Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 22 Mawrth 2023.
Dim ond yn fyr iawn. Ar yr union bwynt yna, gweithredu ar ran dyfodol ein cymunedau ni ydyn ni yn fan hyn. Mae gen i lythyr gan gwmni O.R. Jones o Ynys Môn. Ydyn, maen nhw'n galw am ymestyn yr arian yma ac am gael buddsoddiad hirdymor yn y bysys, maen nhw'n poeni am y swyddi fyddai'n cael eu colli pe na bai hyn yn digwydd, ond poeni maen nhw yn greiddiol am yr effaith ar gymunedau. Ydy'r Aelod yn cytuno bod y cwmnïau bysys eu hunain wirioneddol yn poeni am y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu?