– Senedd Cymru am 2:21 pm ar 14 Mehefin 2016.
Datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Rwy’n galw ar Jane Hutt.
Bu nifer o newidiadau i'r datganiad busnes ar gyfer busnes yr wythnos hon, Lywydd. Mae busnes heddiw, erbyn hyn, hefyd yn cynnwys datganiadau llafar am wneud cynnydd ar ein llwyddiant ailgylchu ar gyfer economi gylchol, prentisiaethau yng Nghymru, wythnos wirfoddoli ac adroddiad ar weithgor y Gymraeg a llywodraeth leol. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ad-drefnu dadleuon prynhawn yfory. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yn y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i’w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar yr ymgynghoriad 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', a ddaeth i ben ychydig cyn y diddymu? Mae'r ddogfen yn ymdrin ag ystod eang o faterion iechyd meddwl pwysig, ond y cynigion ynglŷn â gwlad sy’n ystyrlon o ddementia yr wyf yn dymuno canolbwyntio arnynt. Ar ôl arwain y ddadl fer ym mis Ionawr yn galw am strategaeth genedlaethol, gynhwysfawr i Gymru ar gyfer dementia, sydd wedi ei hadnoddu’n llawn, ymatebais i'r ymgynghoriad gan adleisio’r nodau a’r camau gweithredu y credaf sydd yn hanfodol: hyfforddiant ar ddementia, gweithwyr cymorth, ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, i enwi ond ychydig. O gofio bod yr ymgynghoriad hwn wedi cau erbyn hyn a bod Llywodraeth a Gweinidog newydd ar waith, byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad i roi diweddariad ar y cynnydd hyd yn hyn, gan nodi blaenoriaethau ac amserlenni wrth symud ymlaen.
Credaf fod Lynne Neagle wedi codi'r materion hyn yn gyson ac wedi chwarae rhan lawn o ran ymateb i'r ymgynghoriad, gan ei ystyried yng nghyd-destun 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', y cynllun cyflenwi. Wrth gwrs, fel y dywedwch, mae’r ymgynghoriad ffurfiol wedi cau bellach. Felly, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu cynllun gweithredu strategol newydd i Gymru ar gyfer dementia, gan weithio'n agos â rhanddeiliaid allweddol. Bydd fersiwn derfynol y cynllun cyflenwi hwnnw yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Hoffwn i godi dau fater gyda chi, a gobeithio y bydd modd i’r Llywodraeth ymateb mewn datganiad i’r materion hyn.
Yn gyntaf oll, wrth gwrs, rydym heddiw yn nodi’r gyflafan a fu yn Orlando gyda munud o dawelwch yn y Siambr hon, ac roedd yn briodol, hefyd, gweld bod baneri’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ar eu hanner ddoe a heddiw, a baner enfys yn eu plith, wrth gwrs. A fedrwn ni, felly, gael datganiad pellach gan y Llywodraeth parthed ei pholisi cyhwfan baneri? Fe gofiwch, efallai, imi godi hwn ddiwethaf gyda chi adeg y bu Llywodraeth Cymru yn cyhwfan baneri ar eu hanner i nodi marwolaeth Brenin Saudi Arabia, digwyddiad a oedd i mi yn dwyn sarhad a sen ar bobl Cymru. Addawyd gan y Prif Weinidog bryd hynny y byddai adolygiad o’r polisi yn dilyn ac yn hytrach na dilyn yn slafaidd gyngor y weinyddiaeth dramor, y byddai Llywodraeth Cymru yn datblygu ei pholisi ei hun. Beth, felly, yw canlyniad yr adolygiad hwnnw? A gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog i esbonio’r canllawiau sy’n cael eu defnyddio bellach gan y Llywodraeth i benderfynu pryd i arddangos eu lliwiau, yn llythrennol?
