bod llawer o bobl wedi wynebu diflastod llwyr wrth orfod datgysylltu gwres o'u cartrefi, peidio â chael oergelloedd, peidio â chael unrhyw beth i gynhesu eu cartrefi—. Dyna'r bobl sydd angen iawndal ac ad-daliad nawr.
Mae ffigyrau'r swyddfa ystadegau gwladol yn dangos bod 41 y cant o bobl ar fesuryddion rhagdalu wedi'i chael hi'n anodd aros yn gyfforddus gynnes. Felly, mae angen inni wneud mwy am hynny hefyd, ac rwy'n dilyn yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Sioned Williams wrth ofyn y cwestiwn i'r Gweinidog, os caf, ynghylch effeithlonrwydd ynni a phryd y cawn weld dechrau gweithredu rhaglen Cartrefi Clyd yng Nghymru. Rydym wedi bod yn aros ers peth amser, ac ni allwn fforddio aros mwy. Bydd y gaeaf nesaf gyda ni heb fod yn hir, a'r ddealltwriaeth yw—nid wyf yn economegydd, ond y ddealltwriaeth yw—y bydd sefyllfa ariannol pobl dlawd y flwyddyn nesaf hyd yn oed yn waeth—allwch chi ddychmygu—nag y mae eleni. Mae'n rhaid inni gyflymu datblygiad y rhaglen Cartrefi Clyd. Yn ôl fy nghyfrifiadau fy hun, os edrychwn ar insiwleiddio, byddai'n cymryd 135 o flynyddoedd i insiwleiddio holl gartrefi Cymru sy'n dlawd o ran tanwydd, ar sail perfformiad y cynllun yn 2020-21. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn glywed yn fuan iawn y bydd y rhaglen yn cyflymu, ond hefyd y byddwn yn dysgu o'r rhaglen flaenorol ynglŷn â sut y gallwn gyrraedd a thargedu'r cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd. Byddai buddsoddi cyflym yn ein cartrefi o fudd i bawb sy'n dlawd o ran tanwydd yn ogystal â sicrhau ein bod yn mynd i'r afael, yn rhannol, â'r argyfwng hinsawdd.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gefnogi'r cynllun hwn a gyflwynwyd gan Jack Sargeant. Diolch yn fawr, Jack, rydych chi'n dadlau dros bobl sydd mewn amgylchiadau anodd, ac rwy'n falch o allu cefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n gobeithio y cawn glywed gan y Gweinidog pa gamau y byddwn yn eu cymryd er mwyn mynd i'r afael, nid yn unig â'r mater y mae Jack wedi'i godi yn ei gynnig, ond â mater y rhaglen Cartrefi Clyd hefyd. Diolch yn fawr iawn.