Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 22 Mawrth 2023.
Mae llawer o bwyntiau gwych wedi'u gwneud yn y ddadl hon yn barod. Mae natur wrthnysig mesuryddion rhagdalu mewn sawl ffordd yn ddangoseb berffaith o wleidyddiaeth ddideimlad San Steffan a'r farchnad ynni anonest y cawn ein llethu ganddi yn y DU. Sut y cyraeddasom y sefyllfa hon, lle eid i mewn i gartrefi pobl heb ganiatâd ar raddfa ddiwydiannol i osod mesuryddion rhagdalu yn erbyn eu dymuniadau? I ychwanegu at y sarhad, byddai'r rhai ar fesuryddion rhagdalu yn talu llawer mwy am eu nwy a'u trydan yn y pen draw na rhywun sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y byddai miliwnydd yn talu llai fesul uned o nwy a thrydan nag y mae rhywun sy'n cael budd-daliadau, sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Sut yn y byd oedd hynny'n gyfreithlon?
Mae teuluoedd wedi bod yn oer y gaeaf hwn oherwydd y sgandal yma. Mae pobl hŷn wedi eistedd yn y tywyllwch oherwydd y sgandal yma. Mae pobl wedi marw oherwydd y sgandal yma. Mae hyn i gyd wedi bod yn digwydd tra bo'r cwmnïau ynni wedi bod yn gwneud elw digynsail, elw a wnaed ar draul pobl mewn gofid. Dyma un o'r enghreifftiau mwyaf brawychus o annhegwch o blith nifer y gallwn eu gweld yn y DU heddiw. Mae'n iawn ein bod yn trafod y mater hwn yn y Senedd heddiw, ac rwy'n canmol Jack am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr ac am ei waith ymgyrchu diflino ar y pwnc. Mae Plaid Cymru yn ei gefnogi'n llwyr wrth iddo roi sylw i'r anghyfiawnder y caniatawyd iddo barhau yn llawer rhy hir yn y sector ynni.
Er fy mod yn cefnogi cynigion Jack, rwy'n credu bod yna ddadl ehangach i'w chael am y ffordd y caiff pobl mewn dyled eu trin. Yn gynharach eleni, cyfarfûm â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, sy'n darparu goruchwyliaeth annibynnol ar feilïaid, ac fe wnaethant rannu straeon arswyd am y taliadau a godir ar bobl mewn dyled. Rwyf wedi sôn am yr achos hwn o'r blaen, ond mae'n werth ei ailadrodd. Cefais enghraifft o fenyw sy'n byw mewn tŷ cymdeithasol yng Nghasnewydd ac sy'n derbyn credyd cynhwysol a thaliadau annibyniaeth personol. Bu'n destun achos gorfodi yn yr Uchel Lys ar ran credydwr cyfleustodau. Gofynnodd i'r cwmni casglu dyledion a gâi drefnu cynllun rhandaliad, ond gwrthododd y cwmni gan fynnu eu bod yn ymweld â hi i weld a oedd ganddi unrhyw asedau y gallent eu hadfeddiannu. Yn ogystal â'r tâl o £75 a ychwanegwyd at ei dyled oherwydd y cam o'r orfodaeth a gynhaliwyd dros y ffôn, golygai hyn fod £190 arall wedi ei ychwanegu at ei dyled am yr ymweliad. Pe na bai wedi bod gartref adeg yr ymweliad cyntaf, byddai ail ymweliad wedi arwain at ychwanegu ffi gorfodi cam 2 yr Uchel Lys o £495.
Mae'r ffordd y mae pobl mewn dyled yn cael eu trin gan gwmnïau beilïaid yn ymdebygu i'r ffordd y mae pobl yn cael eu trin drwy gael mesuryddion rhagdalu wedi'u gorfodi arnynt gan gwmnïau ynni. Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru bellach yn ymgysylltu â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, a byddwn yn croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny. Gobeithio y gall y cyfarfodydd hyn arwain at fwy o reoleiddio er mwyn gwahardd cwmnïau diegwyddor rhag manteisio ar bobl mewn tlodi a pheri iddynt fynd i fwy fyth o dlodi. Diolch yn fawr.