Yr ail gwestiwn yr hoffwn ei godi gyda chi yw bod y Cynulliad hwn, wrth gwrs, ag enw arloesol ym maes deddfu a seneddu, os caf i fathu term, yn y ddwy iaith, a’r Llywodraeth yn dilyn. Roedd yn siom, felly, imi weld bod Chris Grayling, arweinydd y Tŷ arall, wedi gwrthod galwadau ar gyfer gwneud defnydd o’r Gymraeg yn uwch-bwyllgor Cymreig y lle hwnnw—galwadau a oedd wedi cael eu harwain, i fod yn deg, gan Chris Bryant. Mae modd defnyddio’r Gymraeg yn y pwyllgor hwnnw os yw’n cyfarfod yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod hynny achos rwyf i wedi ei wneud e fy hunan yng Nghwmbrân rai blynyddoedd yn ôl, ac mae’n hen bryd i ganiatáu’r un peth pan fo’r pwyllgor yn cyfarfod yn Nhŷ’r Cyffredin ei hunan. A oes modd, felly, i chi, fel y prif reolydd busnes yn y Cynulliad yma, arwain y ffordd i gynnig cymorth ymarferol i Dŷ’r Cyffredin i ddod dros y rhagdybiaethau sydd ganddynt yno yn erbyn defnyddio’r Gymraeg, cynnig cyngor gan y Llywodraeth i gyflawni hynny ac adrodd nôl yn y ffordd briodol i’r lle hwn?
Diolch yn fawr, Simon Thomas. Yn sicr, o ran eich pwynt cyntaf, credaf fod gwerth mewn treulio eiliad i gydnabod y trychineb a'r gyflafan yn Orlando a'r ffaith ein bod wedi dwyn ynghyd llawer o bobl ddoe y tu allan i'r Senedd—aelodau a chefnogwyr y gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, pobl o wahanol grefyddau, gan uno Cymru â chenhedloedd eraill i ddangos cryfder ac undod i bawb sydd wedi eu heffeithio gan yr ymosodiad trasig a hynod drist yn Orlando. Wrth gwrs, roeddem yn gallu cael y munud o dawelwch hwnnw, yn briodol iawn, ar ddechrau'r sesiwn hon heddiw. Fel y dywedasoch, mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd yn adolygu'r polisi hwnnw, ac rwy'n sicr yn hapus i ddilyn yr un trywydd. Roedd yn dda iawn gweld y faner enfys gyda'r ddraig goch, a chydnabyddiaeth o hynny yn y ffordd y gwnaethom ni fel Cynulliad gyd-dynnu i ddangos ein cefnogaeth. Credaf y gwerthfawrogwyd hynnny yn fawr iawn neithiwr. Ond byddwn hefyd yn dweud, wrth gwrs, bod hyn yn ymwneud â sut mae Llywodraeth Cymru, y Cynulliad a Stonewall Cymru yn gweithio mor agos â'i gilydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol.
Rwyf eisiau dweud, ynglŷn â’ch ail bwynt, fy mod innau hefyd yn siomedig iawn. Byddaf yn sicr yn hapus, nid yn unig i fynd at Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, ond hefyd i weithio gydag arweinydd yr wrthblaid, Chris Bryant, ar y mater hwn. Unwaith eto, nid yn unig y mae’n peri siom, mae'n amharchus hefyd o ran yr Uwch Bwyllgor Cymreig, nid yn unig o ran yr hawliadau a’r hawliau hynny, ond hefyd o ran y parch tuag at y ffordd yr ydym ninnau yma, wrth gwrs, yn cydweithio gyda'n dwy iaith.
Arweinydd y tŷ, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig gyflwyno datganiad yn egluro dull newydd Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â TB buchol. Fel y dywedwyd eisoes yn y Siambr hon heddiw, mae ystadegau swyddogol y Llywodraeth, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos y bu cynnydd enfawr o 78 y cant o un flwyddyn i’r llall yn nifer y gwartheg a laddwyd yn Sir Benfro o ganlyniad i TB buchol. Nawr, yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf, dywedasoch, mewn ymateb i'r Aelod dros Ogledd Cymru, mai mater i Ysgrifennydd y Cabinet fydd hwn o ran un o'i hystyriaethau cynnar o’r sefyllfa. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi atal y rhaglen frechu, mae'n eithaf amlwg nad oes gan y Llywodraeth bolisi cyfredol i ddileu TB buchol. O dan yr amgylchiadau, a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gyflwyno datganiad ar y mater hwn cyn gynted ag y bo modd, fel y gall ffermwyr Cymru ddeall yn union sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â TB buchol mewn gwirionedd?
