Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch, Delyth. Mae gennyf lawer o gydymdeimlad â’ch dadl, gan fod hyn yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder amgylcheddol ac ati. Yr her sy'n ein hwynebu, fodd bynnag, yw nad oedd unrhyw beth—unrhyw beth, yr un geiniog—yn y gyllideb sydd newydd ei chyhoeddi am unrhyw gynnydd ar gyfer gwasanaethau bysiau. Mae grant bysiau Lloegr eisoes wedi mynd. Rydym wedi gweld effeithiau hynny. Mae gennym rywbeth yma yn tymor byr o leiaf. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i chi yw hwn: o ble y daw'r arian ar gyfer ei ymestyn am 18 mis, a faint fydd hynny'n ei gostio?