2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2016.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gloddio glo brig yng Nghymru? OAQ(5)0043(FM)
Mae materion difrifol, fel y bydd hi'n gwybod, wrth gwrs, yn ymwneud â chloddio glo brig ac adfer safleoedd. Gwyddom, yn 1994, na wnaeth Llywodraeth y DU ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr neilltuo digon o arian ar gyfer adfer, ac felly mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb moesol i weithio gyda ni i sicrhau bod safleoedd yn cael eu hadfer.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Byddwch yn gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ddiweddar wedi cymeradwyo gwaith adfer rhannol o ardal glo brig Margam. Ond, wrth gwrs, adfer rhannol yw hwnnw, ac mae llawer o'r trigolion yno yn pryderu am y dyfodol a'r gwagle nad yw’n cael ei adfer, a hefyd, gan ei fod yn nwylo Celtic Energy, i’r gwaith adfer llawn hwnnw gael ei wneud. Roeddwn yn meddwl tybed a allech chi roi ymrwymiad inni yma heddiw, Brif Weinidog, er nad yw hynny'n rhan o'r cynllun, o ran y gwagle, a allech chi geisio dod â phobl at ei gilydd i edrych i adfer hwnnw yn y pen draw, oherwydd rwy’n credu bod pobl yn pryderu, yn enwedig gan fod pobl allweddol yn y cyngor hefyd yn bryderus bellach ynghylch sut y bydd yn cael ei adfer os bydd unrhyw broblemau llifogydd o fewn y gwagle hwnnw.
Wel, rwyf yn cytuno â'r pryder y mae hi’n ei fynegi. Bydd hi'n gwybod bod effaith ar fy etholaeth innau hefyd. Yn 1994, pan ddigwyddodd y preifateiddio, cafodd y cwmnïau hynny a gymerodd drosodd hen safleoedd Glo Prydain eu heithrio'n benodol rhag bod yn ofynnol iddynt roi arian o'r neilltu ar gyfer gwaith adfer, a dyma pam yr ydym ble yr ydym ni heddiw. Rydym yn croesawu adfer rhannol, ond nid yw'n adfer llawn, ac mae'n rhaid cael gwaith adfer llawn mewn amser. O gofio'r ffaith mai Llywodraeth y DU a greodd y broblem hon, nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod ganddynt gyfrifoldeb i weithio gyda ni er mwyn datrys y broblem.
Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ym mhob rhan o’r Siambr yn falch o groesawu gyda mi y ffaith i’r cais glo brig yn y Farteg, yn fy etholaeth i, gael ei dynnu'n ôl. Ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd y DU, a wahoddais i ymweld â'r safle y llynedd, ac i Cadw, am eu gwrthwynebiadau, a arweiniodd at i'r cais gael ei dynnu'n ôl. Ond, wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf o gymunedau yn gallu dibynnu ar gamau diogelu o ganlyniad i fod mewn Safle Treftadaeth y Byd ac mae angen iddynt ddibynnu arnom ni fel Cynulliad Cenedlaethol a'r camau diogelu yr ydym ni yn eu rhoi iddynt. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd yr adolygiad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2 yn cael ei ddwyn ymlaen fel mater o flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru?
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod bod adolygiad â phwyslais o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2 wedi ei gyhoeddi gan y Gweinidog cyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar orsafoedd pŵer glo, a bydd yr adolygiad hwnnw, wrth gwrs, yn mynd yn ei flaen, gan ein bod yn gwybod ei bod yn bwysig bod y canllawiau cynllunio mor gyfredol â phosibl.
Brif Weinidog, bydd yr Aelodau'n gwybod bod y cynlluniau adfer rhannol ar gyfer Parc Slip yn eithaf amhoblogaidd, ac ni fyddai neb ohonom am weld yr hanes y tu ôl i hynny’n cael ei ailadrodd. Ond roeddem yn sôn am hyn yn eithaf manwl dros flwyddyn yn ôl bellach. Mae'r awdurdod lleol yn honni’n gryf nad oes dewis arall i'r cynlluniau. Felly, a yw hysbysiad gohirio Llywodraeth Cymru o fis Ebrill eleni—blwyddyn gyfan yn ddiweddarach—yn arwydd o, efallai, achos cyntaf ac efallai bod dewis arall i’r hyn sy'n cael ei awgrymu gan Gastell-nedd Port Talbot, ac, os nad oes, pa derfynau amser statudol sy’n atal Llywodraeth Cymru rhag cynnig yr hysbysiad gohirio hwnnw yn gynharach?
Yr anhawster yn y safle, wrth gwrs, yw bod y safle ar hyn o bryd yn nwylo cwmni nad yw, mewn gwirionedd, yn bodoli. Mae wedi ei gofrestru yn Ynysoedd Virgin Prydain, a phe byddai camau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn ei erbyn, nid oes gennyf unrhyw ffydd y byddai’r sefydliad yn parhau i fodoli, gan adael neb, fel y mae hi’n gwybod, y gellir cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn. Yn fy marn i, mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn cydnabod ei chyfrifoldebau. Ni chrewyd hyn gan Lywodraeth bresennol y DU, ond gan Lywodraeth y DU yn 1994. Nid oes amheuaeth bod y swm o arian yr ydym yn sôn amdano yma, dim ond i adfer un safle yn llawn ym Mharc Slip, yn enfawr. Ni all fod yn rhesymol i ddisgwyl i'r awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru dalu costau llawn y gwaith adfer hwnnw.