Paul Davies, rwyf i’n hapus iawn i ailadrodd, rwy'n siŵr, yr un geiriau a ddefnyddiais yr wythnos diwethaf o ran cwestiynau ynglŷn â’r datganiad busnes: mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet, i gyflawni’r dull hwnnw ar sail gwyddoniaeth o ddileu TB buchol. Mae ein rhaglen gynhwysfawr i ddileu TB—sef ein polisi, dan arweiniad Llywodraeth Cymru—yn cynnwys profi gwartheg yn flynyddol, mesurau bioddiogelwch llym a rheolaethau symud. Nod y dull hwn, wrth gwrs, yw mynd i'r afael â holl darddiadau'r haint. Rwyf unwaith eto yn ailadrodd yr ystadegau hynny: rhwng mis Mai 2011 a mis Tachwedd 2015—dyna’r cyfnod diweddaraf y mae gennym ganlyniadau ar ei gyfer—gwelwyd gostyngiad o 19 y cant yn y duedd mewn achosion newydd o TB yng Nghymru. Nid oes unrhyw arwydd y bydd y mater o gyflenwi’r brechlyn BCG yn cael ei ddatrys yn y tymor byr. Wrth gwrs, pan fydd ar gael, byddwn yn penderfynu ar y ffordd ymlaen o ran brechu yng Nghymru, ac yn parhau i weithredu'r polisïau. Daeth Gorchymyn TB newydd i rym ar 1 Ebrill, gan newid y ffordd o ddigolledu ffermwyr ar gyfer gwartheg a laddwyd oherwydd TB, a nod y newidiadau hynny yw lleihau'r risg o ledaenu’r clefyd drwy annog arfer gorau, ac mae hynny’n dilyn ymgynghoriad llawn â'r diwydiant. Wrth gwrs, mae'n fater o drafod â'r gymuned ffermio, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud hyn, er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'n hymrwymiad o ran ein dull cadarnhaol yn ein rhaglen i ddileu TB.
Hoffwn ddiolch i Weinidog Busnes y Llywodraeth am ei datganiad. Mae gennym bum datganiad heddiw—pedwar ohonynt sydd newydd eu cyhoeddi. Roeddwn i’n meddwl tybed a yw nifer y datganiadau yn adlewyrchu'r ffaith ein bod wedi cael toriad, bod Gweinidogion wedi eu penodi yn ddiweddar ac efallai ei bod yn ymgynefino yn dilyn yr etholiad, a bod mwy o ddatganiadau nag y byddai rhywun fel arfer yn eu disgwyl, neu a wnaed penderfyniad penodol, gyda'r ddeddf hunanymwadiad ar ddeddfwriaeth ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf, rwy’n credu, i ddefnyddio’r cyfle i ddefnyddio amser y Llywodraeth i gyflwyno datganiadau ar ystod ehangach o faterion nag a fyddai'n arferol, efallai?
Mark Reckless, rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu'r ffaith bod datganiadau llafar gan nifer o Ysgrifenyddion y Cabinet heddiw. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a’n Hysgrifenyddion y Cabinet yn cael y cyfle i roi diweddariad i'r Cynulliad. Wrth gwrs, mae cwestiynau ynglŷn â fy natganiad o’r Pwyllgor Busnes bob amser yn codi materion eraill yr wyf yn gwybod yr hoffech i Ysgrifenyddion y Cabinet wneud datganiadau arnynt, ac, wrth gwrs, byddant yn ymddangos maes o law. Mae hwn yn gyfle, ac rwy'n siŵr y bydd y datganiad y prynhawn yma yn cael ei graffu yn drylwyr ar draws y Siambr.
Mae angen sylweddol yng Nghymru am dai o ansawdd da, yn enwedig yn Nwyrain Abertawe. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog sydd â thai yn rhan o'i bortffolio ar sut mae’n bwriadu cynyddu nifer y tai cymdeithasol a chydweithredol sydd ar gael, gan gynnwys cymorth i gynghorau fel Abertawe i adeiladu tai cyngor newydd?
Wel, gwn fod y Gweinidog, gyda chyfrifoldebau blaenorol am dai mewn portffolios blaenorol, yn ymrwymedig iawn, iawn i ddatblygu buddsoddiad, nid yn unig mewn tai cymdeithasol, ond hefyd yn y ffyrdd mwy arloesol o ddarparu tai cymdeithasol drwy'r dull cydweithredol. Wrth gwrs, bu cynlluniau arbrofol a dreialwyd gan y cyn Weinidog â’r cyfrifoldeb hwn, sef Lesley Griffiths, o ran tai cydweithredol fel un llwybr at ffyrdd y gallwn ddarparu’r tai fforddiadwy hynny, gyda ffyrdd newydd o allu eu rheoli hefyd.
