Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 22 Mawrth 2023.
Ie, a rwy'n meddwl mae hynna—. Mewn ffordd, rwy'n meddwl byddai'r ddau ohonoch chi efallai eisiau gweld yr un peth fan hyn, ac mae'r cwmnïau bysiau, yn enwedig y rhai bach, y rhai teuluol, yn gweld taw teithwyr sydd wrth galon y diwydiant hyn i gyd, a dyna pam dwi'n dweud dyw e ddim yn ddadl sydd dim ond am rywbeth oeraidd fel strwythurau; mae e hefyd am gynnal ffyrdd pobl Cymru o fyw. Ac efallai fod yn rhaid i ni edrych eto ar ein tueddiadau ni fel cymdeithas, ein hagweddau ni tuag at drafnidiaeth gyhoeddus, ac efallai fod hwnna'n plethu i mewn i beth mae Huw wedi bod yn gofyn amdano fe hefyd. Ond diolch am yr ymyriadau yna.
Nawr, bydd canslo gwasanaethau ar raddfa eang, fel rydyn ni newydd ei glywed, yn enwedig gwasanaethau sydd ddim yn fasnachol buddiol, bydd hynny’n gadael cymunedau ledled Cymru wedi eu hynysu. Dyna’r peth dwi rili yn poeni amdano fe yn fan hyn. Bydd e’n gadael pobl wedi eu hynysu, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yn y Cymoedd, neu’r rhai yng nghefn gwlad hefyd, lle oes gan bobl gymaint o ddewis ynglŷn â ffyrdd gwahanol o gyrraedd lle maen nhw eisiau ei gyrraedd. Mae’r pwynt wedi’i wneud o’r blaen—nid cerbydau yn unig ydy bysiau; maen nhw’n rhaff achub i bobl, llinynnau sy’n tynnu’n ynghyd ein cymunedau. Mae hwn yn gwestiwn ehangach na chludiant yn unig.
Mae ymchwil gan y cwmni First Bus yn awgrymu bod pobl yn dewis defnyddio bysiau am nifer o resymau gwahanol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o’r creisis costau byw, a’r creisis amgylcheddol. Mae 36 y cant yn defnyddio bysys er mwyn arbed arian, ac mae canran tebyg yn teimlo bod defnyddio’r bys yn helpu eu hiechyd meddwl. Ac mae chwant am hyd yn oed mwy. Dangosodd arolwg diweddar gan YouGov fod 90 y cant o boblogaeth yr ynysoedd hyn eisiau byw o fewn pellter 15 munud o gerdded i safle bws.
Nawr, mae gan fysys y potensial i chwarae rhan hyd yn oed yn fwy blaenllaw yn ein bywydau bob dydd, fel rydyn ni newydd fod yn ei drafod gyda Huw, gyda Rhun. Ond, heb sicrwydd ariannol i’r sector yn y tymor hir, bydd sgil-effeithiau yn cael eu teimlo gan y gweithlu, bydd sgil-effeithiau ar ddarpariaeth addysg, ac, wrth gwrs, ar ba mor fudr ydy’r aer o’n cwmpas, achos bydd mwy o bobl yn dewis defnyddio car. A methiant byddai hynny—nid yn unig methiant o ran polisi, ond methiant moesol ar ein rhan ni i gyd.
Y teithwyr, fel rwyf wedi'i ddweud, sydd wrth galon bysiau, y diwydiant, a fel rydyn ni’n ei wneud hyn yng Nghymru. Ac wrth gwrs, dydy’r rhwydwaith ddim yn berffaith—mae angen i’r Llywodraeth drafod yn helaeth gyda llywodraeth leol, gyda grwpiau teithwyr, TfW a phartneriaid eraill am ddyfodol ryddfreinio i sicrhau bod llais y cwmnïau bychain yn cael ei glywed, fod llais y teithwyr yn cael ei glywed.
Gwnaf i orffen, Llywydd, gyda chyfres o gwestiynau i’r Llywodraeth. Os ydy’r cynllun brys yn dod i ben ym mis Mehefin, pa gymorth ychwanegol bydd ar gael i’r teithiau yma sydd ddim yn fasnachol buddiol? Oes yna ddigon o arian ar gael trwy BES—neu ariannu gwahanol, fel roedd Huw, efallai, yn cyfeirio ato—i greu mecanwaith ariannu newydd sy’n fwy cynaliadwy? Ac ydy’r Llywodraeth yn credu bod dyddiad terfyn o ddiwedd mis Mehefin, ydych chi’n credu y byddai hynny’n caniatáu i’r diwydiant, llywodraeth leol ac ati—pob un o’r partneriaid—gynllunio ar gyfer y dyfodol? Achos dyna ydy’r her.
Mae’n flin gen i, Mabon, fy mod i wedi mynd ychydig drosodd, os na fyddwch chi’n cael cymaint o amser i ymateb i’r ddadl. Ond rwy’n edrych ymlaen at glywed gweddill y ddadl. Diolch.