Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 22 Mawrth 2023.
Yng nghwm Tawe, lle rwy'n byw, nid oes unrhyw drenau—dim o gwbl. Mae'r un peth yn wir am gymoedd cyfagos cwm Dulais, cwm Nedd a chwm Afan. Ac er bod rhai llwybrau beicio gwych, mae daearyddiaeth a thirwedd y cymoedd hyn yn gwneud teithio llesol yn fwy heriol nag mewn ardaloedd trefol eraill yng Nghymru. Maent yn ardaloedd sy’n gwbl ddibynnol ar fysiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. A hoffwn wneud y pwynt hwn yn gwbl glir, oherwydd weithiau, mae'r ddadl hon wedi'i fframio o amgylch poblogaethau gwledig yn erbyn poblogaethau trefol neu'r defnydd o drafnidiaeth reilffordd yn erbyn bysiau.
A ffactor arall yr hoffwn ei ychwanegu i'r gymysgedd, fel y gwnaeth Heledd Fychan yma, yw perchnogaeth ceir, neu'n hytrach, diffyg perchnogaeth ceir. Mae bysiau’n gwasanaethu pobl heb geir, ac mae gan gymunedau’r Cymoedd rwy'n eu cynrychioli yng Ngorllewin De Cymru lefelau perchnogaeth ceir sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Yn syml, mae prynu a rhedeg car yn anfforddiadwy, ac felly, y bws yw’r unig ddewis—yr unig ffordd y gall llawer o bobl o bob oed gael mynediad at waith, addysg, gofal iechyd, siopau, gweithgareddau hamdden a chymdeithasol. Felly, os ydych yn byw yn yr ardaloedd hyn a heb fod yn berchen ar gar, mae sut y gallwch symud o le i le eisoes yn gyfyngedig. Ac mae nifer y cwynion a gaf am doriadau i wasanaethau sydd eisoes yn wasanaethau sgerbwd yn enfawr, a hoffwn rannu rhai ohonynt gyda chi, gan mai'r ddadl hon yw'r lle priodol i'r bobl hyn leisio'u barn, fel y mae llawer o Aelodau wedi'i ddweud.
Dywedodd un fenyw 37 oed wrthyf ei bod yn dibynnu’n llwyr ar wasanaethau bws. Roedd yn arfer defnyddio’r bws i fynd i’r gwaith bob dydd: un bws o’i phentref yng nghwm Nedd i Gastell-nedd ac yna un o Gastell-nedd i’w gweithle ychydig y tu allan i Bort Talbot. Ond arweiniodd oedi cyson at golli ei chysylltiad, a chyrraedd y gwaith yn hwyr. Nid yw'n gweithio yno mwyach. Mae toriadau diweddar i fysiau a llai o wasanaethau yn y Cymoedd wedi golygu, pe bai’n dal i gael ei chyflogi yno, y byddai taith a oedd eisoes yn cymryd dros awr yn cymryd mwy fyth, a hynny os yw'r bws yn dod o gwbl. Gan ei bod yn chwilio am waith ar hyn o bryd, dywed fod rhaid iddi ystyried lefelau presennol o wasanaeth wrth ystyried cyfleoedd, sy'n cyfyngu ar y swyddi y gall ymgeisio amdanynt.
Mae menyw arall, y mae ei hiechyd yn dirywio, yn defnyddio car ar hyn o bryd, ond yn poeni na fydd yn gallu gyrru cyn bo hir, a dywed ei bod yn poeni'n fawr am heneiddio yn ei chymuned. Dywedodd gwraig sy'n byw yng Ngodre'r-graig wrthyf fod y gwasanaeth eisoes yn wael. Mae'n teimlo y byddai'n cael ei thorri i ffwrdd yn llwyr pe bai unrhyw doriadau pellach i wasanaethau. Mae'n bryderus iawn am ei mab, sydd i fod i ddechrau yng ngholeg Castell-nedd ym mis Medi. Byddai colli gwasanaeth yn golygu na fyddai'n gallu mynychu. Mae ei chwaer yn gweithio yn Ysbyty Treforys. Nid yw'n gyrru, ac mae gwasanaethau bws rheolaidd a dibynadwy yn hanfodol i'w gwaith.
Ac nid cymunedau’r Cymoedd yng Ngorllewin De Cymru yn unig mo hyn. Cymuned yng Nghastell-nedd yw Dyffryn Clydach, ond mae ar fryn hir, serth—hir iawn. Mae llawer o drigolion wedi dweud wrthyf yno eu bod yn teimlo eu bod wedi'u torri i ffwrdd yn llwyr ar y penwythnos am nad oes bws ar ddydd Sadwrn, ac felly ni allant fynd i ganol y dref yng Nghastell-nedd hyd yn oed, i fynd i siopa neu i gyfarfod â phobl oherwydd diffyg bysiau.