Galwaf am ddatganiad unigol ar gymorth i gyn-filwyr lluoedd arfog Cymru, yn dilyn yr adroddiad 'Galw i Gof: Cymru', a gyhoeddwyd ar ddechrau'r mis hwn, a ddangosodd fod angen gwneud llawer mwy i gefnogi anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr yng Nghymru. Rhan fechan iawn yn unig o'r 10,000 o gyn-filwyr yr amcangyfrifir sydd yn byw â salwch meddwl o ryw fath yng Nghymru, sy’n cael eu hatgyfeirio i GIG Cymru. Comisiynwyd yr adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Forces in Mind, ond yr oedd yn seiliedig ar gyfweliadau â chyn-filwyr a'u teuluoedd a phobl sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol ac annibynnol. Roedd yr adroddiad yn galw am fwy o allu gan GIG Cymru i ymdrin â chyn-filwyr; cynyddu data i lywio, comisiynu a darparu gwasanaethau; gwneud mwy i gefnogi teuluoedd a gofalwyr; ac amlygodd y gwaith sydd ei angen i symud ymlaen ac i nodi'r angen am gyfranogi, cydgysylltu a gweithredu gyda phobl yn y lluoedd arfog, sy’n gwasanaethu ac/neu’n trosglwyddo i fywyd fel sifiliaid, ac yn cynnig y dylid rhoi ystyriaeth i anghenion iechyd meddwl ac anghenion iechyd cysylltiedig cyn-filwyr ac aelodau o'r teulu yn y ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf, megis y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Felly, a gaf i alw am ddatganiad? Mae angen datganiad arnom sy’n rhoi manylion am gynigion Llywodraeth Cymru a chynigion y Gweinidog iechyd newydd i wneud asesu anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr Cymru, a darparu ar eu cyfer, yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth Cymru hon.
Bydd y Llywodraeth Cymru hon yn falch iawn o ddarparu’r datganiad hwnnw, Mark Isherwood. Wrth gwrs, fel y dywedwch, er bod hyn dan arweiniad y Gweinidog cymunedau a phlant, bydd hefyd yn cynnwys Gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog iechyd, ac mae'n rhoi cyfle priodol i mi ymateb heddiw, wrth ateb y cwestiwn hwnnw ar y busnes datganiad, y byddwn ni’n llunio datganiad, fel y gwnaethoch alw amdano.
Hoffwn ofyn i arweinydd y tŷ am bwynt o arfer ynghylch cyhoeddi datganiadau i wrthbleidiau cyn iddynt gael eu darllen yn y Siambr hon. Gwerthfawrogaf y cwrteisi yn hyn o beth, ac mae'n bwysig, yn fy marn i, y dylai trafodaeth a chraffu fod yn ddeallus, er mwyn i’r trafod a’r craffu hwnnw fod ar ei orau. Heddiw, derbyniais gopïau o'r datganiadau hyn am 13:20, felly ni roddodd hynny unrhyw amser o gwbl i'w darllen cyn dod yma i'r Siambr. Rwy’n sylweddoli nad yw datganiadau heddiw yn ddadleuol iawn, ond daw amser pan fyddant yn ddadleuol, pan fyddai angen ychydig o waith ymchwil er mwyn ymateb iddynt yn briodol. Felly, rwy'n gofyn a wnaiff arweinydd y tŷ sicrhau heddiw, y bydd Llywodraeth Cymru, yn y dyfodol, yn rhoi rhybudd priodol o ddatganiadau i wrthbleidiau, er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer y drafodaeth.
Wel, rwy'n hapus iawn i ddarparu eglurhad i arweinydd UKIP, Neil Hamilton, o sut yr ydym yn llwyddo i wneud hyn, sut yr ydym wedi llwyddo i wneud hyn yn y Senedd hon, ac i gynnig pob cwrteisi i chi, fel y gwnaf i bob rheolwr busnes. Mae copïau caled o'n datganiadau llafar yn cael eu dosbarthu i reolwyr busnes y pleidiau drwy eu swyddfeydd, mor agos at 1 o'r gloch ar ddiwrnodau y Cyfarfod Llawn ag y bo modd—rwy'n credu y bydd rheolwyr busnes yn cydnabod hynny—ac mae’n rhaid iddynt, yn amlwg, gael eu cymeradwyo gan Weinidogion. A swyddogaeth rheolwyr busnes unigol yw rhoi’r copïau hynny o'r datganiadau i'r llefarwyr perthnasol yn eu pleidiau. Felly, yn unol â hynny, gwn y cafodd y copïau caled eu rhoi i Mark Reckless, yn unol â'r arfer sefydledig a hir-sefydlog hwnnw. Ond, wrth gwrs, caiff copïau electronig o'r datganiadau llafar wedyn eu hanfon drwy e-bost at yr holl Aelodau, pan fydd y Gweinidog wedi dechrau eu cyflwyno. Rwy’n gobeithio y bydd hynny, unwaith eto, yn parhau yn unol ag arfer arferol.
