<p>Siaradwyr Cymraeg</p>

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chynllun y Llywodraeth i gynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru? OAQ(5)0046(FM)[W]

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 14 Mehefin 2016

Mae sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru yn parhau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau, wrth gwrs, i weithredu’r blaenoriaethau a nodir yn ‘Bwrw Mlaen’, gyda ffocws ar gynyddu defnydd o’r iaith gan bobl, ynglŷn â sicrhau ein bod yn gwella cynllunio a datblygu’r seilwaith drwy dechnoleg a safonau a chynyddu addysg Gymraeg.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:14, 14 Mehefin 2016

Diolch. Rwy’n falch o glywed hynny, ond roedd eich maniffesto chi yn gosod targed o 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050—rwy’n siŵr eich bod chi’n cytuno â hynny, ac mae hynny’n wych o beth, ac rwy’n eich longyfarch chi am osod y ffasiwn darged, sy’n golygu, 34 mlynedd o rŵan y bydd gennym ni ddwbl nifer y bobl sydd gennym ni ar hyn o bryd yn siarad Cymraeg, ond sut ydych chi’n mynd i symud ymlaen i wneud hynny, beth ydy’r camau gweithredol, ac ar beth yn union fyddwch chi’n canolbwyntio, a beth ydy’r amserlen ar gyfer y gweithredu? A fyddech chi’n cytuno â mi ei bod hi’n ymddangos i’r cyhoedd nad yw’r uchelgais gwleidyddol yno, o gofio eich bod chi, rŵan, wedi symud y Gymraeg allan o’r Cabinet? Mae yna Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg; nid wyf yn amau dim am ei ymroddiad o a’i arddeliad o ynglŷn â’r Gymraeg, ond nid yw, yn ganolog, yn rhan o’r Cabinet erbyn hyn, felly mae rhywun yn amheus o’r uchelgais yma erbyn hyn. A ydych chi’n cytuno efo fi ynglŷn â hynny a sut ydych chi’n mynd i symud pethau ymlaen? Sut ydych chi’n mynd i fy argyhoeddi i bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth yma?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 14 Mehefin 2016

Mae’r Gymraeg yn flaenoriaeth i fi, wrth gwrs, fel rhywun sy’n dod o deulu sy’n hollol Gymraeg ei iaith a rhywun sydd â phlant mewn ysgol Gymraeg. Felly, mae hynny’n rhywbeth sydd yn ffynnu ar draws Llywodraeth, er bod yna Weinidog, wrth gwrs, sydd â chyfrifoldeb unigol dros yr iaith. Fe fydd yna ddatganiad cyflawn yn ystod wythnos yr Eisteddfod ynglŷn â’r manylion am ba ffordd rŷm ni’n mynd i symud ymlaen. Ond, wrth gwrs, mae sicrhau bod mwy o addysg Gymraeg ar gael yn bwysig dros ben. Mewn rhai mannau o Gymru, mae’n anodd i fynd i ysgolion Cymraeg, yn enwedig ysgolion cyfun Cymraeg, sydd, efallai, yn bell o ble mae pobl yn byw. Mae’n rhaid i hynny newid dros y blynyddoedd a dyna pam, wrth gwrs, mae cynlluniau gan awdurdodau lleol i sicrhau bod hynny’n digwydd—ac, wrth gwrs, i sicrhau bod canolfan genedlaethol newydd sydd yn mynd i helpu ffynnu Cymraeg i oedolion yn gweithredu’n effeithiol yn y pen draw. Ond fe fydd yna ddatganiad cyflawn yn ystod mis Awst.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:16, 14 Mehefin 2016

A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddymuno’n dda i ganolfan iaith Tŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe yn fy etholaeth i, sydd newydd lansio gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru? A yw’n cytuno bod rôl sylfaenol i ganolfannau iaith i ddatblygu’r galw yn ein cymunedau am wasanaethau cyhoeddus a busnes wedi’u darparu trwy’r Gymraeg?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

Rwy’n croesawu’n fawr iawn agoriad y ganolfan ei hun—rydym wedi buddsoddi yn y ganolfan. Mae cwm Tawe yn ardal sydd wedi mynd o ardal a oedd yn ardal mwyafrif Cymraeg i ardal lle mae’r Gymraeg yn tueddu i gael ei siarad nawr ar ben y cwm—mewn 30 o flynyddoedd, byddwn i’n dweud, sy’n gwymp sylweddol. Mae’n bwysig dros ben, felly, ein bod yn gallu sicrhau bod yna fywoliaeth i’r Gymraeg islaw Ystalyfera tuag at Ynysmeudwy a Phontardawe, i lawr i Glydach ac ymhellach, er mwyn sicrhau bod yr etifeddiaeth Gymraeg yn yr ardal yn cael ei hailfywhau.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:17, 14 Mehefin 2016

Brif Weinidog, yn ôl yr arolwg defnydd iaith 2013-15, a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth ddiwethaf chi, dangoswyd mai dim ond rhyw 50 y cant o bobl yn sir Benfro, a ofynnwyd, a oedd yn credu bod busnesau’n gefnogol o’r iaith Gymraeg. Yn sgil y ffigwr yma, beth mae’ch Llywodraeth newydd chi’n bwriadu ei wneud i sicrhau bod busnesau’n cael mwy o gefnogaeth er mwyn hybu’r iaith Gymraeg?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

Mae yna brosiect peilot wedi cymryd lle yn nyffryn Teifi er mwyn sicrhau bod busnesau’n gweld nad yw’n anodd dros ben i sicrhau bod yna wasanaeth Cymraeg ar gael, a hefyd i weld bod hwn yn rhywbeth sydd o les iddyn nhw’n fasnachol, er mwyn eu bod yn gallu gweithredu gwasanaeth i bobl sydd eisiau defnyddio’r Gymraeg a phobl sy’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod yna wasanaeth ar gael. Felly, byddwn ni’n ystyried canlyniadau’r prosiect hynny i weld ym mha ffordd y gallwn sicrhau bod busnesau’n gweld ei bod yn fantais masnachol iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg yn eu busnesau nhw.