Ond os yw bysiau'n achubiaeth, mae cost tocynnau hefyd yn rhwystr yn aml, a chredaf fod hyn hefyd yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ystyried. Dywed mam o Gastell-nedd ei bod yn cael trafferth gyda chost y tocyn os oes angen iddi fynd i hebrwng ei phlentyn o'r ysgol os yw'n sâl neu os oes ganddynt ymarfer ar ôl ysgol.
Felly, nid yw cyflwr echrydus gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd fel fy un i yn ddim byd newydd. Gwasanaethir Gorllewin De Cymru yn bennaf gan First Cymru, gyda nifer o lwybrau'n cael eu gwasanaethu gan South Wales Transport, Adventure Travel a Stagecoach. Er bod llawer o'r gwasanaethau rhwng y prif ardaloedd trefol, Pen-y-bont ar Ogwr, Port Talbot, Castell-nedd ac Abertawe, yn cael eu rhedeg ar sail fasnachol ac yn cael llawer o ddefnydd, mae gan lawer o ardaloedd y Cymoedd lai o wasanaethau, fel y nodais. Ac yng nghwm Tawe a chwm Aman yn enwedig, mae gwasanaethau’n hynod dameidiog ac anfynych. Gall taith 15 munud mewn car gymryd ymhell dros awr ar fws, a hyd yn oed yn fwy ar brydiau. Ac fel y dywedais, ceir llawer o leoedd lle nad oes unrhyw wasanaethau ar y penwythnos, neu wasanaethau penwythnos cyfyngedig iawn. A gall argaeledd bysiau gyda'r nos olygu na fydd pobl yn gallu mynychu digwyddiadau ar ôl 6 p.m. neu gyrraedd adref, fel y soniodd Huw, ar ôl gwaith shifft. Bydd unrhyw doriadau i wasanaethau bysiau yn gwaethygu'r anawsterau hyn, gan gyfyngu ar symudedd mwy fyth o bobl.
Yn ystod gwyliau haf 2021, lansiodd Cyngor Abertawe eu menter bysiau am ddim. Ers y treial cychwynnol hwnnw, mae wedi cael ei ailadrodd sawl gwaith yn ystod gwyliau ysgol. Mewn gohebiaeth â’r cyngor, yn gofyn a oeddent wedi gwerthuso hyn a’i effaith, dywedwyd wrthyf fod tystiolaeth anecdotaidd o arolwg cwsmeriaid a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr y llynedd yn nodi na fyddai 25 y cant o’r bobl sydd wedi defnyddio’r cynllun wedi teithio fel arall. Er ei bod yn amlwg fod y cynllun yn boblogaidd ac wedi arbed arian i bobl pan oedd yn weithredol, dywedodd Cyngor Abertawe fod natur y fenter wedi'i gwneud yn anodd asesu'r effeithiau mwy hirdymor. Gyda chynlluniau tebyg yn cael eu gweithredu neu eu harchwilio mewn rhannau eraill o’r wlad, pa ymdrechion y mae’r Llywodraeth yn eu gwneud, ar y cyd â gweithredwyr gwasanaethau ac awdurdodau lleol, i fonitro a dadansoddi effaith fwy hirdymor y cynlluniau hyn ar niferoedd teithwyr? O ystyried mai un o’r problemau sy’n wynebu’r sector bysiau yw llai o deithwyr, oni ddylem edrych ar yr effaith y gall ymyriadau fel hyn ei chael ar nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau, ac archwilio ffyrdd y gellir eu cyflwyno ar raddfa fwy os ceir tystiolaeth eu bod yn llwyddiannus wrth annog pobl i newid dulliau teithio?
Yn y cyfamser, mae pobl fel y rheini sy'n byw yng nghwm Tawe, cwm Nedd, cwm Dulais a chwm Afan yn teimlo bod pawb wedi anghofio amdanynt, yn ddiwerth ac yn bryderus. Nid ydynt yn deall pam fod rhai ardaloedd yn cael bysiau a threnau newydd sgleiniog, a'r sôn cyson am Gymru wyrddach, lanach yn y lle hwn, pan fydd y cymunedau y maent yn byw ynddynt yn cael eu gadael ar ôl. Lywydd, mae'n rhaid dod o hyd i ateb, ac rwy'n awyddus iawn i glywed pa gamau y gall y Llywodraeth eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, gan fod angen iddynt fynd i'r afael â hyn.