Diolchaf i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Croesawodd y Llywodraeth yn y pedwerydd Cynulliad gasgliadau ac argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, dan gadeiryddiaeth Andrew Davies. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad yn amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd yn y pumed Cynulliad i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny?
Wel, rwyf yn gwybod am ddiddordeb Jeremy Miles yng ngwaith Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, wrth gwrs, dan gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Davies, cyn Aelod o'r Senedd hon. Fe wnaeth ailymgynnull y llynedd, ym mis Chwefror y llynedd, i edrych ar sut y mae'r argymhellion yn cael eu rhoi ar waith. Bu’n rhaid i bob Gweinidog ymateb wedyn, yn amlwg. Adroddwyd ar eu canfyddiadau yn gynharach eleni—ym mis Chwefror eleni. Bu cynnydd yn ystod y 18 mis hynny, ers cyhoeddi'r adroddiad cyntaf. Mae'n hanfodol bwysig i sicrhau ein bod yn gweld sut mae ffyrdd cydweithredol newydd o weithio a gwneud busnes yn dod yn arfer yn hytrach na bod yn eithriad. Ychydig o enghreifftiau, efallai: cyhoeddi'r cynllun gweithredu modelau cyflawni amgen—a ddeilliodd o'r adolygiad a gynhaliwyd gan Keith Edwards, 'Ai Cydfuddiannaeth yw’r Ffordd Ymlaen? Ffyrdd Newydd o Gynllunio a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru'—a hefyd cyfleuster cymorth newydd, Busnes Cymdeithasol Cymru. Nawr, yn ddiddorol, cyn belled ag y mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn y cwestiwn, prosiect cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop oedd hwnnw. Gwnaethom gyfrannu arian i’r prosiect gwerth £11 miliwn a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cefnogi mentrau a chwmnïau cydweithredol Busnes Cymdeithasol Cymru a ariennir gan yr UE.
A gaf i godi dau fater gyda chi, arweinydd y tŷ? Yn gyntaf: a fyddai modd i ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol ar y rhwymedigaeth sydd gan awdurdodau lleol, yn ei dyb ef, i gynnal a chadw ffyrdd cyngor? Ymddengys, ar hyd a lled rhanbarth de Cymru, bod cynghorau wedi rhoi'r gorau i lenwi tyllau yn y ffyrdd a chynnal arwynebau y briffordd gyhoeddus. Ac mae’r nifer o etholwyr sy’n sôn am y broblem hon i mi—a gallaf weld Aelodau penodol yn piffian chwerthin ar hyn, ond, mewn gwirionedd, mae’n fater eithaf pwysig i’r rhan fwyaf o Aelodau, ac i lawer o etholwyr, sy'n dioddef melltith y ceudyllau a’r arwynebau peryglus, mae'n debygol mai dyna un o'u blaenoriaethau pwysicaf wrth ddod i weld eu Haelodau etholedig. Byddwn i’n ddiolchgar—pan fo rhwymedigaeth ar yr awdurdod lleol i gynnal yr arwynebau hynny, beth yw disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran cyflawni’r rhwymedigaeth honno, ac, yn wir, pan fydd y Gweinidog yn neilltuo arian i awdurdodau lleol, a yw’n sicrhau—ac yn sicrhau yn bendant—bod yr awdurdodau lleol hynny yn gwybod bod dyletswydd arnynt i gynnal ffabrig y briffordd yn eu hardaloedd?
Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw ychwanegu llais at y pryderon a godwyd eisoes ynglŷn â’r strategaeth TB buchol—ac rwyf yn datgan buddiant fel ffermwr da byw—sydd gan Lywodraeth Cymru. Oes, mae llawer o reolaethau sydd ar waith ar hyn o bryd, ond un o elfennau canolog y strategaeth oedd y polisi brechu—a gallwn ddadlau rhinweddau’r strategaeth honno, ond, yn amlwg, dyna a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth flaenorol, ac rwyf yn cymryd mai polisi’r Llywodraeth bresennol yw cynnal hynny—ac mae'n ffaith nad yw cyflenwad y brechlyn ar gael bellach. Felly, mae un o elfennau canolog strategaeth y Llywodraeth i ddileu TB buchol yng Nghymru wedi ei dileu, ac mae'n hanfodol i ffermwyr da byw ddeall yn union sut y bydd y Llywodraeth newydd yn cyflwyno strategaeth gynhwysfawr sydd yn gydgysylltiedig yn hytrach na dim ond edrych yn dda. Yn y pen draw, mewn sawl rhan o Gymru, mae’r clefyd ofnadwy hwn yn dirwyn llawer o fusnesau i ben oherwydd y costau eithafol y mae’n rhaid eu talu a'r trawma emosiynol pan fydd TB buchol yn effeithio ar y busnes penodol hwnnw.
Andrew R.T. Davies, rwyf yn deall yn iawn pryderon etholwyr a phreswylwyr am gyflwr eu ffyrdd a'u ffyrdd lleol. Gwyddom fod hwnnw'n fater a gaiff ei godi gyda phob un ohonom fel Aelodau Cynulliad. Rwy'n falch iawn o'r ffaith mai Llywodraeth Lafur Cymru a weithiodd gyda llywodraeth leol i ddatblygu'r fenter benthyca i lywodraeth leol, a’n galluogodd wedyn i gefnogi a chynorthwyo benthyca awdurdodau lleol, nad oedd gennym ni, ac sydd ganddyn nhw bellach, i fuddsoddi’n gynhwysfawr mewn gwella strwythur y ffyrdd ledled Cymru gyfan, sy'n cynnwys pob un o'n 22 awdurdod lleol. Wrth gwrs, arweiniodd hynny at filoedd o swyddi adeiladu ac amgylcheddau gwell o lawer, yn enwedig mewn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Nawr, wrth gwrs, byddem yn hoffi parhau â’r mathau hynny o fentrau pe byddai gennym, wrth gwrs, setliad ariannol gwell gan Lywodraeth y DU, dan arweiniad eich plaid chi, gan fod y rhain yn faterion allweddol, y mae llywodraeth leol, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, yn dymuno mynd i'r afael â nhw.
Rwyf wedi ymateb yn gynharach i’r cwestiynau ynglŷn ag ymrwymiad ein Llywodraeth i ddileu TB buchol. Wrth gwrs, dyma un o brif flaenoriaethau Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn dilyn y gyflafan yn Orlando a'r wylnos y tu allan i'r Senedd neithiwr, a wnaiff yr Ysgrifennydd Busnes ystyried amserlennu dadl i roi cyfle i Aelodau amlygu meysydd polisi lle y gellid gwneud cynnydd pellach o ran sicrhau mynd i’r afael â’r gwahaniaethu a ddioddefir gan aelodau o'r gymuned Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol? Yn yr wylnos neithiwr—a gwn fod y Gweinidog yno—roedd siaradwyr yn amlygu materion sy’n peri pryder yng Nghymru, gan gynnwys troseddau casineb, bwlio homoffobig, yr ydym wedi eu trafod yn y Siambr hon ar sawl achlysur, mi wn, ac anghydraddoldeb o ran rhoi gwaed. Yng ngoleuni’r profiadau ofnadwy yn Orlando, a yw hi’n cytuno y dylem ni asesu ein perfformiad yng Nghymru o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb? Efallai y byddai cael dadl yn y Siambr yn rhoi cyfle i bob un ohonom rannu’r safbwyntiau hynny.
Diolchaf i Julie Morgan am godi hyn eto, yn dilyn cwestiynau Simon Thomas ynglŷn â’r datganiad busnes yn gynharach, ac, unwaith eto, pa mor bwysig oedd hi ein bod ni yno—aelodau'r Llywodraeth yn ogystal ag Aelodau’r Cynulliad—i wrando ar y negeseuon pwerus hynny a chlywed gan y rhai sydd wedi eu heffeithio gan y drosedd casineb honno, a hefyd i weld erthygl dda iawn yn y 'Western Mail' heddiw gan Andrew White: sefyll gyda'n gilydd yn erbyn casineb ac edrych at ddyfodol gwell. Hefyd, a gaf i ddatgan pa mor bwerus y siaradodd Jeremy Miles, Hannah Blythyn ac Adam Price ddoe yn yr wylnos a'i roi ar y cofnod sut yr ydych chi wedi gwneud y safiad hwnnw ac i ni gael ein dwyn i gyfrif ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu a rhwystrau i gydraddoldeb Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru. Wrth gwrs, fel yr wyf wedi ei ddweud, mae’n ymwneud â gweithio'n agos â'n gilydd. Hefyd, credaf ei fod yn ymwneud â gweithgareddau mewn ysgolion, yn ogystal â gweithleoedd, a’r gymuned yn cydweithio â'n gwasanaethau cyhoeddus i fynd i'r afael â throseddau casineb.
Ac yn olaf, Nick Ramsay.
Diolch. Arweinydd y tŷ, tybed a gaf i ofyn i chi am ddiweddariad gan Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros seilwaith a thrafnidiaeth ar ddatblygiad cynllun metro de Cymru. Bydd aelodau’r Cynulliad blaenorol yn cofio fy mhryder mawr pan gafodd Trefynwy ei hepgor o rai o fapiau metro de Cymru, ac wedyn ailymddangosodd ar eraill cyn cael ei hepgor o fapiau dilynol. Felly, byddwn i’n ddiolchgar am ddiweddariad ar ein sefyllfa o ran sicrhau bod metro de Cymru yn cyrraedd pob ardal o rwydwaith de Cymru y mae i fod i’w chyrraedd, gan gynnwys rhai o'r ardaloedd gwledig mwy anghysbell, nid yr ardaloedd trefol yn unig.
Yn ail, a gawn ni ddatganiad cyfredol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a llywodraeth leol ar ein sefyllfa o ran datganoli trethi ac yn benodol y gwaith o ddatblygu swyddogaeth trysorlys Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru? Yn eich swyddogaeth flaenorol, arweinydd y tŷ, roeddech yn ymwneud yn helaeth â hyn. Gwn eich bod wedi trosglwyddo’r awenau bellach i'r Aelod dros Orllewin Caerdydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn, wrth i amser fynd yn ei flaen, ein bod yn sicrhau ein bod yn symud tuag at y strwythurau y bydd eu hangen arnom pan fydd rhai trethi yn cael eu datganoli, fel y gall y Cynulliad Cymru hwn a’r Llywodraeth Cymru hon fwrw ati ar unwaith ar yr adeg honno. Mae amser yn prysuro yn ei flaen a chredaf fod angen i ni wybod ein sefyllfa ar hyn o bryd o ran datblygu’r swyddogaethau hynny.
Diolch i Nick Ramsay yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Wrth gwrs, bu ef yn eiriolwr cryf dros ei etholaeth Sir Fynwy a Threfynwy wrth gydnabod pwysigrwydd y metro, yn enwedig i Sir Fynwy. Rydych chi wedi codi hyn sawl gwaith ac rydym wedi cael diweddariadau neu ddatganiadau i'r Cynulliad, ac wrth gwrs bydd y Gweinidog dros yr economi a seilwaith yn dymuno dod i'r Siambr maes o law ac, wrth gwrs, gan ein bod wedyn yn symud i'r pwyllgorau yr ydym yn eu sefydlu, bydd rhagor o gyfleoedd, ac yn wir cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet yfory, wrth gwrs, a fyddai'n briodol iawn.
O ran eich ail gwestiwn, wrth gwrs, mae fy nghyfaill Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol hefyd yn bwrw ati ar unwaith o ran symud ymlaen, gan wneud cynnydd da wrth baratoi at gyflwyno trethi datganoledig. Rydym wedi cael Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, yr oeddwn yn falch iawn o’i datblygu, gyda deddfwriaeth bellach ar drethi trafodiad tir a gwarediadau tirlenwi i’w cyflwyno yn ddiweddarach eleni. Ond yr hyn sydd hefyd yn hanfodol bwysig, Nick Ramsay, yw’r trafodaethau â Llywodraeth y DU, yn ceisio cael cytundeb ar y fframwaith cyllidol a fydd yn sail i’n trefniadau ariannu yn y dyfodol.
Diolch, Weinidog.